Anfodlonrwydd ynghylch yr hawl i ail-sefyll

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 30/11/2020

Yn darfod ar: 30/11/2024

Statws: Cyflawnwyd


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Materion Academaidd


Crynodeb

Yn ystod yr amhariad mae Covid-19 yn ei achosi, dylid caniatáu i fyfyrwyr ag amgylchiadau arbennig ail-sefyll modiwlau maen nhw wedi’u pasio!

Manylion

Roedd asesiadau yn cael eu newid y funud olaf, ac roedd y bylchau yn strwythurau cymorth y brifysgol yn dod yn amlwg.

O ganlyniad, cyflwynodd y brifysgol nifer o reoliadau brys ar gyfer dilyniant academaidd - gan gynnwys fersiwn ddiwygiedig o'r broses amgylchiadau arbennig gyfredol. O dan y rheolau dros dro hyn, roedd myfyrwyr yn gallu dewis ail-sefyll unrhyw asesiad yr oedd Covid-19 wedi effeithio arno, HEB GAP AR EU MARC, p'un a oeddent wedi PASIO neu FETHU yn wreiddiol. Nid oedd yn ofynnol chwaith i fyfyrwyr gyflwyno unrhyw ddogfennaeth ar gyfer amgylchiadau arbennig, gan fod y rheolau yn cael eu gweithredu'n awtomatig.

Y Broblem - Ddydd Mercher 18fed Rhagfyr, pasiodd Senedd y Brifysgol y penderfyniad i gael gwared ar y mesurau hyn ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, gan eu disodli â mesurau lliniaru llawer llai effeithiol. O dan y newidiadau hyn, bydd yn rhaid i fyfyrwyr y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt bellach wneud cais am amgylchiadau arbennig, cyfiawnhau lefel eu heffaith, a gobeithio bod y cais hwn yn cael ei ganiatáu gan eu hadran. Gyda hyn, ni fydd ceisiadau am amgylchiadau arbennig a ganiateir yn dod i rym oni bai bod y modiwl / asesiad yr effeithiwyd arno wedi’i fethu neu heb ei gwblhau. Mae hyn yn golygu, pe bai myfyriwr yn wynebu effaith ddifrifol eleni oherwydd covid-19 ond yn dal i basio ei holl fodiwlau, ni fydd y mesurau lliniaru hyn yn dod i rym ac ni fydd ganddo’r hawl i gael ail-sefyll heb gap ar y marc.

Canlyniadau a Ddymunir - Bydd y Swyddog Materion Academaidd yn lobïo'r brifysgol i ganiatáu i fyfyrwyr sydd â chais amgylchiadau arbennig wedi’i gadarnhau i ail-sefyll modiwlau / asesiadau maent wedi’u PASIO y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt.

Cyflwynwyd gan: Chloe Wilkinson-Silk


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Llwyddodd y Swyddog Materion Academaidd i lobïo'r brifysgol am Rwyd Ddiogelwch / Dim Anfantais ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21.

Mae hyn wedi'i weithredu ar gyfer pob myfyriwr ac i ddarganfod mwy am sut mae'n gweithio edrychwch ar ei blog yma: https://www.abersu.co.uk/news/article/umabersu/Safety-Net-for-Aber-Students/ a Chwestiynau Cyffredin y Brifysgol yma https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/faqs/ ('eich Astudiaethau') a https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/faqs/#is-the-university-following-a-no-detriment -polig.
   
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Materion Academaidd

Anna Simpkins

academaiddum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576