Apeliadau Academaidd

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglyn â'ch canlyniadau ar ôl i Fwrdd Gradd Ymchwil neu Fwrdd Arholi Senedd y Brifysgol wneud eu penderfyniad, neu os ydych chi'n teimlo bod eich canlyniadau wedi cael eu heffeithio gan broblemau ar y cwrs neu oherwydd materion personol, yna mae'n bosib y byddwch yn gallu gwneud cais am Apêl Academaidd.

Pwyntiau pwysig y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. deall y rheolau sylfaenol ar gyfer apeliadau academaidd a'r gwahaniaeth rhwng apêl academaidd a chwyn (mae prosesau ar wahân ar gyfer y naill a’r llall);
  2. dangos bod eich apêl yn bodloni'r meini prawf penodol (gan ddibynnu ar eich statws fel naill ai myfyriwr israddedig, ôl-raddedig a addysgir neu ôl-raddedig ymchwil);
  3. cyflwyno'r ffurflen apêl briodol mewn da bryd gan gynnwys tystiolaeth i gefnogi eich cais.

Beth yw Apêl Academaidd?

Diffiniad y Brifysgol o apêl academaidd yw:

 "...cais am adolygiad o benderfyniad gan gorff academaidd sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar gynnydd myfyrwyr, asesiadau a dyfarniadau."

Gall hyn gynnwys, er enghraifft, achosion lle byddwch efallai'n anghytuno â'r penderfyniad a wnaed oherwydd eich bod yn teimlo nad yw'r Brifysgol wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i'ch amgylchiadau personol, a allai fod wedi effeithio ar eich gallu i ymgymryd â'ch astudiaethau.

Cofiwch, er mwyn osgoi gorfod cyflwyno apêl yn y lle cyntaf, neu'r risg o gael eich apêl wedi'i gwrthod, dylech bob amser geisio cyflwyno tystiolaeth ynglyn ag amgylchiadau personol cynted â phosib, ac yn sicr cyn cod y byrddau arholi’n cwrdd, drwy'r broses ar gyfer ymdrin ag amgylchiadau arbennig.

Gellir hefyd apelio yn erbyn penderfyniadau ar gael eich diarddel gan ddilyn yr un broses ar gyfer apeliadau academaidd. Gweler ein canllawiau ar Gynnydd Academaidd am fwy o wybodaeth.

Er y gall eich apêl gynnwys cwynion, nid yw hyn yr un fath â chwyn ffurfiol, sy'n dilyn proses wahanol, ac os caiff ei gadarnhau mae iddo wahanol lwybrau nad ydynt yn academaidd ar gyfer gwneud iawn am unrhyw gamwedd.  Gweler ein canllawiau ar Weithdrefnau Cwynion am fwy o wybodaeth.

Cofiwch: Ni fydd y Brifysgol yn derbyn apêl os eich unig bryder yw'r ffaith eich bod yn anghytuno â 'barn academaidd' y marcwyr neu'r Bwrdd Arholi.


Sail ar gyfer Apêl

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi cael eich anfanteisio mewn unrhyw ffordd yn ystod eich astudiaethau, a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn eich canlyniadau, yna mae'n bosib bod gennych sail ar gyfer apêl academaidd. 

I israddedigion, mae tair prif sail ar gyfer apêl, sef y canlynol:

  1. Amgylchiadau personol sydd wedi cael effaith niweidiol ar eich astudiaethau academaidd;
  2. Gwallau neu anghysondeb yn y modd y cafodd yr asesiad ei gynnal neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor a roddwyd;
  3. Tystiolaeth o ragfarn, neu duedd, neu asesiad annigonol ar ran un neu fwy o'r arholwyr.

I ôl-raddedigion ymchwil, mae sail ychwanegol:

  1. Tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol a bod rhesymau eithriadol pam nad yw'r myfyriwr wedi dwyn sylw at hyn cyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.

Casglu Tystiolaeth

Gall casglu tystiolaeth fod yn anodd ar y gorau, ond gall ei chyflwyno'n hwyr neu ar yr amser anghywir beri problemau. Mae hyn oherwydd na chaiff apeliadau fel arfer eu hystyried oni fyddant ar y sail nad oedd yn bosib eu cyflwyno ar y pryd drwy'r broses ar gyfer Amgylchiadau Arbennig. Gweler ein canllawiau ar Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau am fwy o wybodaeth.

Cofiwch: Y terfyn amser arferol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedigion a addysgir yw 10 diwrnod gwaith, ac 20 diwrnod gwaith ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ymchwil.


Sut mae mynd ati i gyflwyno fy Ffurflen Apêl?

Bydd rhaid i chi gwblhau'r ffurflen apêl, gan ddibynnu ar eich statws fel myfyriwr israddedig, ôl-raddedig a addysgir neu ôl-raddedig ymchwil. Mae'r naill ffurflen a'r llall yn gofyn am fanylion personol, y sail ar gyfer eich apêl, y rhesymu sydd y tu ôl i'ch apêl, yr effaith arnoch chi neu eich astudiaethau, tystiolaeth, ac yn hanfodol bwysig, y deilliannau rydych chi am eu gweld.

Gallwch gyflwyno'r ffurflen, y gellir dod o hyd iddi trwy ddefnyddio'r dolenni defnyddiol ar ddiwedd y canllaw hwn, naill ai drwy'r post at: Y Gofrestrfa Academaidd (Apeliadau), Adeilad Cledwyn, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DD, neu drwy e-bost at: caostaff@aber.ac.uk.


Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno'r ffurflen?

Gwneir penderfyniad cychwynnol ar ddilysrwydd yr apêl, ac os caiff ei derbyn gwneir penderfyniad yn ddiweddarach ar ganlyniad yr apêl (a all o bosib gynnwys gwrandawiad).  Gall enghreifftiau o'r math o benderfyniadau a gaiff eu gwneud gynnwys cyfle i ail-sefyll modiwl am farciau llawn heb orfod talu ffi, neu godi dosbarth gradd mewn achosion lle mae myfyriwr wedi dangos amgylchiadau arbennig arwyddocaol o fewn y cyfnod gosod a.y.b.


Beth os ydw i'n anfodlon â chanlyniad fy Apêl?

Os ydych chi'n dal yn anfodlon â chanlyniad apêl academaidd, gallwch wneud cais am Adolygiad Terfynol. Yn gyntaf, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Adolygiad Terfynol o fewn amser penodol, fel arfer 10 diwrnod gwaith ar y sail ganlynol:

  1. Anghysondeb gweithdrefnol (camgymeriad a wnaed wrth weithredu rheoliadau/gweithdrefnau, neu,
  2. Tystiolaeth newydd (na ellid yn rhesymol bod wedi'i chyflwyno ynghynt).

Beth sy'n digwydd unwaith y bydda i wedi cyflwyno ffurflen Adolygiad Terfynol?

Mae'r Adolygiad Terfynol yn gyfle i Ddirprwy Is-Ganghellor o strwythur rheolaeth y Brifysgol i ganfod a ymchwiliwyd i faterion yn deg ac a wnaed penderfyniadau rhesymol.  Nid yw hwn yn gyfle i ail-agor yr ymchwiliad a dechrau o'r dechrau.  Serch hynny, gallant benderfynu ffurfio Panel swyddogol, lle bo hynny'n briodol, i'w cynorthwyo.

Sut bynnag maen nhw'n gweithredu, mae'r opsiynau canlynol ar gael iddyn nhw (neu'r Panel): gallant wrthod y cais am adolygiad a chadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol; neu os ydyn nhw'n cadarnhau'r cais, gallant argymell gweithredu priodol i adfer y sefyllfa.  Gall y broses hon gymryd hyd at 6 wythnos, a bydd y penderfyniad yn derfynol; dyma yw diwedd y broses fewnol yn y Brifysgol. Unwaith eto, mae'n bosib y bydd cynghorydd o'r Gwasanaeth Cynghori'n gallu mynychu Panel, os caiff un ei ffurfio, i roi cymorth i chi yn ystod proses yr Adolygiad Terfynol.

Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon â chanlyniad yr Adolygiad Terfynol, mae opsiwn arall ar gael sydd y tu allan i'r Brifysgol; gallwch fynd â'ch cwyn ger bron Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (SDA) er mwyn trafod y mater ymhellach â chynghorydd.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio'r Weithdrefn Apeliadau i chi a'ch arwain drwy'r gwahanol gamau;
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych yn eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Monitro cynnydd eich apêl;
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd i'ch darparu â chymorth a chynrychiolaeth;
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

I drafod pob opsiwn sydd ar gael i chi, gan gynnwys pa gymorth y gallwch chi ei gael, mae croeso i chi gysylltu â ni isod:

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mehefin 2017

Adolygwyd: April 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576