Dylid cael cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder i aelodau pwyllgor grwpiau myfyrwyr.

Pasiwyd gan: Y Cyfarfod Mawr

Pasiwyd ar: 04/03/2024

Yn darfod ar: 04/03/2027

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Cyfleoedd


Manylion

Ar hyn o bryd, mae gennym bolisi pleidlais o ddiffyg hyder ar gyfer cynrychiolwyr academaidd ac aelodau pwyllgor grwpiau myfyrwyr nad yw’n gweithio i grwpiau llai eu maint, oherwydd dim ond 10% o bwyllgor sydd ei angen i’w wneud. Ar gyfer pwyllgor tri pherson, mae hyn yn llai na pherson. Ar ôl gwneud ymchwil i bleidleisiau diffyg hyder grwp myfyrwyr mewn undebau myfyrwyr eraill ledled y DU, dyma bolisi wedi’i ddiweddaru: Os nad yw aelod etholedig o bwyllgor yn cyrraedd y safonau sy’n ofynnol gan y pwyllgor, dylid cymryd y camau canlynol: Dylai aelodau pwyllgor arall gael cyfarfod anffurfiol gyda’r unigolyn i ofyn a ydynt yn cael trafferth gyda’r rôl a beth ellir ei wneud i helpu. Dylai ymdrechion i ddatrys y sefyllfa o fewn y grwp ddigwydd cyn unrhyw ymgais i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder. Os nad yw’r mater wedi’i ddatrys ar ôl i’r unigolyn gael cyfleoedd i’w unioni, yna dylai’r pwyllgor gysylltu â’r Swyddog Cyfleoedd ( suopportunities@aber.ac.uk ) a/neu eu cydlynydd perthnasol (suclubs@aber.ac. uk susocieties@aber.ac.uk) i drefnu cyfarfod cyfryngu. Bydd y swyddog a’r staff yn chwarae rhan niwtral, a byddant yn hwyluso’r cyfarfod gyda’r nod o ddatrys yr anghydfod. Os na cheir cyfaddawd, yna gellir cychwyn Pleidlais o Ddiffyg Hyder i ddiswyddo aelod o'r pwyllgor. Gall Pleidlais o Ddiffyg Hyder fod yn ofidus i bawb dan sylw a dyma'r cam olaf. Dim ond os na chyrhaeddwyd cyfaddawd y dylai ddigwydd ar ôl ymdrechion cyfryngu. Proses Pleidlais o Ddiffyg Hyder:

 

Cyflwynwyd gan: Tiff McWilliams


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Cyfleoedd Myfyrwyr

Tiff McWillaims 

cyfleoeddum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576