Y Gymuned Gymraeg

Yma un UMAber rydym yn Caru Cymraeg! Mae dewis i astudio yn Aberystwyth yn golygu mae’n bosib eich bod chi yn hefyd, felly os ydych yma i gysylltu ag myfyrwyr Cymraeg eu hiaith eraill, neu eisiau dysgu mwy ynglyn ar iaith a diwylliant, mae’n debyg fydd rhywbeth gennym i helpu.
Aberystwyt Welsh students' union logo

Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA)

Mae gan UMCA hanes doeth o gymuned, cynrychiolaeth a diwylliant sy’n pontio bron i 50 mlynedd, ond mae rhai o’n grwpiau wedi bod yn mynd am lot hirach!
Wedi ei arwain gan y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llwydd UMCA efo cymorth gan staff yr UM, mae UMCA yn cynrychioli myfyrwyr yn y pwyllgorau uchaf prifysgol, yn cynnig calendr llawn o weithgareddau i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, ac yn gweithio i sicrhau mynediad i addysg a chyfleodd cyfrwng Cymraeg.

 

Ymunwch a dilynwch newyddion, digwyddiadau a mwy ar Dudalen Cymdeithas UMCA. Mae o am ddim!

Iaith a Diwylliant

Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop a heddiw mae ganddi bron i 900,000 o siaradwyr. Diolch i sawl cenhedlaeth o ymgyrchoedd i’w hamddiffyn, mae deddfau Cymreig yn bodoli i sicrhau mynediad i addysg, gwasanaethau a chymunedau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn bwysig oherwydd i lawer o bobl, Cymraeg yw'r  iaith gyntaf maen nhw’n ei dysgu gartref, beth maen nhw’n ei ddefnyddio i siarad yn yr ysgol, gyda theulu a ffrindiau ac yn y gwaith.

Byw yn y Gymraeg

Mae gan siaradwyr Cymraeg yn Aberystwyth yr hawl i’r rhan fwyaf o wasanaethau’r Brifysgol yn y Gymraeg, fel yr amlygwyd gan yr ymgyrch #MAEGENIHAWL. 

Mae UMCA yn cynnal calendr prysur iawn o ddigwyddiadau bob blwyddyn i gynnig y cyfle i fyfyrwyr gymdeithasu drwy’r Gymraeg.

Mae gan yr Undeb a’r Brifysgol bolisïau dwyieithog llym, ac maent yn rhoi adnoddau sylweddol i sicrhau bod ein campws, ein cyfathrebiadau a’n sgyrsiau yn amlygu’r iaith, ac yn ei defnyddio’n falch.

Mae Neuaddau Preswyl Cymraeg Aberystwyth, Pantycelyn, wrth galon y gymuned Gymraeg ac mae ei holl ddeiliaid yn siaradwyr Cymraeg, neu'n ddysgwyr ymroddedig. Mae Pantycelyn yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd cymunedol cyfoes a modern ar gyfer bywyd prifysgol, gan gynnwys ystafelloedd astudio, ymarfer, cyfarfod, neu ymlacio.

I archebu ystafell ewch i: ystafellaberrooms.simplybook.it

neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.umaber.co.uk/timaber/gymunedgymraeg/pantycelyn/

Dysgu Cymraeg

Tra bod UMCA yn bodoli i ddarparu cymuned i alluogi myfyrwyr i fyw yn Gymraeg, rydym hefyd yn ymdrechu i fod yn gynhwysol ac yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu i gymryd rhan.

Mae sawl opsiwn ar gael i fyfyrwyr Aberystwyth ddysgu Cymraeg am ddim, yn ogystal â llawer o apiau dysgu iaith y gallwch eu defnyddio i ymarfer.

Am fwy o wybodaeth am wersi Cymraeg, cysylltwch â learnwelsh@aber.ac.uk neu ewch learnwelsh.cymru

Chwaraeon, Celf ac Adloniant

Nid dim ond i iaith y mae'r Gymraeg yn berthnasol - mae'n ddiwylliant! Mae gan Gymru gysylltiad cryf â’r celfyddydau, chwaraeon ac adloniant, ac mae’n cynnal dathliadau unigryw ar draws y flwyddyn.

Mae artistiaid o bob math yn cymryd rhan bob blwyddyn mewn Eisteddfod Genedlaethol – gair Cymraeg sy’n disgrifio gwyl sy’n dathlu ein barddoniaeth a’n cerddoriaeth. Mae'r gair yn cyfieithu fel 'Sit and Be'. Mae myfyrwyr Aberystwyth yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn, yn ogystal â’r Eisteddfod Ryng-golegol.

Mae Cymru yn enwog ledled y byd am ein sgiliau ar y cae Rygbi a gall gemau ddenu torfeydd enfawr o gefnogwyr. Mae yna nifer o grwpiau chwaraeon Cymreig o hyd sy'n cyfarfod ac yn chwarae, y rhan fwyaf ohonynt yn rhagddyddio'r UM ei hun!

Yn ac o gwmpas Aber

Does dim rhaid edrych yn bell yn Aber i ddod o hyd i ambell dafell o Ddiwylliant a Hanes Cymru. Saif Castell Aberystwyth rhwng dau draeth hardd o arddull Fictorianaidd. Mae Constitution Hill a’r Royal Pier yn dirnodau i’n hanes hefyd, ac mae sefydlu Coleg Prifysgol Cymru yn yr Hen Goleg 150 mlynedd yn ôl yn gyfoethog gyda hanesion y gymuned Gymreig yn dod at ei gilydd i ariannu ac adeiladu’r sefydliad eiconig a arweiniodd at y rhan fwyaf o Brifysgolion Cymru heddiw.

Mae Aberystwyth mewn sefyllfa berffaith i ymweld â gwahanol rannau o Gymru. Gall teithiau byr fynd â chi i draethau hardd (traeth Ynyslas) a mannau gwledig, tra bydd cysylltiadau ymhellach i’r gogledd yn ildio i fynyddoedd prydferth Eryri a phentrefi eiconig Cymru. Mae’r ffordd i’r de (yn y diwedd) yn arwain at brifddinas Caerdydd – fetropolis fodern gyda chynhyrchiad adloniant byd enwog, chwaraeon a hyd yn oed yn gartref i’n llywodraeth ein hunain.


Digwyddiadau

Mae UMCA yn cynnal nifer o weithgareddau ar draws y flwyddyn sy’n dathlu Cymru a’r Gymraeg.

SWN

Mae Swn yn noson gerddoriaeth a chymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Mae'n gyfle perffaith i brofi diwylliant a cherddoriaeth Cymru, ac i gwrdd â myfyrwyr Cymraeg eraill.

Cyf Cyff UMCA

Mae Cyfarfodydd Cyffredinol, gan gynnwys y Parth Diwylliant Cymreig, yn siawns i ddysgu mwy a chymryd rhan mewn Gweithgareddau UMCA, yn ogystal â chodi syniadau a darparu eich llais fel myfyrwyr.

Wythnos Cymraeg

Gan ddechrau ar 1af Mawrth, diwrnod ein nawddsant Dewi Sant, mae Cymru yn dathlu ei hunaniaeth genedlaethol. Cadwch lygad am Welsh Cakes am ddim ar y campws! Mae tref Aberystwyth yn cynnal gorymdaith fawr ar y penwythnos.

Ymunwch a dilynwch newyddion, digwyddiadau a mwy ar Dudalen Cymdeithas UMCA. Mae o am ddim!

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576