Pasiwyd gan: Senedd
Pasiwyd ar: 21/02/2021
Yn darfod ar: 21/02/2025
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Cyfleoedd
Crynodeb
Calendr/amserlen ar-lein gydweithredol a system archebu i gymdeithasau a chlybiau archebu ystafelloedd yn yr UM a’r Brifysgol ar gyfer digwyddiadau.
Manylion
Ar hyn o bryd, mae'n anodd i gymdeithasau a chlybiau archebu ystafelloedd yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol ei hun. Mae angen e-bostio'r undeb ac yna aros am ateb, a all gymryd dyddiau yn ystod y gwyliau, gwyliau banc a phenwythnosau (sy’n gwbl ddealladwy). Fy syniad i oedd llunio system archebu calendr ar y cyd, fel bod unrhyw un o gymdeithas neu glwb yn gallu gweld pryd mae'r lleoedd ar gael ac yn gallu eu harchebu'n hawdd. Yn ogystal â hyn, byddai cael rhestr o’r lleoedd sydd ar gael i ni gyda gwybodaeth am y gofod hwnnw (hygyrchedd, offer, cyfleusterau ychwanegol a.y.b.) ynghyd â lluniau, yn golygu y byddai pwyllgorau yn gallu cynllunio digwyddiadau a chyfarfodydd cymdeithasol yn gyflymach ac yn haws gyda llai o angen i staff ymwneud â’r broses.
Cyflwynwyd gan: Sarah Davies
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.