Clybiau Chwaraeon

Gyda mwy na 50 o glybiau chwaraeon i ddewis o'u plith, mae llwyth o gyfleoedd i gadw'n heini, gwneud ffrindiau, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. P'un a ydych chi'n chwilio am gystadleuaeth ddwys, adeiladu ffitrwydd, neu gyfranogi er mwyn yr ochr gymdeithasol o chwaraeon, mae rhywbeth at ddant pawb!

Mae digon i gymryd rhan ynddo trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys BUCS, ’Nôl i Aber, Superteams, Rhyngolgampau Farsiti ac Aber 7s. Mae bod yn rhan o glwb chwaraeon yn Aberystwyth yn mynd i wneud eich profiad myfyrwyr yn un bythgofiadwy!

Profwch wir ysbryd Tîm Aber trwy ymuno â chlwb chwaraeon heddiw.

I ymuno â Chlybiau Chwaraeon bydd angen i chi brynu Yswiriant Tîm Aberfel arfer codir ffi flynyddol o £6, ond eleni rydyn ni’r talu’r gost hon er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu cymryd rhan mewn cymaint o gyfleoedd â phosib a dod o hyd i’ch cymuned Tîm Aber. Unwaith y byddwch chi wedi gwneud hyn, cewch ymuno â chymaint o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon ag y mynnwch.

Gweler tudalennau unigol y Clybiau Chwaraeon i gael mwy o fanylion am ffioedd aelodaeth. Bydd ffioedd aelodaeth yn cynnwys aelodaeth sylfaenol i bob clwb. Mae'n bosib y bydd gofyn i chi gyfrannu at gostau ychwanegol fel gwibdeithiau, offer personol a chostau teithio yn ystod y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan cysylltwch â:

Cydlynydd Chwaraeon
Chloe Steer
suclubs@aber.ac.uk

Swyddog Cyfleoedd
Tiff McWilliams
cyfleoeddum@aber.ac.uk

 

  • All
  • Awyr Agored
  • Pel
  • Dawns a Gymnasteg
  • Raced
  • Chwaraeon Dwr
  • Athetau a Chrefftau Ymladd

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576