A ddylai UMAber leihau nifer y Swyddogion Adrannol?

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 24/04/2023

Yn darfod ar: 24/04/2026

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Y Swyddog Materion Academaidd


Crynodeb

Trwy gael un swyddog adrannol fesul cyfadran, byddai’n golygu bod pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli oherwydd na fydd rolau gwag.

 

Manylion

Ar hyn o bryd mae yna 6 rôl Swyddog Adrannol, FELS IR, FELS ÔR, FASS IR, FASS ÔR, FBAPS IR a FBAPS ÔR. Rwy’n cynnig cyfuno’r rolau hon yn dri a bod un Swyddog yn unig yn cynrychioli pob cyfadran.

Ers y blynyddoedd academaidd 19/20, 20/21, 21/22, 22/23 nid oedd unrhyw bryd pan gafodd pob 6 rôl ei llenwi. Dim ond mewn 1 o’r 4 cyfnod hwn roedd cynrychiolydd IS ac ÔR i un gyfadran. Nid yw rolau gwag yn adlewyrchu’n dda ac mae’n gallu peri i rai myfyrwyr deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli oherwydd nad oes ganddynt Swyddog Adrannol. Bu digon o weithiau pan benderfynodd Swyddog adrannol IR ar gynrychioli ar lefel ÔR pan na chafodd ei llenwi, trwy gyfuno’r rolau’n un byddai gan y cynrychiolydd y dulliau, yr adnoddau a’r gefnogaeth i gynrychioli’n effeithlon.

Cyflwynwyd gan: Zoë Hayne


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl

 Dyddiad

Cyflwynir hyn yn etholiadau 2024. Anna (Materion Academaidd 2023-24) Tachwedd 2023
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

     

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Materion Academaidd

Anna Simpkins

academaiddum@aber.ac.uk

     

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576