Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 21/02/2021
Yn darfod ar: 21/02/2024
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Cyfleoedd
Crynodeb
Adnewyddu a gwelliannau i’r cwt cychod.
Manylion
Mae cwt cychod y brifysgol yn edrych yn flinedig ac yn flêr. Nid yw wedi derbyn y gofal angenrheidiol; mae’r paent yn dod oddi ar y waliau a dydy’r arwyddion ddim yn gyfoes, heb sôn am ddiffyg gwybodaeth diogelwch cyffredinol. Un enghraifft o hyn yw diffyg radios VHF i’r clwb eu defnyddio ar gyfer cyfathrebu â'r rheilffordd a'r harbwrfeistr. Nid yw’r wybodaeth ar gyfer diogelwch yn gyfoes, sy’n gallu bod yn gamarweiniol mewn achosion brys.
Mae offer yn cael ei storio yn y cwt cychod sy'n amherthnasol i'r clybiau sy'n ei ddefnyddio, megis padiau bocsio a phadiau rygbi.
Ni ellir dibynnu ar y blwch ffiwsiau, ac mae gwreichion yn tagu ohono pan fydd ffiws yn chwythu, gan achosi perygl posib o dân. Mae mynediad i'r traeth wedi'i gyfyngu gan fieri, sy’n rhwystro mynediad diogel i'r traeth i lansio cychod.
Mae’r rhestr yn un hirfaith. Yr hyn sydd angen digwydd yw ymgynghoriad gyda'r clybiau sy'n ei ddefnyddio, ac yna ei adnewyddu i fod yn adeilad y gallwn ni deimlo’n falch ohono.
Cyflwynwyd gan: Christopher Thomas
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Mae’r Swyddog Cyfleoedd wedi sefydlu pwyllgor a fydd yn canolbwyntio ar y polisi hwn. Maent hefyd mewn cyswllt â penaethiaid yr ystradau ynglyn â hyn. |
Tiff, Cyfleoedd Myfyrwyr (2023-24) |
Hydref 2023 |
Cafodd Tiff eu cyfarfodydd gyda’r Ystadau ynglyn â’r Ty Cychod ac bellach yn cymryd camau ers y cyfarfod. Mae’r Ystadau bellach wedi glanhau’r llwybr peryglus ac wedi i’r mater gael ei godi i’r Swyddog Cyfleoedd gan y myfyrwyr. Mae’r Swyddog Cyfleoedd bellach mewn cyswllt â’r Cyngor iddynt gael deall y brydles. |
Tiff, Cyfleoedd Myfyrwyr (2023-24) |
Tachwedd 2023 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.