Achrediad

Mae’r Cynllun Achredu Sêr Tîm Aber yn ffordd i UMAber gydnabod datblygiad ein Clybiau Chwaraeon a’n Cymdeithas, yn ogystal â datblygu’r holl bethau gwych maent yn eu cyflawni. Mae ein cynllun yn helpu i chi fesuro sut dych chi’n dod yn eich blaenau, yn sicrhau eich bod yn cynnig y profiad gorau posib i’ch aelodau, yn gwella eich enw da a chael defnyddio nifer o fanteision grwp!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun achrediad, mae croeso i chi gysylltu â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr cyfleoeddum@aber.ac.uk

 

Sut mae'n gweithio?

Bydd pob grwp myfyrwyr sy’n gysylltiedig ag UMAber yn cael eu cofrestru ar y cynllun. Gall eich grwp gael ei adnabod fel:

Lefel 1: Datblygu Lefel 2: Da Lefel 3: Da Iawn Lefel 4: Ardderchog

 

I fynd i’r lefel nesaf, bydd rhaid i chi:

  • Cyrraedd meini prawf Sêr Tîm Aber, gellir ei ddarllen isod neu ar wefan Microsoft Teams eich Grwp Myfyrwyr.
  • Cyflwyno tystiolaeth berthnasol ar wefan Microsoft Teams eich Grwp Myfyrwyr ar ffurf ffeil sydd wedi’i atodi.

Bydd staff yn adolygu’r dystiolaeth a gyflwynir bob tymor a’i diweddaru yn ôl yr angen. Fel arall, gallwch anfon e-bost at eich Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr pan gredwch chi eich bod wedi cyrraedd lefel newydd o achredu.

  • Gallwch ddilyn eich cynnydd yn y ffeil sydd wedi’i atodi ar MS Team eich Grwp.

Er mai grwp myfyrwyr effeithiol iawn yw’r budd mwyaf o gymryd rhan, mae gwobrau i’w cael ar gyfer y rhai sy’n ennill achrediad.

 

GWOBRAU

Gwobrau 4-seren

 

  • Bathodyn 4 seren ar wefan yr UM
  • Cael eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Sêr Tîm Aber yng Ngwobrau y Clybiau a Chymdeithasau.
  • Post arbennig ar sianeli ein cyfryngau cymdeithasol.
  • Cael eich dathlu yn ystod UMAber yn Dathlu.
  • Y cyfle i fod 3 grwp i ennill grant £50 i’w wario ar wella’r grwp myfyrwyr, ee deunydd hyrwyddo, offer, ayyb.

     

Gwobrau 3-seren

 

  • Bathodyn 3 seren ar wefan yr UM
  • Post arbennig ar sianeli ein cyfryngau cymdeithasol.
  • Cael eich dathlu yn ystod UMAber yn Dathlu.
  • Y cyfle i fod ymysg 5 grwp i ennill grant o £35 i’w wario ar wella’r grwp myfyrwyr, ee deunydd hyrwyddo, offer, ayyb.

 

Gwobrau 2-seren

 

  • Bathodyn 2 seren ar wefan yr UM
  • Cael eich dathlu yn ystod UMAber yn Dathlu.
  • Y cyfle i fod ymysg 10 grwp i ennill grant £25 i’w wario ar wella’r grwp myfyrwyr, ee deunydd hyrwyddo, offer, ayyb.

 

Gwobrau 1-seren

 

  • Bathodyn 1 seren ar wefan yr UM
  • Caiff hyn ei ddathlu yn ystod y Tymor Gwobrwyo

 

 

MEINI PRAWF

Cymryd rhan yn yr UM

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae o leiaf un aelod o'r Clwb/Cymdeithas yn sefyll ar gyfer Etholiad yn Etholiadau Blynyddol yr UM NEU mae 50% o holl aelodau cofrestredig y Clwb/Cymdeithas yn pleidleisio yn Etholiadau Blynyddol yr UM

Da Iawn (Lefel 3): 2 aelod pwyllgor yn bresennol yn y Cyfarfod MAWR (CCB)

Da (Lefel 2): Cynrychiolaeth o bwyllgorau mewn dau Fforwm Cyfleoedd O LEIAF.

Yn Datblygu (Lefel 1): Yn Cymryd Rhan yn Ffair y Glas / Ail Ffair y Glas

 

Aelodaeth

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae aelodaeth y Clwb/Cymdeithas wedi cynyddu 20% ers y flwyddyn academaidd flaenorol.

Da Iawn (Lefel 3): Mae aelodaeth y Clwb/Cymdeithas wedi cynyddu o leiaf 10% ers y flwyddyn academaidd flaenorol.

Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn llwyddo i gynnal yr un nifer o aelodau â'r flwyddyn academaidd flaenorol.

Yn Datblygu (Lefel 1):  Yn dangos ymdrech i gynyddu aelodaeth ee trwy stondinau, manteisio ar restrau e-bostio, trefnu digwyddiadau croeso neu gofrestru ar gyfer Rhowch Gynnig Arni.

 

Gweithgaredd

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae’r clwb/cymdeithas yn trefnu digwyddiad/ymgyrch mawr un-tro ar gyfer ei aelodaeth yn bennaf ee Codi a Rhoddi, digwyddiad, taith flynyddol, cystadleuaeth, taith.

Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnig neu wedi bod yn rhan o ddatblygiad personol (ee cyrsiau CPD, gweithdai, cymorth cyntaf, rhwydweithio, ac unrhyw fath arall o hyfforddiant/cyfleoedd datblygu)

Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnal gweithgareddau rheolaidd ar gyfer eu haelodau sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r nodau ac amcanion a amlinellwyd.

Yn Datblygu (Lefel 1): Mae nodau ac amcanion y Clwb/Cymdeithas wedi’u hamlinellu ar dudalen we'r grwp

 

Cymuned

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae'r Clwb/Cymdeithas yn cydweithredu â grwpiau cymunedol/elusennau i gynnal digwyddiad mewn partneriaeth neu er mwyn codi arian

Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas wedi cydweithio â Chlybiau/Cymdeithasau eraill ar neu oddi ar y campws i gynnal gweithgaredd neu ddigwyddiad mewn partneriaeth, neu er mwyn codi arian

Da (Lefel 2): Mae aelodau'r Clwb/Cymdeithas wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli.

Yn Datblygu (Lefel 1):  Mae’r Clwb/Cymdeithas wedi mynd ati i godi arian at Elusen, gan gyfrannu at gyfanswm blynyddol RAG yr UM

 

Pwyllgor

 

Ardderchog (Lefel 4): Bod tri aelod pwyllgor yn cael Gwobr Aber Arian O LEIAF am gofnodi eu horiau/sgiliau gwirfoddoli ar Hyb Gwirfoddoli UM.

Da Iawn (Lefel 3): Dros 50% o’r pwyllgor wedi’i gofrestru fel gwirfoddolwr A eu bod wedi dechrau cofnodi oriau tuag at y Gwobr Aber.

Da (Lefel 2): Mae pob aelod pwyllgor wedi gwylio’r ‘Sesiwn Groesawu’ A bod y pwyllgor craidd wedi mynychu eu hyfforddiant pwyllgor hanfodol perthnasol.

Yn Datblygu (Lefel 1): Manylion pwyllgor a dogfennau pwysig yn gywir ac wedi’u diweddaru ar y wefan a MS Teams.

 

Cyfathrebu

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae gan y clwb/cymdeithas bresenoldeb ar-lein A bod y clwb/cymdeithas yn manteisio’n effeithlon ar gyfryngau cymdeithasol yr UM (ee tagio sianeli yr UM, rhannu cynnwys UM, ayyb)

Da Iawn (Lefel 3): Mae gwefan y clwb/cymdeithas yn ddwyieithog.

Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn diweddaru’r wefan a bod pob elfen o restr y wefan wedi’u bodloni

Yn Datblygu (Lefel 1): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cadw eu gwefan yn gyfoes o ran digwyddiadau a gweithgareddau; mae ganddynt logo unigryw, disgrifiad clir o'r Clwb/Cymdeithas a sut y gall myfyrwyr gyfranogi

 

Cyllid

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynhyrchu taenlen ddilyn arian ar Microsfot Teams a’i diweddaru’n gyson A eu bod yn gallu dangos bod incwm trwy aelodaeth yn cael ei wario ar adnoddau er budd ei aelodaeth.

Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn ennill incwm trwy gael ei ariannu’n allanol gan ddilyn gweithdrefnau yr UM (ee codi arian, cael ei noddi, grantiau, ayyb)

Da (Lefel 2): Mae’r Clwb/Cymdeithas wedi rhoi rhagolwg taenlen ariannol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn Datblygu (Lefel 1): Mae Llywydd a Thrysorydd y Clwb/Cymdeithas wedi mynychu ac wedi pasio hyfforddiant pwyllgor ‘Cyllid, Cyllidebu a Chodi Arian’.

 

Cynhwysoldeb

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn trefnu neu’n chwarae rhan fawr mewn trefnu digwyddiad ynghylch amrywiaeth a chynwysoldeb.

Da Iawn (Lefel 3): Mae’r clwb/cymdeithas yn trefnu neu’n chwarae rôl bwysig mewn trefnu digwyddiad neu ymgyrch codi ymwybyddiaeth ynghylch amrywiaeth a chynwysoldeb ee cynnal stondin mewn digwyddiad Mis Hanes LDHTC+, rhannu profiadau aelodau, ayyb.

Da (Lefel 2): Mae’r clwb/cymdeithas yn cymryd rhan neu’n cyfrannu at ddigwyddiad neu hyfforddiant ynghylch amrywiaeth a chynwysoldeb, ee digwyddiad UM rhannu, mynychu digwyddiadau dathlu rhyddhad pwysig (Mis Hanes Pobl Dduon, Mis Hanes LDHTC+, Diwrnod Cofio Pobl Traws, ayyb.)

Yn Datblygu (Lefel 1): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn cynnwys datganid cynwysoldeb ar eu gwefan.

 

Llesiant

 

Ardderchog (Lefel 4): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn gallu dangos effaith llesiant gadarnhaol ar yr aelodaeth gyda dyfyniadau/tystion/erthyglau.

Da Iawn (Lefel 3): Mae’r Clwb/Cymdeithas yn trefnu neu’n chwarae rhan fawr mewn trefnu digwyddiad yn ymwneud â llesiant positif.

Da (Lefel 2): Cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n hyrwyddo llesiant positif.

Yn Datblygu (Lefel 1): Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hyrwyddo llesiant positif.

 

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun achredu, mae croeso i chi gysylltu gyda’ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr trwy suopportunities@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576