Dyma sut gallwn ni helpu!
Gwyddom fod costau byw ar hyn o bryd yn bryder i bawb. Rydyn ni eisiau cynnig cymaint o gefnogaeth i'n myfyrwyr i'ch helpu chi drwyddo! Fel ein Hyb Rhad ac Am Ddim, lle gallwch chi gael eich dillad, nwyddau cartref, bwyd, a hanfodion i gyd AM DDIM!
HYB YR HAEL
I helpu myfyrwyr yn ystod yr argyfwng costau byw sydd ohoni, mae’r UM yn cynnig ystod eang o eitemau i chi gymryd am ddim! Mae gan Hyb yr Hael 2 ystafell, un llawn nwyddau cartref ail law a dillad, a’r llall gydag amrywiaeth o fwyd a hanfodion fel pethau ymolchi.
Mae proses o gael bwy trwy Hyb yr Hael.
Os ydych chi am ofyn am unrhyw eitemau o Hyb yr Hanfodion, bydd rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon yn gyntaf. *ar gael o 2il Hydref
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gydag arian, y Gronfa Caledi sydd hefyd yn opsiwn i chi os oes angen cymorth.
Ble mae Hyb yr Hael?
Ewch i lawr i’r UM o dan y ddaear, heibio’r gegin Gymunedol, drwy’r drysau dwbl, y drws cyntaf ar y chwith yw’r Hyb Rhad ac Am Ddim!
CEGIN GYMUNEDOL
Lle bydd bwyd dros ben ar y campws ar gael am ddim (yn yr UM Underground)! Bydd lle i chi gymryd a pharatoi bwyd, gyda microdon, tegell ac ati hefyd.
RHODDWCH
Rydyn ni hefyd yn croesawu rhoddion! Os oes diddordeb, mae’r UM yn hapus croesawu eich hen hoff bethau, os ydych chi am roddi pethau, gellir eu gadael yn y bocsys yn y dderbynfa unrhyw bryd yn ystod yr wythnos. Rhoddir yr eitemau wedyn yn Hyb yr Hael i fyfyrwyr mewn angen eu defnyddio.