Cyffredinol
Canllawiau a Hintiau Handi
Gwefan/E-byst/MS Teams
Is-Ddeddfau a Pholisïau
Ystafelloedd yn Adeilad yr Undeb Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu i archebu ystafelloedd yn yr Undeb e-bostiwch Dderbynfa’r Undeb Prif Ystafell (lawrlwythwch y ffurflen archebu yma) Picture House (dim trefniadau cyn 4pm ac wedyn dim ond os ydyn nhw’n gweddu i gynllun yr ystafell) Ystafelloedd Cyfarfod: 1, 2, 3 a 4 Gofod Swyddfa Ystafell 5
Cyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon
Cysylltwch â Chydlynydd Chwaraeon yr UM, Emily Stratton, ar ems47@aber.ac.uk, neu ewch yn uniongyrchol i'r Ganolfan Chwaraeon drwy gysylltu â Tia Woodward ar tiw@aber.ac.uk
Sylwer: Os nad yw'n rhan o'r cynllun Oriau Am Ddim, codir tâl o £20 yr awr (Llun-Gwener) a £30 yr awr (Sadwrn-Sul) am bob defnydd o gyfleusterau’r Ganolfan Chwaraeon.
Ystafelloedd y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau
Mae gan y Brifysgol ystod eang o ystafelloedd ar gael i'w harchebu; cliciwch yma i weld popeth sydd ar gael
Mae gan Ganolfan y Celfyddydau hefyd amryw o ardaloedd ar gael i grwpiau eu defnyddio. Cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau yn uniongyrchol drwy e-bostio artsadmin@aber.ac.uk
Mae gan Undeb y Myfyrwyr fflyd o gerbydau i'ch Clwb/ Cymdeithas eu defnyddio, gan gynnwys bws-mini sydd â mynediad hwylus i bobl anabl.
I archebu neu drafod eich gofynion, e-bostiwch:
Dolenni defnyddiol:
Ffair y Glas yw ein ffordd o arddangos yr holl wahanol glybiau a chymdeithasau sydd gennym yma yn Aberystwyth, ynghyd ag ystod o fusnesau lleol a chyfleoedd i gyfranogi. Nid yw'n hir nawr tan Ffair y Glas 2020; bydd rhagor o fanylion am sut i archebu stondin ar gael yn fuan!
Mae Hyfforddiant ar gyfer Pwyllgorau wedi mynd ar-lein!
Eleni byddwn yn cynnal hyfforddiant y pwyllgorau yn rhithwir drwy ddefnyddio Bwrdd-du. Bydd rhai sesiynau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb o hyd (e.e. hyfforddiant cymorth cyntaf, cymorth cyntaf iechyd meddwl, ymgyfarwyddo â’r bysiau-mini, symud eitemau trwm, a.y.b.) yn y flwyddyn academaidd newydd.
Rydym wedi ehangu'r hyfforddiant eleni i ddarparu amryw o sesiynau newydd i'ch paratoi'n well ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn seiliedig ar adborth gan bwyllgorau blaenorol. Mae'r sesiynau rhithwir fel a ganlyn:
- Gwybodaeth Gyffredinol a Rhagarweiniad
- Achrediad Sêr Tîm Aber
- Gwefan a Chyfathrebu
- Cyllid, Cyllidebu a Chodi Arian
- Lles, Amrywioldeb a Chynhwysiant
- Cynnal Digwyddiadau
- Ymdrin â Gwrthdaro ac Anghytuno
- Asesiad Risg
- Ymddygiad, Rheolau a Disgwyliadau
- Gwirfoddoli a Chyflogadwyedd
- Capteiniaid
Bydd gan bob sesiwn ei ffolder ei hun ar Bwrdd-Du a bydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad fideo
- Sleidiau PowerPoint
- Cwis
I ymrestru ar y modiwl:
- Cliciwch y ddolen hon: Hyfforddiant UMAber
- Cliciwch ar 'click here to enrol'
- Cliciwch ar '+ Enrol'