Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 04/12/2023
Yn darfod ar: 04/12/2026
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb
Manylion:
Cynnig i newid Is-Ddeddf yr etholiadau fel a ganlyn:
O:
Cymhwysedd Etholiadol
2.1 Dim ond aelodau cyffredin llawn UMAber all sefyll a phleidleisio yn etholiadau UMAber, ar yr amodau canlynol:
a. Ni all yr un aelod sefyll etholiad am fwy nag un rôl mewn pob math o rôl.
b. Cyfyngir aelodau i ddau gyfnod yn rôl Swyddog Ymddiriedolwr.
Newid i:

c Mae’n rhaid nad ydynt wedi optio allan o Aelodaeth Undeb y Myfyrwyr ar y dyddiad yr agorir enwebiadau.
Cyflwynwyd gan: Bayanda Vundamina
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Rydyn ni wedi newid is-ddeddfau yr etholiadau fel bod rhaid i aelod fod ag aelodaeth o ddechrau’r tymor er mwyn cael sefyll yn Etholiadau’r UM. Mae pob myfyriwr/wraig yn dod yn aelodau Undeb Aberystwyth yn awtomataidd, ac mae hyn yn berthnasol i’r rheini sydd wedi optio allan yn unig. |
Bayanda (Llywydd Undeb 2023-2025) |
Mehefin 2024 |
Cymeradwywyd y newidiadau i’r Etholiadau yng nghyfarfod Cyngor y Brifysgol ac maent bellach mewn grym yn swyddogol. |
Bayanda (Llywydd Undeb 2023-2025) |
Mehefin 2024 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.