Mae polisi'n gosod allan yr hyn mae UMAber yn ei gredu ac yn gweithio arno; wedi'i gyflwyno fel syniad caiff wedyn ei drafod gan Gyngor yr Undeb lle gellir naill ai ei basio neu ei anfon ymlaen at bleidlais lle caiff holl fyfyrwyr Aberystwyth fynegi eu barn, sef Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr.
Bydd polisi sy'n cael ei basio'n parhau i fod yn weithredol am hyd at dair blynedd, oni chaiff ei gwblhau, ei wella neu ei adnewyddu.
Unwaith i bolisi gael ei basio, fe ddaw yn bolisi am dair blynedd. Wedi’r cyfnod hwn, cynhelir pleidlais arall ar y polisi hwn. Os bydd penderfyniad i beidio â pharhau gyda’r polisi, bydd yn dod i ben. Gellir gweld ein hen bolisïau yma:
- Yn y bôn, ein Llyfr Rheolau.
- Mae'r Cyfansoddiad yn cynnwys prif ddogfen, wedi'i hategu gan Atodlenni ac Is-ddeddfau sy'n manylu meysydd gweithredu penodol yn fwy e.e. y Senedd ac Etholiadau.
- Mae modd gwella unrhyw ran o'r dogfennau hyn drwy gyflwyno syniad i'r Cyngor.
Cewch ddysgu mwy am ein cyfansoddiad a sut mae'n ffurfio’n gwaith yn yr adran Cyfansoddiad ar ein gwefan.
- Mae’r polisïau cyffredinol yn rheoli gweithgareddau byrdymor UMAber gan gynnwys gweithgareddau ac ymgyrchoedd y swyddogion.
- Mae ein polisïau’n fyw – rydyn ni’n gweithio ar bolisïau presennol drwy'r amser ac yn annog myfyrwyr i adolygu'n rheolaidd a’n dal ni i gyfrif am roi ein polisïau ar waith.
- Mae’r polisïau'n deillio o ‘syniadau’ sy'n cael eu pasio gan fyfyrwyr etholedig yn y Cyngor a byddan nhw’n para am hyd at dair blynedd oni fyddan nhw’n cael eu cwblhau, eu gwella neu eu hadnewyddu. Mae rhai polisïau'n cael eu pasio pan fydd y Cyngor yn cyfeirio'r syniad at Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr.
- Gall polisïau gynnwys atodiadau neu ddogfennau sy'n darparu gwybodaeth fanylach e.e. dogfennau polisi dwyieithrwydd neu aflonyddu rhywiol.
- Ni all y polisïau cyffredinol anwybyddu'r gyfraith a dylen nhw gyd-fynd â'n hamcanion elusennol. Dyletswydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw sicrhau bod hyn yn digwydd.
Mae rhan helaeth o waith yr Undeb a'n Swyddogion yn cynnwys sicrhau bod polisïau'n cael eu cwblhau neu eu cynnal. Cewch ddarllen mwy am rai o'r ymgyrchoedd sydd wedi’u creu gan bolisïau yma.
Mae ein hymgyrchoedd, ymchwil a pholisïau'n hyrwyddo addysg myfyrwyr Aberystwyth, gan sicrhau bod eu barn i'w chlywed ac yn cael ei chymryd o ddifrif ar y campws, yn Aberystwyth ac ar draws Cymru gyfan.
Rydyn ni'n gweithio gyda myfyrwyr, y Brifysgol a mudiadau lleol a chenedlaethol i greu newid cadarnhaol.
Os oes gennych chi syniad gwych, darllenwch sut mae modd ei droi’n bolisi yma.
Mae'r table isod yn cynnwys rhestr lawn o bolisïau, a chaiff ei diweddaru â pholisi a basiwyd yng Nghyngor yr Undeb unwaith y caiff ei gymeradwyo gan fwrdd yr Ymddiriedolwyr.