Hwb Adnoddau Tîm Aber

Yr Hwb Adnoddau yw’r lle i chi fynd ato i gael adnoddau a gwybodaeth i’ch cefnogi mewn rhedeg grwp myfyrwyr, cliciwch ar adran isod i’w agor ac i gael rhagor o wybodaeth a dolenni.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag aelod y Tîm Cyfleoedd...

  Cydlynydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli
Tom - susocieties@aber.ac.uk

  Cydlynydd Chwaraeon
Chloe - suclubs@aber.ac.uk

  Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr
Tiff - cyfleoeddum@aber.ac.uk
  Swyddog Diwylliant Cymreig & Llywydd UMCA
Elain - cymraegum@aber.ac.uk
  Pennaeth Cyfleoedd Myfyrwyr
Lucie - leg13@aber.ac.uk
     

 

Gwybodaeth a Chanllawiau Cyffredinol
Clwb/Cymdeithas Newydd

 

 

Archebu Ystafell/Cyfleusterau

 

Ystafelloedd yn Adeilad yr Undeb

Gellir gweld pa ystafelloedd sydd ar gael trwy ein system archebu ystafelloedd ar-lein newydd. Gellir hefyd archebu ystafell yn uniongyrchol trwy’r system yma. Os oes unrhyw gwestiynau ynghylch archebu, cysylltwch ag undeb@aber.ac.uk

Yr ystafelloedd sydd ar gael:

  • Y Prif Ystafell (lawrlwytho y ffurflen yma)
  • Picturehouse yr UM (dim archebion cyn 4pm a ni ellir ond archebu sy’n addas i gynllun yr ystafell)
  • Ystafelloedd Cyfarfod 1,2,3,4
  • Ystafell 5

Mae mwy o wybodaeth ar y maint, y cyfleusterau sydd ar gael a gwybodaeth bwysig arall i’w chael trwy’r ddolen i’r system archebu ystafelloedd uchod.

Gellir archebu ystafell rhwng 9am ac 11pm Llun-Sad, a rhwng 11am ac 11pm ddydd Sul y tymor hwn. Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i glybiau a chymdeithasau gynnal stondin yn yr undeb, fel arfer, mae grwpiau yn manteisio ar y cyfle hwn i godi arian (ee gwerthu cacennau). Gellir trefnu hyn wrth Dderbynfa yr Undeb.

 

Pantycelyn

Neuadd breswyl Cymraeg ei hiaith yw Pantycelyn a chalon y gymuned Gymraeg i bob myfyriwr Aber. Mae’r adeilad yn cynnig ystod o ystafelloedd i grwpiau neu unigolion eu defnyddio.

Mae ein system archebu ystafelloedd yn gadael i chi weld pa ystafelloedd sydd ar gael a’u harchebu yn uniongyrchol trwy’r system yma. Os oes unrhyw gwestiynau ynghylch archebu, cysylltwch ag undeb@aber.ac.uk

Yr ystafelloedd sydd ar gael:

  • Y Lolfa Fach
  • Yr Ystafell Astudio
  • Ystafelloedd Cyfarfod 1 a 2
  • Ystafell Gyffredin Hyn

Gweler y ddolen i’r system archebu ystafel uchod i gael mwy o wybodaeth am faint, cyfleusterau a gwybodaeth bwysig arall.

 

 Cyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon

Cysylltwch â Chydlynydd Chwaraeon yr UM, ar suculbs@aber.ac.uk, neu ewch yn uniongyrchol i'r Ganolfan Chwaraeon ar sports@aber.ac.uk

Sylwer: Os nad yw'n rhan o'r cynllun Oriau Am Ddim, codir tâl o £25 yr awr (Llun-Gwener) a £35 yr awr (Sadwrn-Sul) am bob defnydd o gyfleusterau’r Ganolfan Chwaraeon.

 

Ystafelloedd y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau

Mae gan y Brifysgol ystod eang o ystafelloedd ar gael i'w harchebu; cliciwch yma i weld popeth sydd ar gael

Mae gan Ganolfan y Celfyddydau hefyd amryw o ardaloedd ar gael i grwpiau eu defnyddio. Cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau yn uniongyrchol drwy e-bostio artsadmin@aber.ac.uk

 

Cyllid/Yswiriant

 

Cyllid

Rhai awgrymiadau cyllid

  • Eisiau i’ch aelodau dalu arian i gyfrif y grwp ar gyfer taith neu nwyddau ee? Defnyddiwch gais am nwyddau ar y wefan!
  • Eisiau i ni’r UM archebu rhywbeth ar-lein ar gyfer y grwp? Defnyddiwch y ffurflen gais am archeb!
  • Angen archeb prynu ar gyfer cyflenwr? Defnyddiwch y cais am archeb prynu yn y modiwl cyllid!
  • Eisiau talu trydydd parti (ee cyflenwr), defnyddiwch y cais am daliad yn y modiwl cyllid.
  • Angen eich ad-dalu eich hun neu aelod? Defnyddiwch y cais am ad-daliad yn y modiwl cyllid.

Ffurfiau

Yswiriant

 

Bws mini/Teithiau

 

Mae gan Undeb y Myfyrwyr gerbydau lu i’ch grwp myfyrwyr ddefnyddio, gan gynnwys bysiau gwennol sy’n hygyrch i bobl anabl. Gweler y Canllaw isod i gael popeth sydd angen ei wybod am y Bws Gwennol.

I archebu neu drafod eich gofynion, e-bostiwch: suminibus@aber.ac.uk

Pan yn archebu bydd rhaid i chi anfon: Enw’r grwp, enw’r gyrrwr, dyddiad a hyd yr archeb, maint y bws gwennol fydd orau, maint y grwp.

Dolenni defnyddiol:

 

BUCS
Hyfforddiant y Pwyllgorau

 

Hyfforddiant i Bwyllgorau / Hyfforddiant Bach i Bwyllgorau

Bydd Hyfforddiant i Bwyllgorau ar gael ar y Bwrdd Du ar y 1af o Awst 2023 ymlaen!

Mae’r holl bwyllgor wedi cael ei gofrestru ar y modiwlau “Hyfforddiant Gwirfoddoli UMAber” felly y dylai ddod o dan y maes ‘Fy Sefydliadau’ ar hafan eich Bwrdd Du. Y Sesiwn Groesawu ddylai fod y man cychwyn i bob rôl bwyllgor, mae’n trafod yr wybodaeth bwysig sydd angen, ac yn eich cyfeirio at y sesiynau perthnasol ar gyfer eich rôl.

 

Ar y Bwrdd Du mae gan bob sesiwn ei ffeil ei hun sy’n cynnwys:

  • Cyflwyniad Fideo
  • Sleidiau PowerPoint
  • Cwis (ceir ei ddefnyddio i nodi presenoldeb)

Dyma’r sesiynau sydd ar gael fel y canlyn, mae’r sesiynau lle mae’r rolau wedi’u hamlinellu yn golygu eu bod yn hanfodol i’r rolau honno:

  • Sesiwn Groesawu – Gwybodaeth Bwysig a Chyflwyniad (pob pwyllgor)
  • Gwefan Achredu Sêr y Tîm Aber a Chyfathrebu (Ysgrifennydd/Is-lywydd)
  • Cyllid, Cyllidebu a Chodi Arian (Trysorydd a Llywydd)
  • Lles Myfyrwyr, Amrywioldeb a Chynwysoldeb (Swyddog Llesiant neu unrhyw aelod pwyllgor arall)
  • Trefnu Digwyddiad
  • Ymddygiad, Rheolau a Disgwyliadau (Ysgrifennydd cymdeithasol neu aelod pwyllgor arall)
  • Gwirfoddol a Swyddi yn y dyfodol
  • Capteiniaid BUCS (capten a is-gapten)

Ni waeth os nad yw sesiwn yn berthnasol i’ch rôl, mae croeso i chi ei gwylio a dysgu!

 

Rydym hefyd yn cynnal y sesiynau hyfforddiant i bwyllgorau canlynol yn fyw:

Asesiad Risg Beth: Ceir ei gyflwyno gan Dîm Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, mae’r sesiwn hon yn trin gyda phopeth sydd rhaid i chi wybod am ysgrifennu asesiad risg effeithlon ar gyfer eich grwp.

Ble: Ar-lein trwy Microsoft Teams

Pryd: Mwy o ddyddiadau ar y gweill

Mynychu: mae’n rhaid bod o leiaf un person o bob clwb/cymdeithas yn mynychu (oherwydd niferoedd cyfyngedig rydym yn gofyn i un aelod pwyllgor yn unig fynychu o bob grwp)

Cofrestru: Cliciwch y ddolen yma (mwy o ddyddiadau yn fuan)

Cymorth Cyntaf Rhoddir dolen i’r sesiwn hon isod wrth i’r sesiwn fod ar gael!

Cofrestru: Cliciwch y ddolen yma (mwy o ddyddiadau yn fuan)

Os nad ydych chi’n gallu mynd i sesiwn, rhowch wybod i aelod y Tîm Cyfleoedd cyn gynted ag y bo modd.

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576