Dylai’r UM gefnogi a chydsefyll gyda’r UCU a’i streiciau presennol

Pasiwyd gan: Y Cyfarfod Mawr

Pasiwyd ar: 20/02/2023

Yn darfod ar: 20/02/2026

Statws: Cyflawn


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Materion Academaidd


Crynodeb

Calendr/amserlen ar-lein gydweithredol a system archebu i gymdeithasau a chlybiau archebu ystafelloedd yn yr UM a’r Brifysgol ar gyfer digwyddiadau.

 

Manylion

Rwy am i’r UM fabwysiadu safiad o gefnogi streiciau presennol yr UCU. Mae’n bwysig ein bod yn cydsefyll gyda staff y Brifysgol sydd, oherwydd y sefyllfa sydd ohoni, yn gorfod mynd ar streic o achos gostyngiad mewn cyflog, amodau gweithio’n gwaethygu a thoriadau ar eu pensiynau yn ogystal â dyfodol hir dymor y sector Prifysgolion. Ein hamgylchedd ddysgu yw eu hamgylchedd addysgu. Nhw yw ein darlithwyr, ein llyfrgellwyr, ein hymchwilwyr, ein staff cymorth a phob un yn rhan annatod o’n Prifysgol.
Fel rhan fawr o gymuned y Brifysgol, mae’n rhaid i’r UM ddangos bod ein haddysgwyr a’n holl staff yn y Brifysgol o bwys trwy ddatgan ein cefnogaeth am eu streiciau. O’r sawl un fy mod i wedi cael gyda nhw, maent yn gyndyn i gymryd y gweithredoedd hyn oherwydd ei heffaith ar fyfyrwyr, ond dyma’r opsiwn olaf sydd ganddynt oherwydd bod eu hamgylchiadau gweithio bellach yn anghynaladwy.
Rwyf am gael datrysiad cyn gynted â phosibl i'r ddadl hon er mwyn lleihau'r aflonyddwch i fyfyrwyr. Ni fydd hyn ond yn digwydd os byddwn yn gwrando ar bryderon aelodau staff y Brifysgol ac yn mynd i'r afael â hwy. Po gyntaf y byddwn yn cymeradwyo ac yn dod â’r myfyrwyr at ei gilydd er budd staff y brifysgol, po gyntaf y bydd yr anghydfod hwn yn dod I ben gobeithio. Mae’r UM yn elusen sy'n gweithio er lles ni'r myfyrwyr. Mae o fudd i ni sicrhau bod gan ein staff prifysgol amodau gweithio da. Mae hefyd o ddiddordeb i ni gan y gallai llawer fynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn y byd academaidd.
Yn olaf, dyma'r peth iawn i'w wneud, mae staff ein Brifysgol yn gweithio mor galed i ddarparu'r profiad addysgol gorau y gallant. Mae'n bryd iddynt gael y parch y maent yn ei haeddu ac rydym yn dangos ein gwerthfawrogiad am hynny.

Cyflwynwyd gan: Hector David Thomas Duncan


Ail-ddatganiad o Gefnogaeth i staff sydd ar streic

Yn dilyn y datganiad llai-na-delfrydol gan Undeb y Myfyrwyr am y streiciau, credwn fod angen atgyfnerthu ein cefnogaeth i staff sy’n streicio.

Swyddog sy'n gyfrifol: Y Llywydd

Cyflwynwyd gan: Dylan Lewis-Rowlands

Crynodeb: A ddylai’r Senedd ac Undeb y Myfyrwyr ailadrodd eu cefnogaeth a’u cydsafiad i’r holl staff sy’n cymryd camau diwydiannol – hyd at a chan gynnwys streic – yn yr anghydfod hwn ac yn y dyfodol?

Manylion:

Mae’r Senedd ac Undeb y Myfyrwyr yn ailadrodd ei chefnogaeth a’i chydsafiad i bob aelod o staff sy’n cymryd camau diwydiannol – hyd at a chan gynnwys streic – yn yr anghydfod hwn, ac anghydfodau’r dyfodol.

Yr un yw buddiannau myfyrwyr a'r streicwyr. Mae llwyth gwaith gweinyddol darlithwyr, llai o aelodau staff, a mwy o ansicrwydd wedi arwain at oriau a ddylai fod ar gyfer y byd academaidd ac addysg yn cael eu llyncu yn cyflawni baich gweinyddol cynyddol uchel y prifysgolion.

Gofynnwn i swyddogion undeb y myfyrwyr unwaith eto gefnogi’r safbwynt y cytunwyd arno’n ddemocrataidd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i gefnogi’r streiciau a’r aelodau o staff sydd ar streic.

Rydyn ni yn atgyfnerthu ac yn ailadrodd mai eu hamodau gwaith yw ein hamodau dysgu.

Nodiadau

Yn ogystal â datganiad, gallai Undeb y Myfyrwyr;

• Rhoi arweiniad i fyfyrwyr am eu hawliau

• Annog myfyrwyr i beidio â chroesi llinell biced

• Eirioli ar ran myfyrwyr i sicrhau nad yw unrhyw un sy'n cefnogi streic yn cael ei gosbi.

 • Gweithio gyda'r UCU i sicrhau bod llais myfyrwyr yn cael ei gynrychioli mewn trafodaethau, ac ar y llinellau piced.


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Mae’r UM wedi cefnogi’r streiciau mewn sawl ffordd. Mae Llywydd yr UM (2023-34) yn cwrdd â chynrychiolwyr yr undeb ar ran staff bob 2 fis. Bayanda (Llywydd Undeb 2023-24) Tachwedd 2023
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

      

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk 

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina 

prdstaff@aber.ac.uk

 

      

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576