A ddylai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students’ Union newid ei enw a chael ei chydnabod fel Undeb Aberystwyth?

Pasiwyd gan: Y Cyfarfod Mawr

Pasiwyd ar: 04/03/2024

Yn darfod ar: 04/03/2027

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA


Crynodeb: 

Dangoswch ein bod yn Caru’r Gymraeg drwy ddefnyddio'r enw Cymraeg ar yr Undeb yma'n Aberystwyth.

Manylion

A ddylai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students’ Union newid ei enw a chael ei gydnabod fel Undeb Aberystwyth? Dyma fy nghwestiwn i i chi. Yn fy nhyb i mae tuedd i ddefnyddio’r enw Saesneg, Aberystwyth Students’ Union yn amlach na’r Gymraeg a nid yw hyn yn adlewyrchu endid Cymraeg yr Undeb.

Ers bod yn fy swydd fel Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA, rwyf wedi cael sawl un yn honni mai Bangor yw'r 'Brifysgol Gymraeg' yng Nghymru, ac er fy mod i'n amlwg yn anghytuno'n llwyr gyda hyn mae un peth yn sefyll allan imi, sef eu henw uniaith Gymraeg ar yr Undeb. Roedd y penderfyniad yma'n un mewnol ym Mangor, ond credaf ei bod hi'n bwysig cymryd i ystyriaeth llais y myfyrwyr mewn penderfyniad fel hyn, gan ystyried hefyd y bydd ychydig o gost yn sgil y newid.

Yn ychwanegol, un o'n gwerthoedd ni yma yn yr Undeb yw CARU'R GYMRAEG a pha ffordd well o gyfleu hynny na drwy newid enw'r Undeb i Undeb Aberystwyth, sy'n dipyn llai o lond ceg nag Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students’ Union!

Mae tuedd hefyd i rai gyfeirio at yr Undeb Myfyrwyr fel yr Undeb Saesneg ac yna UMCA fel yr Undeb Gymraeg, a fy ngobaith i drwy newid yr enw yw amlygu ymrwymiad yr Undeb tuag at y Gymraeg. Bydd y newid hwn hefyd yn dangos i'r Brifysgol bod statws y Gymraeg yn bwysig i'r myfyrwyr.

Mae sawl enghraifft o ble mae defnyddio'r enw Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth er enghraifft, FAW Cymru, Bannau Brycheiniog a'r Wyddfa.

Dyma gyfle i sicrhau bod pobol yn defnyddio’r Gymraeg nid yn unig yma yn Aberystwyth ond hefyd yn rhyngwladol.

Dangoswch ein bod yn Caru’r Gymraeg drwy ddefnyddio'r enw Cymraeg ar yr Undeb yma'n Aberystwyth.

 

Cyflwynwyd gan: Elain Gwynedd


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

    

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

Elain Gwynedd

cymraegum@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576