Y Senedd yw'r corff penderfynu uchaf yn UMAber. Bwriad y Senedd yw cynrychioli pob myfyriwr a gosod yr hyn mae UMAber yn credu ynddo ac yn gweithio arno. Mae’r Senedd yn cael ei harwain gan fyfyriwr a gaiff ei ethol yn gadeirydd.
Gall pob myfyriwr gyflwyno syniadau a siarad yn unrhyw Senedd. Os bydd syniad yn cael ei basio drwy'r Senedd, daw’n Bolisi’r Undeb am dair blynedd a bydd yn rhan o'n weithgareddau.
Gallwch weld y dyddiadau a’r papurau ar gyfer cyfarfodydd sydd i’w cynnal, yn ogystal â’r cofnodion ar gyfer cyfarfodydd blaenorol isod.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i’n holl fyfyrwyr. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â hygyrchedd, neu os ydych chi angen unrhyw ddogfennau sy’n perthyn i’r cyfarfod mewn fformat penodol, yna rhowch wybod i ni, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk.
Dyddiadau Allweddol
|
Dyddiad Cau Syniad |
Y Senedd |
lleoliad |
|
|
06/10/2023 |
30/10/2023 @ 18:00 - 20:00 |
UM Picturehouse |
|
|
10/11/2023 |
04/12/2023 @18:00 - 20:00 |
UM Picturehouse |
|
|
09/02/2024 |
04/03/2024 @ 18:00 - 20:00 |
Prif ystafell UM |
|
|
22/03/2024 |
29/04/2024 @ 18:00 - 20:00 |
UM Picturehouse |
|
|
|
|
|
|
Cewch gyflwyno syniad newydd gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Beth sy'n digwydd yn ystod cyfarfodydd?
Mae Cadeirydd yr Undeb yn arwain pob dadl yn ystod Senedd yr Undeb, gan sicrhau bod cyfarfodydd y Senedd cadw at y terfynau amser gofynnol a bod unrhyw drafodaethau'n cadw at y testun.
Mae Senedd yr Undeb yn cynrychioli llais myfyrwyr Aberystwyth drwy osod polisi'r Undeb a gwneud, diddymu a gwella is-ddeddfau UMAber gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr UMAber.
Pwy all pleidleisio?
Mae aelodau'r Senedd yn cynnwys:
- 5 swyddogion llawn amser
- 11 swyddogion gwirfoddol
- 6 swyddogion cyfadran
- 2 aelod o bwyllgor gwaith UMCA
- 5 cynrychiolydd o glybiau chwaraeon
- 5 cynrychiolydd o'r cymdeithasau
Er mwyn trosglwyddo syniadau trwy'r Senedd, rhaid i'r holl gyfarfodydd gyrraedd cworwm 50% +1 o'r holl aelodau sydd â phleidlais.
Beth yw syniad?
Syniad yw ffordd y gallwch chi gyflwyno yr hyn rydych chi'n meddwl y dylai UMAber ei gredu neu weithio arno. Ar ôl ei gyflwyno, mae'n bosib y bydd gofyn i chi ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Senedd ac os caiff ei basio (oni fydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn dweud fel arall) daw’n bolisi a rhaid i'r Undeb ei ddilyn am y tair blynedd nesaf. Ar ôl eu derbyn, cyhoeddir Syniadau ar gyfer y Senedd i'r holl fyfyrwyr i ddarllen ac awgrymu gwelliannau.
Cewch gyflwyno syniad gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Cyfarfodydd Blaenorol:
Get in touch: