Beth yw Swyddogion Gwirfoddol?
Swyddogion Gwirfoddol yw myfyrwyr sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr ar draws y brifysgol i adborthi barn y rheiny maen nhw'n eu cynrychioli i'r Undeb, y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae gan bob Swyddog Gwirfoddol gyfrifoldeb penodol, a gall rhai ohonynt gynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Felly, dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio i'r grwpiau hynny gaiff sefyll ar gyfer y swyddi hyn. Er enghraifft dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio fel menywod all sefyll neu bleidleisio ar gyfer rôl Swyddog y Menywod.
Cyfrifoldebau holl Swyddogion Gwirfoddol
- Mynychu pob cyfarfod Undeb Aber a’r Brifysgol gan gynnwys cyfarfodydd y Senedd a Fforymau.
- Gweithredu mewn modd proffesiynol a phriodol bob amser.
- Sicrhau bod yr holl benderfyniadau a chamau gweithredu yn cael eu cymryd yn unol â chyfansoddiad Undeb Aber a pholisi cyfredol Undeb Aber.
- Bod yn barod i adrodd ar gynnydd y gwaith o dan eu cylch gorchwyl.
- Cyfarfod a chysylltu'n rheolaidd â Swyddogion Ymddiriedolwyr ac aelodau staff perthnasol.
- Mynychu y digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch perthnasol trwy gydol y flwyddyn.
- Mynychu’r holl hyfforddiant perthnasol i’w rôl.
Croeso i dîm newydd ar gyfer 2026/27
.png) |
|
.png) |
|
.png) |
| E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
| Mae Cadeirydd yr Undeb yn gyfrifol am gynnal Cyngor yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion eraill, mae'n mynd ati i hyrwyddo cyfarfodydd y Cyngor ac yn sicrhau bod trafodaethau'n deg, yn agored a bod pob penderfyniad a wneir yn dryloyw ac yn ddemocrataidd. |
|
Mae Swyddog yr Iaith Gymraeg yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar y campws, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg wrth galon yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion a mudiadau eraill, mae'n ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r diwylliant Cymraeg ac yn sicrhau bod barn myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu hystyried. |
|
Mae Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd yn cynrychioli myfyrwyr ac yn ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy. Gan weithio gyda swyddogion, mudiadau a myfyrwyr eraill, mae'n sicrhau bod yr Undeb a'r Brifysgol yn gwella effaith amgylcheddol eu gwaith. |
| |
|
|
|
|
.png) |
|
.png) |
|
.png) |
| E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
| Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n diffinio fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwîar neu’n cwestiynu. |
|
Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n uniaethu fel menyw neu berson sy'n uniaethu â menywod. |
|
Yn cynrychioli myfyrwyr sydd ag anabledd neu sy'n niwrowahanol. |
| |
|
|
|
|
 |
|
.png) |
|
.png) |
| E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
| Cynrychioli myfyrwyr sy'n uniaethu â chefndiroedd mwyafrif ethnig. Ystyr MEBE yw Mwyafrif Ethnig Byd-Eang. Mae hyn yn disgrifio pobl sy'n dod o grwpiau ethnig sy'n ffurfio mwyafrif poblogaeth y byd. Wedi'u cynnwys yn hyn mae: Du, Asiaidd, De Asiaidd, Asiaidd Dwyreiniol, O-r Dwyrain Canol, Arab, Brodorol, Cymysg hil, O gefndir ethnig hileiddedig neu leiafrifoledig arall. |
|
Yn cynrychioli myfyrwyr annibynnol gan gynnwys y rheiny sy'n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio, ffoaduriaid, gofalwyr ifanc a rhieni mewn addysg. |
|
Yn cynrychioli myfyrwyr sy'n tarddu o wlad y tu allan i'r DU. |
| |
|
|
|
|
.png) |
|
 |
|
 |
| E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
| Yn cynrychioli myfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y brifysgol, ond sydd ddim wedi ymadael â’r ysgol yn ddiweddar, fel arfer pobl dros 21 oed. |
|
Yn cynrychioli myfyrwyr ar gyrsiau Ôl-radd. |
|
Yn cynrychioli myfyrwyr sy’n hunaniaethu fel Trawsryweddol neu o Rywedd Anghydffurfiol. |
| |
|
|
|
|
.png) |
|
.png) |
|
|
| E-bostiwch fi |
|
E-bostiwch fi |
|
|
| Swyddogion Athrofa yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer adborth a chreu datrysiadau ar y cyd ar lefel Athrofa. Maen nhw'n gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr i'r Brifysgol drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Parth Academaidd. |
|
Swyddogion Athrofa yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer adborth a chreu datrysiadau ar y cyd ar lefel Athrofa. Maen nhw'n gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr i'r Brifysgol drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Parth Academaidd. |
|
|
Beth Mae Eich Gwirfoddolwyr Wedi Bod Yn Ei Wneud
Dod Yn Swyddog Gwirfoddol
Pam dylwn i fod yn Swyddog Gwirfoddol?
- Credwn fod llais myfyrwyr yn bwysig, ac rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod barn, anghenion a phryderon myfyrwyr yn llywio eich Prifysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r Gymuned yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Drwy fod yn Swyddog Gwirfoddol, byddwch wedi cael eich ethol gan gyd-fyfyrwyr, ac felly pwy well i gynrychioli eu barn?.
- Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes ac yn meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac yn ymuno â rhwydwaith o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi, sef pobl sy'n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr.
- Yn ogystal â derbyn tystysgrif, bydd gennych y cyfle i gael eich enwebu ar gyfer gwobr yn ein Gwobrau Aber yn Dathlu.
Sut mae modd i mi fod yn Swyddog Gwirfoddol?
- Cynhelir etholiadau yn Chwefror a Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf; cynhelir y rhain yr un adeg â'r etholiadau ar gyfer ein Cynrychiolwyr Athrofa a'n Swyddogion Llawn-amser.
- Os oes swyddi gwag, cynhelir is-etholiad tua dechrau'r flwyddyn academaidd newydd (Hydref neu Dachwedd fel arfer) i lenwi'r rhain. Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, e-bostiwch.
Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?
- Estynnir gwahoddiad i bob Swyddog Gwirfoddol fynychu hyfforddiant cyn dechrau'r tymor cyntaf ym mis Medi. Gofynnir i'r rheiny sy'n methu mynychu'r hyfforddiant hwn, neu os ydyn nhw wedi cael eu hethol yn ddiweddarach, i fynychu sesiwn a drefnir yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
- Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cymorth gan y Cydlynydd Llais Myfyrwyr; byddwch yn cwrdd â nhw'n fisol yn ystod y tymor i drafod adborth, gwrando ar unrhyw bryderon a darparu cymorth pe baech chi ei angen.
- Yn yr un modd â Chynrychiolwyr Academaidd ac Athrofa, mae'n bosib y cewch chi gyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol i gwrdd â chynrychiolwyr a swyddogion o sefydliadau eraill.