Pantycelyn

Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 a death yn neuadd cyfrwng Cymraeg yn 1974. Yn dilyn adnewyddiad sylweddol, mae’r adeilad bellach yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd cymunedol cyfoes ar gyfer myfyrwyr a bywyd mewn Prifysgol. Mae rhai o'r ardaloedd cymunedol ar gyfer defnydd trigolion Pantycelyn yn unig. Mae yna hefyd ystafelloedd astudio, cyfarfod, ymarfer ac ymlacio ar gael i bobl nad ydynt yn breswylwyr ym Mhantycelyn allu eu harchebu.

I archebu ystafell ewch i:

ystafellaberrooms.simplybook.it

  1. Dewiswch ‘Archebu Nawr’
  2. Dewiswch yr ystafell yr hoffech
  3. Ewch i’r mis rydych chi ei angen
  4. Dewiswch ddyddiad
  5. Dewiswch amser o’r opsiynau sydd ar gael
  6. Llenwch y ffurflen fer
  7. Cytunwch â’r amodau a’r telerau
  8. Os oes ond angen un awr, cliciwch ‘Cadarnhau Archeb’
  9. Os oes angen mwy o amser neu amserau eraill / ystafelloedd gwahanol, dewiswch ‘Ychwanegu archeb arall’
  10. Dilynwch gamau 2-6
  11. Pan fyddwch wedi dewis yr holl ystafelloedd / amserau sydd angen, gwasgwch ‘Cadarnhau Archeb’

Noder - Os oes angen cymorth paratoi ar gyfer eich digwyddiad gyda dodrefn neu offer arbennig, dylech archebu 7 diwrnod o flaen llaw. Dylid hefyd gynnwys amser o fewn eich archeb i osod yr ystafell, ac amser i’w gadael fel ag yr oedd cyn eich digwyddiad. Os oes angen adnoddau ychwanegol, archebion cyson, neu os ydych am archebu ar gyfer sefydliad allanol e-bostiwch undeb@aber.ac.uk.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i archebu'r ystafelloedd canlynol:

  • Undeb y Myfyrwyr
    • Ystafell / Room 1
    • Ystafell / Room 2
    • Ystafell / Room 3
    • Ystafell / Room 4
    • Ystafell / Room 5
    • Picturehouse yr UM
    • Y Prif Ystafell / Main Room
  • Pantycelyn
    • Ystafell Gyfarfod / Meeting Room 1
    • Ystafell Gyfarfod / Meeting room 2
    • Ystafell Astudio / Study Room 1
    • Lolfa Fach
    • Ystafell Gyffredin Hyn / Senior Common Room

I weld calendr yr archebion yn Outlook:

  1. Ewch i’ch Calendr
  2. Cliciwch ‘Add Calendar’ o’r ddewislen a dewiswch ‘Open Shared Calendar’...
  3. Yn y ffenestr sy’n ymddangos, teipiwch ‘suhstaff@aber.ac.uk’ a chliciwch OK
  4. Dylai’r calendr ymddangos nawr yn eich rhestr o ‘Shared Calendars’. Byddwch yn gallu gweld yr holl archebion (gan gynnwys ystafelloedd yr UM).
  5. ‘Right Click’ ar y calendr yn y ddewislen ar y ochr. Dewiswch ‘Properties’. O dan ‘synchronisation’ mae yna opsiwn didoli. Teipiwch ‘Pantycelyn’ a dewiswch ‘subject field only’ i weld archebion Pantycelyn yn unig.
  6. Rhowch hyd at 24 awr i archebion a wnaed drwy’r system ar-lein ymddangos yn y calendr Outlook.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576