Tai a Llety

Mae'r Gwasanaeth Cynghori'n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch pob agwedd ar dai, boed hynny yn llety'r brifysgol neu'r sector preifat.

Gallwn eich cynghori chi ynghylch sawl agwedd, gan gynnwys dod o hyd i le newydd, adolygu cytundebau tenantiaeth cyn i chi eu harwyddo, yn ogystal â phroblemau cyffredin a all godi yn ystod tenantiaeth ac wrth symud allan.

Chwilio am lety?

Beth am fwrw golwg ar Ganllaw Tai UMAber, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu chi benderfynu beth sydd angen i chi chwilio amdano wrth chwilio am dy neu fflat. Hefyd beth sydd angen i chi wybod cyn arwyddo a sut i gael y fargen orau o’ch cartref.

 

 

Cymerwch olwg ar y fersiwn newydd, Hawdd ei Ddarllen - Rhentu Cartrefi: Newidiadau i ddeddfau tai - Canllaw i denantiaid yma.


Cysylltu  Chynghorydd

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576