Mae'r Gwasanaeth Cynghori'n darparu gwybodaeth, cyngor a chynrychiolaeth ynghylch amrywiaeth eang o weithdrefnau a phrosesau'r brifysgol gan gynnwys apeliadau, materion disgyblu, cwynion, amgylchiadau arbennig, arfer academaidd annerbyniol ac adolygiad terfynol.
Gallwn eich cynghori chi ynghylch y gwahanol weithdrefnau a phrosesau, sut mae dynodi tystiolaeth ategol addas a drafftio cyflwyniadau, yn ogystal â'ch helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd neu wrandawiadau. Dan rai amgylchiadau gallwn hyd yn oed fynychu gwrandawiadau a chyfarfodydd gyda chi.





Cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd isod:
Ar-lein: Gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau
E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 621712