UMaber yn Dathlu - ENWEBIADAU YN CAU MAWRTH 1af
Bob blwyddyn yn ystod wythnos UMAber Yn Dathlu, byddwn ni’n dathlu llwyddiant a chyraeddiadau ein myfyrwyr a’n staff yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd tri digwyddiad dathlu yn ystod yr wythnos:
Gwobrau’r Cymdeithasau sy’n cydnabod cyfraniad y cymdeithasau a myfyrwyr at wella’r profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth.
7pm dydd Llun 1 Ebrill, ar Graig-lais
Mwy o wybodaeth yma.
Gwobrau’r Staff a Myfyrwyr sy’n cefnogi arfer gorau drwy dynnu sylw at ragoriaeth addysgu a chydnabod cyfraniadau staff a myfyrwyr at brofiad y myfyrwyr.
Dydd Mawrth 2 Ebrill, Canolfan y Celfyddydau
Mwy o wybodaeth yma.
Gwobrau’r Chwaraeon sy’n cydnabod ymroddiad myfyrwyr i’w clybiau chwaraeon gan gydnabod cyfraniadau cymdeithasol, cystadleuol a phroffesiynol.
Dydd Mercher 3 Ebrill, Parc Carafanau Brynrodyn
Mwy o wybodaeth yma.
Cofiwch mai myfyrwyr sy’n enwebu, beirniadu ac yn cyflwyno yn ein holl wobrau!
Yn ogystal â’r rhain, byddwn ni’n dathlu ein llwyddiannau fel teulu Aber yn ystod y flwyddyn gyfan ar y wefan, ein cyfryngau cymdeithasol ac ar bob campws.