Dylai Undeb y Myfyrwyr wneud y newidiadau arfaethedig i'r cyfansoddiad

Pasiwyd gan:

Pasiwyd ar: 20/02/2023

Yn darfod ar: 20/02/2026

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Crynodeb

A ddylai Undeb y Myfyrwyr wneud y newidiadau arfaethedig i'r cyfansoddiad

 

Manylion

Mae cyfansoddiad Undeb y Myfyrwyr yn cael ei adolygu bob ychydig o flynyddoedd i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn gywir. Gweler isod y newidiadau arfaethedig a’u rhesymeg:

Gwneud Rhywedd yn Niwtral:
Diben: Gwneud y cyfansoddiad yn fwy cynhwysol i’r rhai nad ydynt yn defnyddio rhagenwau gwrywaidd neu fenywaidd.
• Newid ‘ei…fe neu ei…hi’ i ‘eu…nhw’ ym mhwyntiau 16.1, 61.6, a 93

Diddymu y Pwyllgor Gweithredol:
Diben: Yn ymarferol, mae’r Senedd eisoes yn cyflawni llawer o rôl Pwyllgor Gweithredol yr Undeb ers tro (sy’n cynnwys tîm llawn y Swyddogion). Mae'r newid hwn yn dod â'r cyfansoddiad yn unol â gweithrediadau presennol.
• Newid pob cyfeiriad at 'Bwyllgor Gwaith yr Undeb' ym mhwyntiau 20, 22, 65 i 'Senedd'
• Ym mhwynt 28 dileu 'neu Bwyllgor Gwaith UMPA'.
• Dileu'r adran 'Pwyllgor Gweithredol yr Undeb' sy'n cynnwys cymalau 112 a 113.
• Diddymu 44.2

Galluogi Cynnal y Senedd yn Rhithiol a Thrwy Gymysgedd o Ddulliau ar Lefel Gyfansoddiadol:
Diben: Newid y cyfansoddiad i alluogi cynnal y Cyf Cyff, Cyfarfodydd Cyffredinol Arbennig a’r Senedd yn rhithiol a thrwy gymysgedd o ddulliau.

Yn lle pwynt 31 rhowch 'Gellir cynnal cyfarfodydd yn gorfforol a/neu ar-lein cyn belled â bod yr holl gyfranogwyr yn gallu rhyngweithio â'i gilydd ar yr un pryd. Pan na fydd cyfarfodydd yn gwbl gorfforol, nac yn gwbl ar-lein, rhaid i gyfranogwyr nodi drwy bleidlais fwyafrifol eu bod yn fodlon â'r drefn a'r dechnoleg'.

Egluro ‘Cyfarfod’:
Diben: sicrhau ei bod yn glir pryd mae’r cyfansoddiad yn golygu cyfarfod ymddiriedolwyr neu Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Cyfarfod Cyffredinol Arbennig neu’r Senedd.
• Pwynt 12.1 – ‘fel y diffinnir yng nghymal 24’ a rhoi ‘y Senedd, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig’ yn ei le.
• Pwynt 6, 14, 32, 43, 44.1, 47, 73, 81 rhoi (y Senedd, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig’) yn sgil Cyfarfod. Yng nghymal 99 gosodir (y Senedd, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig’) yn sgil ‘Cyfarfodydd UMPA’
• Ym mhwynt 54, 58, 73, 106, a 116.27 yn lle ‘Cyfarfod’’ rhoi ‘Cyfarfod y Senedd, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig’.
• Ym mhwynt 96 rhoi ‘ymddiriedolwr’ cyn cyfarfod.
• Ailosod “Presenoldeb mewn Cyfarfodydd’ gyda ‘Phresenoldeb yn y Senedd, mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a Chyfarfod Cyffredinol Arbennig’
• Mae pwynt 37 yn disodli cyfarfod gyda 'Senedd, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig'

Egluro ‘Cadeirydd’:
Diben: sicrhau ei bod yn glir pryd mae'r cyfansoddiad yn golygu Cadeirydd Ymddiriedolwyr neu Gadeirydd yr Undeb.
Pwynt 32.1 a 39, rhoi 'Cadeirydd yr Undeb' yn lle 'cadeirydd'.

Egluro’r ffordd o alw am Bleidlais Holl Fyfyrwyr a Chyfarfod
Cyffredinol Arbennig:
Diben: Egluro sut y byddai aelod cyffredin o Undeb y Myfyrwyr yn mynd ati i alw am Bleidlais Holl Fyfyrwyr neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig
• Dileu 44.2
• Ym mhwynt 44.3, yn lle ‘unrhyw aelod cyffredin’ rhoi 'deiseb ddiogel o 250 o aelodau cyffredin (gan gynnwys nifer y myfyrwyr) a gyflwynwyd i Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr'. Byddai’r un peth i alw am bleidlais holl fyfyriwr ynghylch diswyddo ymddiriedolwr allanol.
• Ym mhwynt 62 ychwanegir '(gan gynnwys rhif myfyriwr)' yn dilyn '250 o aelodau cyffredin'
• Ym mhwynt 27 yn lle 'un rhan o ddeg o'r aelodaeth, p'un bynnag sydd fwyaf' rhodder 'deiseb ddiogel o 250 o aelodau cyffredin (gan gynnwys nifer y myfyrwyr).

Eraill – Golygiadau Llai:
• Newid pwynt 27; diwygiwyd 12.2; Newid pwynt 28
• Pwynt 40 – newid 'o bryd i'w gilydd ac o le i le' i '(i symud amser neu le)
• Newid pwynt 35 –
• Pwynt 41 – newid Semedd i Senedd
• Pwynt 48.1, 48.2, 48.3
• Pwynt 28 dileu’r gair Assembly/Cynulliad
• Pwynt 35 – mewnosod ‘%’ yn sgil ‘50’
• 55, 68 – newid ethol i benodi
• Newid pwynt 116.25 o ‘Swyddogion Rhan Amser’ i ‘Swyddogion Gwirfoddol’
• 84 – dileu 'bydd y Prif Weithredwr ar gais y ddau Ymddiriedolwr'
• Pwynt 7 dileu S ar ôl AUSU.

Cyflwynwyd gan: Ash Sturrock 


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Newidiadau a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ar (DATE) 2023.  Bayanda (Llywydd Undeb 2023-24) Tachwedd 2023
Wrthi’n rhoi gwedd newydd ar y cyfansoddiad a mynd at Gyngor y Brifysgol i’w gadarnhau fydd y camau nesaf. Bayanda (Llywydd Undeb 2023-24) Tachwedd 2023

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576