Ein strategaeth ac effaith
Croeso!
Datblygwyd strategaeth Undeb Aberystwyth ar gyfer 2017-2020 yn dilyn ymgynghori helaeth â myfyrwyr yn 2017 ac ymchwilio i arfer gorau yn sector yr undebau myfyrwyr. Rydym yn hyderus y bydd ein gweledigaeth a'n haddewidion at y dyfodol yn helpu myfyrwyr Aber i garu bywyd fel myfyrwyr ac rydym yn edrych ymlaen at weld Undeb Aberystwyth yn tyfu i fod yn fudiad anhygoel y gall ein myfyrwyr, ein staff a'n prifysgol fod yn falch ohono.
Cennad: Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr
Gweledigaeth: Dylai myfyrwyr Aber fod yn hapus, yn iach ac wedi’u grymuso, gyda dyfodol disglair a chyfeillgarwch sy’n para am oes.
Addewidion:
- Byddwn yn darparu cyfleoedd i chi ddod o hyd i’ch cymuned Aber
- Byddwn yn ddylanwad cadarnhaol dros fyfyrwyr
- Byddwn yn rhoi cymorth i chi fod yn hapus ac yn iach
- Byddwn yn helpu i dyfu eich sgiliau a’ch profiadau
Gwerthoedd:
- Rydyn ni’n cael ein llywio gan fyfyrwyr – Eich llais chi sy’n cyfrif fwyaf
- Rydyn ni’n gymuned – Rydyn ni am i chi gyfranogi
- Rydyn ni’n dryloyw – Rydyn ni bob amser yn onest ac yn agored
- Rydyn ni’n uchelgeisiol – Rydyn ni’n datblygu ar gyfer y dyfodol
- Rydyn ni’n caru’r Gymraeg – Rydyn ni’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
Ein heffaith: