 |
Mae ein gweithle yn hyrwyddo’r hawl i’n staff gofleidio pob steil gwallt Affro. Rydym yn cydnabod bod gwallt Affro-wead yn rhan bwysig o hunaniaeth hiliol, ethnig, diwylliannol, a chrefyddol ein staff Du, ac mae angen ei steilio’n benodol ar gyfer iechyd gwallt ac i’w gynnal.
Rydym yn dathlu gwallt Affro-wead a wisgir ym ymhob steil gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, affros, locs (dreadlocks), gwallt wedi’i blygu (twists), plethau, cornrows, gwallt wedi’i raddoli (fades), gwallt wedi’i sythu drwy ddefnyddio gwres neu gemegau, gweadau, wigiau, sgarffiau pen, a phenwisgoedd Affro (Afro head wraps).
Yn y gweithle hwn, rydym yn cydnabod ac yn dathlu hunaniaethau ein cydweithwyr. Rydym yn gymuned sydd yn seiliedig ar ethos o gydraddoldeb a pharch lle nad yw gwead na steil gwallt yn effeithio ar allu staff i lwyddo.
|
 |
Fel cyflogwr, rydym yn cydnabod bod yn y DU mae pobl sy’n mynd trwy iechyd meddwl gwael yn parhau i wynebu gwarth ac anffafriaeth yn y gweithle. Trwy lofnodi’r ‘Siarter i Gyflogwyr sy’n Bositif am Iechyd Meddwl’, rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant cefnogol ac agored, lle mae ein cydweithwyr yn teimlo’n ddiogel i siarad am iechyd meddwl yn breifat ac yn anelu at gynnal cefnogaeth briodol er lles iechyd meddwl ein holl staff.
|