Adolygiad Rôl Swyddogion

Beth sy’n digwydd? 

Oherwydd amryw o resymau, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal adolygiad o swyddi ein Swyddogion etholedig, cyflogedig, llawn amser (y Swyddogion Sabothol) a’u lleihau o 5 yn 2026. 

Mewn undebau myfyrwyr yn y Deyrnas Unedig, myfyrwyr sy’n cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr i gymryd blwyddyn i ffwrdd o’u hastudiaethau (neu ar y diwedd) ac ymrwymo eu hamser i ddadlau a ymgyrchu dros hawliau ac anghenion myfyrwyr yw swyddogion sabothol llawn amser. Maent yn cynrychioli buddion a lleisiau presennol y myfyrwyr yn y Brifysgol a’r tu hwnt. 


Sut mae rhain yn cael eu hadolygu a dod i benderfyniad? 

Mae ambell gam ar waith i adolygu anghenion a meddyliau rôl a gwneud unrhyw benderfyniadau am rolau yn y dyfodol: 

Cam 1) Cynhaliwyd 13 ymgynghoriad gyda myfyrwyr penodol a rhai aelodau o staff gydag amrywiaeth o gysylltiad gyda’r Undeb a gweithgareddau bywyd myfyrwyr. Gofynnwyd i'r grwpiau ystyried ystod o ddyletswyddau a thasgau sy'n gysylltiedig â rolau swyddogion etholedig llawn amser presennol sy’n cael eu talu, ystyried beth allai fod ar goll ac angen cynrychiolaeth, a grwpio i themâu cyn dewis uchafswm o 4 rôl fel unigolion. 

Cam 2) Bydd canlyniadau'r holl sesiynau hyn a chrynodeb o drafodaethau'n cael eu hystyried gan y Bwrdd Ymddiriedolwyr ochr yn ochr ag ystyriaethau eraill megis demograffeg myfyrwyr, mewnwelediad anghenion myfyrwyr, yr ystod o bwyllgorau a fynychir ar hyn o bryd a strwythurau'r Brifysgol ac unrhyw ddyletswyddau a gofynion eraill yr Undeb Myfyrwyr. Yna bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cynnig nifer o gyfuniadau tîm swyddogion a fydd wedyn yn mynd at yr holl fyfyrwyr i bleidleisio arnynt. 

Cam 3) Bydd pob myfyriwr yn gallu graddio'r opsiynau tîm yn nhrefn eu dewis mewn pleidlais i bob myfyriwr a gynhelir ar-lein drwy ein gwefan. Bydd hyn yn digwydd rhwng dydd Mercher 11eg a 12:00pm ddydd Gwener 20fed o Ragfyr. 

Cam 4) Os bydd o leiaf 500 o fyfyrwyr yn pleidleisio yna bydd yr opsiwn gyda mwyafrif syml yn ffurfio'r rolau sy'n cael eu hethol yn 2026. Nodwch nad oes unrhyw gynlluniau i weithredu unrhyw newidiadau yn 2025. Rydym am sicrhau ein bod yn gallu cyfathrebu unrhyw newidiadau ac ystyried unrhyw oblygiadau a theimlwn y byddai hyn yn anodd i’w gyflawni erbyn y gall myfyrwyr sefyll mewn etholiad y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn ymwybodol y gallai rhai myfyrwyr eisoes gynllunio i redeg ar gyfer rolau presennol. 


Pam ein bod ni’n gwneud hyn? 

Mae yna nifer o ffactorau wrth wraidd y penderfyniad i leihau nifer y swyddogion ac sy’n dylanwadu ar yr ymgynghoriad: 

  • Ein blaenoriaeth fel Undeb Myfyrwyr yw sicrhau eich bod chi - ein haelodau sy’n fyfyrwyr - yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. O ddarparu cyngor a chymorth gyda phob agwedd ar fywyd myfyrwyr, i ymgyrchu ar faterion sy'n bwysig i chi, a chefnogi eich chwaraeon, hobïau a diddordebau, mae angen i ni sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau mewn ffordd sy'n blaenoriaethu eich profiad fel myfyriwr. 

  • Ar lefel genedlaethol, y gymhareb arferol rhwng swyddogion llawn amser a myfyrwyr yw 1 swyddog i bob 4,000 myfyriwr. Yn Aber mae 1 swyddog sabothol i 1,252 o fyfyrwyr – sy’n golygu ei fod yn gwneud synnwyr symleiddio ein tîm swyddogion er mwyn sicrhau y gallwn neilltuo adnoddau i'ch profiad fel myfyriwr. 

  • Yn 2016, cafodd tîm staff yr Undeb ei ailstrwythuro gan Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr er mwyn arbed arian a sicrhau ein bod yn ateb y gofyn fel sefydliad. Ar yr un pryd, eu bwriad oedd lleihau tîm y swyddogion a chomisiynwyd adolygiad allanol o’r swyddi gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i leihau’r tîm i 4 swyddog. Er fod argymhellion yr adolygiad i newid teitlau yn ddefnyddiol, nid oedd yn teimlo’n bosibl gweithredu yr argymhellion ar ba swyddi i gael gwared arnynt/cadw yn Aber bryd hynny. 

  • Pasiwyd polisi i adolygu nifer y Swyddogion Llawn Amser gan fyfyrwyr yn 2020. 

  • Yn sgil y polisi hwnnw, comisiynodd Undeb y Myfyrwyr ymgynghorydd arall i gynnal adolygiad arall i leihau o 5 i 4. Unwaith eto, nid oedd yn teimlo’n bosibl gweithredu ar yr awgrymiadau hyn yn Aber. Dyma pam ein bod yn rhedeg y broses ymgynghoriad newydd er mwyn datblygu cynnig am strwythur sydd yn briodol i Aber. 

  • Wrth ystyried y defnydd o adnoddau Undeb y Myfyrwyr, £35,000 yw cost pob Swyddog Sabothol bob blwyddyn i’r Undeb wrth ystyried cyflog, hyfforddiant a chostau ychwanegol megis Yswiriant Cenedlaethol a chyfraniadau pensiwn. 

Pam fod y myfyrwyr i gyd yn cael pleidleisio dros ddyfodol y swyddi hon? 

Mae Undeb Aber yn perthyn i’n haelodau sy’n fyfyrwyr, felly mae'n deg y dylai pob aelod gael cyfle i ddweud eu dweud am sut mae ein hadnoddau yn cael eu defnyddio. 

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei lywodraethu gan y Ddeddf Addysg 1994. Mae Rhan 2 o’r Ddeddf Addysg 1994 yn ymdrin ag Undebau Myfyrwyr ac mae’n amlygu yr hyn y mae’n rhaid i brifysgolion ac undeb myfyrwyr ei wneud er mwyn gweithredu mewn modd teg, agored a chyfrifol. Yn fwy penodol, mae’n cynnwys y dylid “cynnal etholiad trwy bleidlais gudd y mae’r holl aelodaeth yn gymwys i fwrw pleidlais ynddo i benodi prif swyddi’r undeb;” o gofio mai “prif swyddi” yw ein swyddi etholedig sabothol i gyd, mae’n rhaid i Undeb y Myfyrwyr adael i’r holl fyfyrwyr bleidleisio dros swyddi’r dyfodol. 


Beth ddylech wneud os oes gennych gwestiwn? 

Gallwch holi gwestiwn ynglŷn a'r broses trwy e-bostio: suvoice@aber.ac.uk  

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576