Ynglyn ag Aber

Eich Undeb Myfyrwyr

Dan arweiniad myfyrwyr, gyda chymorth tîm o staff, mae Undeb y Myfyrwyr am i fyfyrwyr Aber fwynhau bywyd fel myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael taith anhygoel, eu bod yn hapus, yn iach a bod ganddyn nhw'r grym i newid pethau, ac yn gadael gyda ffrindiau am oes a dyfodol disglair o'u blaen.

Mae holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn aelodau awtomatig o UMAber (Undeb Myfyrwyr AU y Flwyddyn, UCM Cymru 2016-17). 


Fel Undeb Myfyrwyr, rydym wedi ymrwymo i'r canlynol

  • Paratoi myfyrwyr at eu hantur nesaf
  • Rhoi'r gair olaf i fyfyrwyr bob tro
  • Helpu myfyrwyr i fod mor hapus ac iach â phosib
  • Tyfu gyda'n gilydd gyda myfyrwyr fel teulu Aber    

Caiff yr addewidion hyn eu gwireddu drwy ddarparu myfyrwyr ag amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd i gyfranogi, gan gynnwys:

  • Helpu myfyrwyr i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau ac adeiladu cymunedau.
  • 130 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau - gan gynnwys cymdeithas y myfyrwyr ôl-raddedigion a chymdeithasau academaidd, neu gyfle i ddechrau eich grwp eich hun.
  • Cynorthwyo, hyfforddi a gweithio gyda dros 300 o gynrychiolwyr academaidd i greu effaith cadarnhaol i fyfyrwyr ar lefel cwrs
  • Cyngor cyfeillgar, diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim
  • Llais sy'n cynrychioli holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
  • Cyfleoedd i fyfyrwyr ymgyrchu ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw
  • Mannau addas ar gyfer astudio, cyfarfod a chymdeithasu

Er mai'r Brifysgol yw ein prif gyllidwr, elusen annibynnol yw UMAber sy'n gweithio er budd myfyrwyr, gan ganolbwyntio ar weithgareddau'r aelodaeth a datblygiad myfyrwyr.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576