Syniadau Rhithwir

Nid yw bob amser yn mynd i fod yn bosibl i chi gwrdd wyneb-yn-wyneb. Dyma ble gall gweithgareddau a digwyddiadau rhithwir fod yn adnodd gwerthfawr. Mae cynnal eich gweithgareddau’n rhithwir yn ffordd wych o barhau i wneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau fwyaf, yn ogystal â chadw mewn cysylltiad â'ch aelodau. Mae'r posibiliadau bron yn ddiddiwedd! Rydym wedi llunio rhestr o syniadau i chi gael ysbrydoliaeth ohonynt...

 

Teledu, Ffilmiau a Fideos

  • Dechreuwch glwb ffilm / teledu a pharhewch â'ch Nosweithiau Teledu / Ffilm!
  • Dyma rai enghreifftiau o’r gwasanaethau sydd ar gael:
    • Netflix Party
    • YouTube - rhestr chwarae a ffrydio byw
    • Twitch - ffrydio gemau’n fyw a banc o ffrydiau blaenorol
    • Parti Gwylio Facebook
    • Rabbit - rhannwr porwr i wylio unrhyw beth (ar gyfrifiadur, iOS ac Android)
    • Mae llawer o apiau galwadau fideo yn caniatáu i chi rannu'ch sgrin e.e. ZoomSkype

Cerddoriaeth

  • Gallwch greu rhestr chwarae a rennir lle gall eich aelodau ychwanegu eu hoff gerddoriaeth. Beth am lunio rhestrau chwarae ar thema benodol, e.e. Caneuon Disney, Cerddoriaeth ar gyfer Ymlacio a Pharti Pop?
  • Mae Spotify yn wych ar gyfer hyn, dyma ganllaw hawdd ei ddefnyddio!
  • Gallwch ffrydio cerddoriaeth gyda'ch gilydd ar yr un pryd gyda Plug DJ

 

Mae cymaint o ffyrdd i gadw mewn cysylltiad, dyma ambell un o'r rhai mwyaf poblogaidd!

Galwadau Fideo

  • Mae llawer o lwyfannau yn gadael i chi wneud galwadau fideo â’ch gilydd e.e. ZoomSkypeFacebook messenger.
  • Beth am gynnal eich digwyddiadau cymdeithasol arferol, ond yn rhithwir?
  • Gallwch hefyd wneud amryw o bethau eraill fel cynnal clwb llyfrau, dysgu sgiliau newydd i'ch gilydd neu ddim ond ymlacio gyda'ch gilydd!

Sgwrsio

  • Gallwch gadw i fyny â'ch sgyrsiau grwp arferol; ceisiwch gadw'r sgyrsiau i fynd a galw pobl i wneud yn sicr eu bod nhw’n iawn.
  • Os nad oes gennych chi grwp sgwrsio, byddai nawr yn amser gwych i sefydlu un!
  • Mae llawer o lwyfannau yn gadael i chi gynnal sgwrs gyda grwp, e.e. Facebook messenger, Discord, a.y.b.  

 

Daliwch ati i fod yn weithredol ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol!

Defnyddiwch yr holl nodweddion sydd ar gael, e.e. straeon, pyst, partïon gwylio, hashnodau, a.y.b.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cynnwys:

  • Edrychwch yn ôl ar yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni eleni, a chael eich aelodau i rannu eu hoff ddigwyddiadau.
  • Cynhaliwch arolygon barn a dechreuwch drafodaethau ar ystod o bynciau, e.e. ffilmiau / rhaglenni teledu i'w gwylio, llyfrau i'w darllen a cherddoriaeth i wrando arno.
  • Gallwch ffrydio fideos byw / dosbarthiadau ar-lein gyda'ch gilydd a dysgu sgiliau newydd, e.e. ioga, sesiynau dawns, celf a chrefft, pobi.
  • Beth am gynnal heriau / gweithgareddau gyda'ch aelodau, e.e. heriau ar thema / wedi'u hamseru, ‘dangos a dweud’ gyda phethau fel llyfrau, anifeiliaid anwes, a.y.b.
  • Beth am sefydlu blog / vlog grwp ar gyfer y rhai sy’n hunan-ynysu er mwyn parhau i ymgysylltu â'ch aelodau.
  • Rhannwch awgrymiadau ar gyfer astudio.

 

  • Chwarae gemau gyda'ch gilydd!
  • Gallwch gynnal cwis rhithwir ar Kahoot
  • Cadwch yn heini! - Manteisiwch ar gryferau eich grwp
    • Gallwch gynnal sesiwn ymarfer ffitrwydd ar-lein drwy Zoom neu Teams, neu gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein gyda'ch gilydd
    • Heriau corfforol, e.e. Cadw’r bêl i fyny

 

Tagiwch ni yn eich gweithgareddau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni a'r hashnodau isod...

#TîmAber #TeamAber
 

Os oes gennych chi unrhyw syniadau i’w hychwanegu, rhowch wybod i ni!

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576