Y Cyfarfod Mawr

Mae’r Cyfarfod Mawr (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) yn ddigwyddiad rydym yn ei gynnal bob blwyddyn i sicrhau bod aelodau’n cael cyfle i ddweud eu dweud ynglyn â gweithgareddau, safbwyntiau gwleidyddol a mwy!


Dyddiadau Allweddol

Dyddiad Cau Syniad: 09/02/2024

Y Cyfarfod Mawr: 04/03/2024 @ 18:00-20:00  Prif Ystafell UM

Agenda

cofnodion cyf cyff 

 


Cyfarfodydd Blaenorol:

2022/23

Papurau:

Meeting Date:

Agenda

Aberystwyth University Students' Union Annual Accounts

Draft Minutes (awaiting)

20/02/2023 @ 6pm

Main Hall

2021/22

Papurau: Dyddiad y Cyfarfod:

Agenda 

Adroddiad y Swyddogion

Syniadau

Cofnodion

06/12/21 @ 6pm

Zoom

2020/21

Papurau: Dyddiad y Cyfarfod:

Agenda 

Adroddiad y Swyddogion

Syniadau

Cofnodion - Dim Cworwm

22/02/2021 @ 6pm

Zoom

 

 

Pwy all fynychu?

 

Mae pob myfyriwr cofrestredig yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr a gall fynychu’r cyfarfod, yn ogystal â siarad a phleidleisio. Rhaid cael 100 o aelodau’n bresennol i’r cyfarfod fynd yn ei flaen.

Os cynhelir y cyfarfod wyneb-yn-wyneb byddwn yn gwirio eich bod yn aelod wrth i chi gyrraedd, gan ddefnyddio eich CerdynAber i ddilysu eich aelodaeth – felly cofiwch ddod â’ch cerdyn gyda chi fel prawf eich bod yn fyfyriwr!

Os cynhelir cyfarfod ar-lein, bydd tocynnau am ddim ar gael trwy ein gwefan.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i’n holl fyfyrwyr. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â hygyrchedd, neu os ydych chi angen unrhyw ddogfennau sy’n perthyn i’r cyfarfod mewn fformat penodol, yna rhowch wybod i ni!

 

Beth sy’n digwydd yn ystod y cyfarfod?

 

  • Trafod a phleidleisio ar gyflwyniadau gan fyfyrwyr eraill â’r nod o wella Aber. Cyfeirir at y rhain fel “Syniadau”, ac os yw’r bleidlais yn pasio, maent yn dod yn rhan o’n gwaith am y 3 blynedd nesaf.
  • Derbyn adroddiad llawn ar weithgareddau gan yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am lywodraethu’r UM, gan gynnwys cymeradwyo ein cyfrifon a’n hymaelodaethau.

 

Beth sy’n cael ei drafod?

 

Mae myfyrwyr yn cyflwyno ‘Syniadau’ ymlaen llaw. Syniad yw unrhyw beth a gyflwynir gan fyfyrwyr sy’n gofyn i UMAber wneud y canlynol:

  • Dechrau gweithgaredd newydd
  • Peidio neu newid gweithgaredd cyfredol
  • Mabwysiadu neu newid safbwynt
  • Diweddaru neu newid polisi cyfredol

…a llawer mwy! Gallai Syniad fod yn unrhyw beth, cyn belled â’i fod yn effeithio ar Fyfyrwyr Aberystwyth.

 

Pa iaith gaiff ei siarad?

 

Yn ystod y cyfarfod, cewch ddewis siarad naill ai Saesneg neu Gymraeg!

Os cynhelir y cyfarfod wyneb-yn-wyneb, bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn ystod y cyfarfod drwy wasanaeth galwad cynhadledd, felly cofiwch ddod â’ch ffôn gyda chi.

Bydd y gwasanaeth hwn yn defnyddio rhif 03 sydd ddim yn costio mwy na galwad ar y raddfa genedlaethol i unrhyw rif 01 neu 02 number ac mae’n cyfrif tuag at unrhyw funudau cynwysedig.

 

Ble allaf i gael mwy o wybodaeth?

 

Mae mwy o wybodaeth am gyfarfodydd fel y rhain i’w gweld yn adran Llywio Aber o’r wefan.

Oddi yno gallwch ganfod mwy ynglyn â pha fyfyrwyr sy’n eich cynrychioli chi yng nghyfarfodydd y cyngor, rhannu Syniadau, darllen ein polisïau cyfredol a mwy.

Peidiwch ag anghofio bod ein drysau ni wastad ar agor ac mae croeso i chi anfon neges atom ni – felly peidiwch â bod ofn cysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi angen cymorth!

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576