- Cyngor >
- Gwaredu Straen Arholiadau Aber
Mae Llacio Straen Arholiadau yn Aber yn ddigwyddiad wythnos o hyd, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr gael hwyl ac ymlacio rhywfaint. Gall cyfnodau arholiadau ac asesu fod yn adeg eithriadol o brysur i lawer o fyfyrwyr.
Rydym am sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch yn ystod y cyfnod hwn, a dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol i'ch cynorthwyo gyda gwybodaeth, gweithgareddau a digwyddiadau.
Mae'r tabl isod yn dwyn sylw at amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Pob lwc oddi wrth bawb yn UMAber!

Gwasanaethau Cymorth
Yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau, rydym am eich atgoffa o rai o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael pe baech chi eu hangen yn ystod cyfnod a all beri cryn straen.
Gwasanaeth Cynghori UMAber
Ffôn: 01970 621700
E-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk
Cymorth i Fyfyrwyr
Ffôn: 01970 621761 622087
E-bost: cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk
Gyrfaoedd
Ffôn: 01970 622378
E-bost: gyrfaoedd@aber.ac.uk
Peidiwch ag anghofio bod amrywiaeth o bobl ar draws y campws a all gynnig gair o gyngor a chefnogaeth, gan gynnwys mentoriaid myfyrwyr, tiwtoriaid personol a staff yn eich adran.
Tips Arholiadau ac Adolygu
Gofynnom ni i'n tîm swyddogion os oedd ganddynt unrhyw awgrymiadau defnyddiol i fyfyrwyr yn ystod cyfnod yr arholiadau - dyma'r hyn a ddywedon nhw!
Aaron, Swyddog y Myfyrwyr Anabl:
- Siaradwch â rhywun i helpu i leddfu'r straen.
- Sicrhewch eich bod chi'n trefnu seibiannau rheolaidd.
- Ceisiwch barhau â'ch bywyd cymdeithasol. Bydd straen yn mynd yn waeth fyth pan fyddwch chi ddim yn gweld eich ffrindiau.
Asif, Swyddog yr Ôl-raddedigion:
- Cysylltwch ag Undeb y Myfyrwyr pan fydd gennych chi broblem
- Canolbwyntiwch ar eich astudiaethau ond cymdeithaswch gyda gwahanol bobl hefyd
- Ewch i grwydro prydferthwch Cymru
James, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd:
- Gwisgwch eich cot ac ewch, yn ddelfrydol, gyda ffrind (opsiynol)
- Ewch i Coffee #1, prynwch siocled poeth. (Cewch ddiolch i mi yn ddiweddarach)
Jamie, Swyddog y Myfyrwyr Hyn:
- Dewiswch fodiwlau sydd heb arholiadau papur.
- Os yw straen yr arholiadau yn ormod, ystyriwch ffyrdd ymarferol o ddysgu sy'n arddangos eich sgiliau a'ch gallu orau.
Karolina, Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol:
- Mae astudio mewn grwp yn fwy hwyl a hamddenol.
- Ewch am dro, i'r traeth, i'r goedwig.
- Siaradwch am eich pryderon gyda phobl, swyddogion, ymgynghorwyr, ffrindiau. Ewch ati i ryddhau eich teimladau, dydych chi ddim ar eich pen eich hun!
Natasha, Cadeirydd y Senedd:
- Crëwch amserlen astudio sy'n cynnwys sawl ddull adolygu e.e. gwerslyfrau a fideos adolygu.
- Hefyd, mae hunanofal yr un mor bwysig e.e. cael digon o gwsg a maeth.
- Yn olaf, neilltuwch amser i ymlacio e.e. gwnewch dipyn bach o ioga neu gwyliwch ffilm.
Sam, Swyddog y Myfyrwyr Annibynnol:
- MYNYCHWCH SESIWN Y CWN!!
- Mae'n iawn crio nawr ac yn y man.
- Adolygwch gyda ffrind, byddan nhw'n eich cymell chi ac yn gwneud y profiad yn llai diflas.
Sophie, Swyddog y Menywod:
- Cynlluniwch ymlaen llaw a cheisiwch gadw at y cynllun drwy'r amser - bydd y broses adolygu yn ymddangos yn llawer llai brawychus!
- Caniatewch amser i chi'ch hun y tu hwnt i adolygu - gall ymlacio'r ymennydd wneud gwyrthiau.
- Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth os bydd ei angen :)
Steve, Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+:
- Byddwch yn barod. Ysgrifennwch amserlen adolygu. Gwnewch nodiadau yn eich darlithoedd a chadwch nhw'n ddiogel i'w defnyddio'n ddiweddarach.
- Cymerwch anadl ddofn. Bydd poeni a phryderu yn datrys dim a bydd yn eich atal chi rhag datrys y broblem.
- Gweithiwch gyda'ch cyd-fyfyrwyr. Mae'n debyg y bydd pob un ohonoch chi'n ei chael hi'n anodd gyda gwahanol rannau ohono ac yn gallu helpu eich gilydd i ddatrys y broblem.
Dhan, Cynrychiolydd Cyfadran:
- Gofalwch amdanoch chi eich hun (sicrhewch eich bod chi'n bwyta ac yn gorffwys digon)
- Cynlluniwch eich adolygu (cadwch uwchben y gwaith)
- Sicrhewch eich bod chi'n cymryd seibiannau fel bod modd i chi weld eich ffrindiau ac ymlacio
Joao, Cynrychiolydd Cyfadran:
- Stopiwch ddweud bod angen i chi adolygu ac ewch ati i wneud rhywbeth cwbl wahanol i ganiatáu i'r wybodaeth lynu wrth eich ymennydd!!!!
- Peidiwch â gorfeddwl am arholiadau! Dim ond y flwyddyn gyntaf yw hi!
- Siaradwch â'ch ffrindiau! Maen nhw hefyd yn poeni!
Roisin, Cynrychiolydd Cyfadran:
- Cofiwch mai'r cyfan gallwch chi ei wneud yw eich GORAU.
- Rhowch losin ar hap yng nghanol tudalennau, felly pan fyddwch chi'n cyrraedd y dudalen honno, cewch wobr am astudio'n galed.
- Argraffwch cyn-bapurau arholiad ac atebwch y cwestiwn fel pe baech chi mewn arholiad, yna darllenwch drwy eich atebion i weld a gawsoch chi'r wybodaeth angenrheidiol.
Troy, Cynrychiolydd Cyfadran:
- Cymerwch seibiannau
- Peidiwch ag aros ar ddihun drwy'r nos
- Gwnewch ymarfer corff