Sefydlu Swyddog Gwirfoddol Traws+ ymysg y Swyddogion Rhyddid a etholir bob blwyddyn gan UMAber.

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 30/10/2023

Yn darfod ar: 30/10/2023

Statws: Cyflawn


Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Crynodeb

A ddylai UMAber sefydlu rôl Swyddog Gwirfoddol Traws+ fel un o’r Swyddogion Rhyddid?

Manylion

Galwyd Aberystwyth yn brifddinas hoyw Cymru. Yng nghyfrifiad 2021, Ceredigion sydd â’r ganran uchaf o bobl o dan 16 sy’n nodi hunaniaeth rhyweddol gwahanol i’r un a roddwyd iddynt ar enedigaeth (0.23%), dyma’r ganran uchaf mewn awdurdod lleol yng Nghymru a’r pumed uchaf yn y DU. Fodd bynnag, er bod rhyddid i bobl Draws+ yn cael ei gynrychioli gan y Swyddog LHDTC+, mae’n gofyn am dactegau ac ystyriaethau ar wahân neu’n ychwanegol i’r rhai sydd gan fudiad LHDTC+ ehangach. Er enghraifft, mae myfyrwyr traws+ yn wynebu anawsterau wrth geisio defnyddio gofal iechyd, cyfleusterau toiled, a gwybodaeth iechyd a diogelwch sy’n gynhwysol i bobl draws o gymharu â hunaniaethau rhamantus a rhywiol LHDTC+ na fydd yn profi’r un rhwystrau. Mae hyn o bryder dybryd yn sgil y tueddiad poblogaidd diweddar o ladd ar hawliau traws. Byddai sefydlu Swyddog Gwirfoddol Traws+ yn rôl etholedig i barhau â’r gwaith rhyddid traws+ ni waeth beth fydd hunaniaeth a buddion y Swyddog LHDTC+, gan gynnal y polisi yn yr Undeb o blaid rhyddid traws+ a LDHTC+ yn gyffredinol ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, mae yna ddau Swyddog Gwirfoddol LDHTC+ a etholwyd ar y cyd. Gan y cynhaliwyd Etholiadau’r Hydref ar gyfer pwyllgor y Swyddogion Gwirfoddol 2023-24, os caiff y syniad hwn ei basio, byddai un o’r Swyddogion Gwirfoddol LDHTC+ presennol yn cymryd rôl y Swyddog Gwirfoddol Traws+  ar gyfer 2023-24, gan y Swyddogion hyn eisoes yn rhannu cyfrifoldebau yn ôl yr anghenion hyn ers y flwyddyn academaidd 2022-23.

Cyflwynwyd gan: Dax Aziraphale FitzMedrud


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina 

prdstaff@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576