Cyflwyno syniad

Cyflwynwch syniad nawr

Oes gennych chi Syniad o rywbeth yr hoffech ei newid yn yr Undeb?

Mae UMAber yn cael ei arwain yn llwyr gan fyfyrwyr – o’r swyddogion sy'n cael eu hethol i ffurfio ein gwaith, at yr adborth a'r syniadau gan fyfyrwyr sy'n tyfu i ffurfio ein polisïau, ein hymgyrchoedd a'n hymrwymiadau craidd.

Mae’n hawdd dweud wrthym ni am eich syniadau! Cewch ddefnyddio'r ffurflen ar waelod y dudalen hon i ddweud ychydig mwy amdanyn nhw.


enlightenedCyflwynwch Eich Syniad Ymaenlightened

Ffurflen Rhannu Syniad

Cyflwynwch nawr: E-bostiwch llaisum@aber.ac.uk trwy ddefnyddio Pwnc: Syniad/Diwygiad Polisi

 

Gallwch gyflwyno syniad ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Fodd bynnag, os ydych chi am i'ch syniad gael ei drafod mewn cyfarfod democrataidd, dyma'r dyddiadau allweddol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Dyddiadau Allweddol  2026-2027 

Dyddiad Cau Syniad Cyfarfod
09/10/2026 Y Senedd: 26/10/2026 - 18:00-20:00 - Undeb Picturehouse
06/11/2026 Y Senedd: 23/10/2026 - 18:00-20:00 - Undeb Picturehouse
05/02/2027 Y Cyfarfod Mawr: 01/03/2027 - 18:00 - 20:00 - Undeb Main Room
12/04/2027 Y Senedd: 26/04/2027 - 18:00-20:00 - Undeb Picturehouse

 


 

An All Student Vote is used as a mechanism when a decision is of too much importance of controversy to be decided by Senedd, the Officer team or Trustee Board.

An All Student Vote can be called by:

  • a motion passed by a majority of the Trustee Board;
  • a majority vote of a Senedd, AGM, or Special General Meeting
  • a secure petition of 250 ordinary members (including student number) submitted to the Chair of Trustees

There is a minimum number of votes needed to be quorate (accepted as a passed motion) of 500 votes.

These can also be used as a call for a vote of No Confidence in a Full-time, Volunteer Officer and External/student trustee member.

For more information about an All Student Vote, email suvoice@aber.ac.uk

 

Defnyddir pleidlais holl fyfyrwyr pan fydd penderfyniad o bwys mawr neu yn rhy ddadleuol i’r Senedd, y Tîm Swyddogion neu Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ei wneud ar eu pennau eu hunain.

Gellir galw am bleidlais holl fyfyrwyr trwy:

  • Cynigiad a basiwyd gan fwyafrif o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
  • Pleidlais gan fwyafrif mewn Senedd, Cyf Cyff, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig.
  • Deiseb a lofnodwyd gan 250 aelod cyffredinol (yn cynnwys y rhif myfyriwr)  a’i gyflwyno i Gadeirydd Cyfansoddiad yr Ymddiriedolwyr.

Mae’n rhaid cael o leiaf 500 o bleidleisiau i’r cynigiad gael ei basio a bod yn gworwm.

Gall y pleidleisiau hynny weithio fel galwad am Bleidlais o Ddiffyg Hyder mewn Swyddog Llawn Amser, Gwirfoddol, ac ymddiriedolwr myfyriwr/allanol.

I gael gwybodaeth bellach am bleidlais holl fyfyrwyr, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk

Ond beth yw Syniad?

Syniad yw'r hyn rydyn ni'n ei alw'n gyflwyniad gan unrhyw fyfyriwr sy'n gofyn i Undeb Aberystwyth wneud y canlynol:

 

  • Dechrau gweithgaredd newydd
  • Rhoi'r gorau i weithgaredd neu ei newid
  • Mabwysiadu neu newid safbwynt
  • Diweddaru neu newid polisi cyfredol
     

A llawer mwy! Gallai unrhyw beth fod yn syniad, cyhyd i fod yn effeithio ar fyfyrwyr Aberystwyth.


Rhannu Syniadau

Mae amrywiaeth o syniadau’n cael eu cyflwyno! Os oes gennych chi syniad i’w ‘ddatrys yn gyflym’*, mae’n bosib y bydd angen i chi roi gwybod i ni mewn dwy frawddeg yn unig, tra bod rhai syniadau sy’n dod yn bolisïau yn gallu bod yn gwpl o dudalennau o hyd!

Dilynwch yr arweiniad isod wrth lenwi'r ffurflen, yn enwedig wrth geisio cyflwyno'r syniad fel polisi posib. Cofiwch fod gennym ni staff gerllaw i'ch helpu chi i ysgrifennu syniad neu i weithio gyda chi er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus unwaith iddo gael ei gyflwyno.

Os hoffech chi drafod eich syniad cyn ei gyflwyno, cysylltwch â ni

 

Oes ateb cyflym?*

Weithiau cawn syniad sydd ag ateb hawdd a dim gwrthwynebiad.

Er enghraifft:

  • Syniadau heb unrhyw oblygiadau gwleidyddol nac ariannol mawr.
  • Ceisiadau i newid y ffordd rydyn ni'n cyflwyno gwybodaeth benodol, neu i sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael e.e. adnoddau ar ein gwefan
  • Cais syml i wneud newid bach yn yr adeilad e.e. arwyddion
  • Cais sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol ag Undeb Aberystwyth, ond gallwn ni godi'r mater mewn pwyllgorau perthnasol gyda'r Brifysgol e.e. newidiadau mewn gwasanaethau masnachol
     

'Wrth gwrs, fydd dim modd datrys pob syniad yn gyflym, a byddwn ni bob amser yn gweithio gyda'r sawl sy'n cyflwyno syniad i sicrhau eu bod nhw'n hapus canlyniadau.

Os oes ateb cyflym i'ch syniad, byddwn ni'n cysylltu; chi i roi gwybod i chi am yr hyn gallwn ni ei wneud!


Sut i ysgrifennu Syniad

  • Teitl bachog sy'n disgrifio'r syniad yn glir. (Syml - Cofiadwy - Bachog - Byr - Poblogaidd - Clyfar - Clir - Perthnasol)
  • Manylion llawn - mae hyn yn disgrifio diben y syniad a'r hyn y byddai';n ei gyflawni. Dylai'r manylion gynnwys gwybodaeth o'r ddau grwp hyn:

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

  • Beth yw'r ffeithiau?
  • Oes unrhyw ymchwil neu ystadegau i gefnogi'ch syniad?
  • Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth?

Beth yw'r datrysiadau?

  • Beth all UMAber wneud o ganlyniad?
  • A fydd yn effeithio ar unrhyw bolisi presennol neu a fydd angen diweddaru polisi presennol?
  • Beth yw'r deilliannau dymunol?
     

Crynodeb - crynhowch eich syniad mewn un frawddeg syml sy'n esbonio'r hyn bydd eich syniad yn ei gyflawni.

Cofiwch mair peth pwysicaf yw ein bod ni'n clywed am yr hyn sydd o bwys i chi! Peidiwch; gadael i'r ffurflen eich digalonni; mae'n bosibl i ni drefnu cyfarfod i sgwrsio am eich cyflwyniad yn fanylach i wneud yn siwr ei fod yn addas i'r Senedd.


Sut mae'r broses gyflwyno syniad yn gweithio?

 


enlightenedCyflwynwch Eich Syniad Ymaenlightened

Ffurflen Rhannu Syniad

Cyflwynwch nawr: E-bostiwch llaisum@aber.ac.uk trwy ddefnyddio Pwnc: Syniad/Diwygiad Polisi


I Ba Gyfarfodydd Y Caiff Y Syniad Ei Anfon?

Os oes angen trafod y syniad, caiff ei gyflwyno i'r Senedd neu i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Y Senedd yw'r corff gwneud penderfyniadau uchaf yn Undeb Aberystwyth ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr etholedig sy'n adolygu ac yn trafod Syniadau. Mae ganddynt y pwer i bleidleisio'r Syniadau hyn mewn Polis'au sydd yn parhau 3 blynedd. Yn ogystal, unwaith y flwyddyn rydym yn cynnal Y Cyfarfod Mawr (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol), sydd yn agor y cyfle hwn i bob myfyriwr ac mae gan Y Cyfarfod Mawr yr un pwerau Y Senedd.

Y Senedd yw corff yr etholedig sy'n adolygu ac yn trafod syniadau, ac mae ganddo rym i bleidleisio i'w troi'n bolis'au fydd yn para 3 blynedd. Unwaith y flwyddyn, rydyn ni'n cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, sy'n agor y cyfle hwn i bob myfyriwr. Mae ganddo'r un grymoedd Y Senedd.

Bydd y syniadau a gymeradwywyd yn cael eu cyhoeddi cyn y cyfarfod a gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno gwelliant. Yn y cyfarfod, bydd syniadau a gwelliannau'n cael eu trafod cyn i aelodau'r Senedd bleidleisio i'w pasio neu beidio.

Os caiff eich syniad ei gymeradwyo i'r Senedd, cewch wahoddiad i'w gyflwyno yn y cyfarfod nesaf gan ddilyn y drefn drafod hon:

  • Hyd at 3 munud gan y cyflwynydd (chi) gyda chwestiynau i ddilyn.
  • Bydd cyfnod o drafod yn cael ei neilltuo er mwyn caniat'r aelodau mewn grwpiau i rannu eu barn.
  • Dadl agored lle bydd y cadeirydd yn dewis siaradwyr ac yn cadw cydbwysedd.
  • Araith fydd yn crynhoi'r syniad.
  • Ar l araith grynhoi'r syniad, bydd pleidlais ar y syniad hwnnw'n cael ei chynnal ar unwaith. Hefyd, bydd yr aelodau'n gallu dewis cychwyn. Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth ar y broses hon, gweler ein cyfansoddiad yma.

Bydd pob syniad sy'n cael ei basio a'i droi'n bolisi gan y Senedd yn cael ei gyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Byddan nhw'n sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio gyfraith a'n hamcanion elusennol.
 


Cyflwyno Syniad ar Gyfer Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr

Defnyddir pleidlais holl fyfyrwyr pan fydd penderfyniad o bwys mawr neu yn rhy ddadleuol i'r Senedd, y T'm Swyddogion neu Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ei wneud ar eu pennau eu hunain.

Gellir galw am bleidlais holl fyfyrwyr trwy:

  • Cynigiad a basiwyd gan fwyafrif o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
  • Deiseb a lofnodwyd gan 250 aelod cyffredinol (yn cynnwys y rhif myfyriwr) a'i gyflwyno i Gadeirydd Cyfansoddiad yr Ymddiriedolwyr.

Mae'n rhaid cael o leiaf 500 o bleidleisiau i'r cynigiad gael ei basio a bod yn gworwm.

Gall y pleidleisiau hynny weithio fel galwad am Bleidlais o Ddiffyg Hyder mewn Swyddog Llawn Amser, Gwirfoddol, ac ymddiriedolwr myfyriwr/allanol.

I gael gwybodaeth bellach am bleidlais holl fyfyrwyr, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk

 

Defnyddir pleidlais holl fyfyrwyr pan fydd penderfyniad o bwys mawr neu yn rhy ddadleuol i’r Senedd, y Tîm Swyddogion neu Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ei wneud ar eu pennau eu hunain.

Gellir galw am bleidlais holl fyfyrwyr trwy:

  • Cynigiad a basiwyd gan fwyafrif o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
  • Pleidlais gan fwyafrif mewn Senedd, Cyf Cyff, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig.
  • Deiseb a lofnodwyd gan 250 aelod cyffredinol (yn cynnwys y rhif myfyriwr)  a’i gyflwyno i Gadeirydd Cyfansoddiad yr Ymddiriedolwyr.

Mae’n rhaid cael o leiaf 500 o bleidleisiau i’r cynigiad gael ei basio a bod yn gworwm.

Gall y pleidleisiau hynny weithio fel galwad am Bleidlais o Ddiffyg Hyder mewn Swyddog Llawn Amser, Gwirfoddol, ac ymddiriedolwr myfyriwr/allanol.

I gael gwybodaeth bellach am bleidlais holl fyfyrwyr, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576