Cyflwyno Pleidlais o Ddiffyg Ffydd ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd ac Aelodau Pwyllgorau Chwaraeon a Chymdeithasau

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 01/11/2021

Yn darfod ar: 01/11/2024

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Materion Academaidd


Crynodeb

Cynnig o ddiffyg hyder ar gyfer cynrychiolwyr a chymdeithasau/clybiau i ddiswyddo cynrychiolydd/aelod pwyllgor os nad yw’r myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli.

 

Manylion

Ar hyn o bryd, nid oes mecanwaith ar waith i ddiswyddo Cynrychiolwyr Academaidd neu Aelodau Pwyllgorau Chwaraeon a Chymdeithasau o’u rôl os nad yw myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Rwy’n cynnig ein bod yn defnyddio’r un system sydd ar waith ar gyfer Swyddogion Llawn a Rhan Amser a chreu opsiwn o Bleidlais o Ddiffyg Ffydd. Byddai hyn yn caniatáu cael gwared ar Gynrychiolydd neu Aelod Pwyllgor. Byddai’n rhaid i fyfyriwr gael cefnogaeth gan 5% o aelodau pwyllgor y clwb neu’r cymdeithas / aelodau perthnasol y cwrs i alw am gynnig o ddiffyg ffydd a chael cworwm o 10% o aelodau pwyllgor y clwb neu’r gymdeithas / aelodau perthnasol y cwrs er mwyn dilysu’r bleidlais.

Rwy’n credu y bydd hyn yn gwella atebolrwydd y rolau hyn i fyfyrwyr a rhoi mwy o bwer i fyfyrwyr wrth ddewis pwy sy’n eu cynrychioli.

Cyflwynwyd gan: Elizabeth Manners


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Rydyn ni wrthi’n rhoi is-ddeddf at ei gilydd a fydd yn cyflwyno’r syniad o bleidleisiau o ddiffyg hyder i Gynrychiolwyr Academaidd ac Aelodau Pwyllgorau a chynhelir pleidlais drosto mewn Senedd yn y dyfodol neu yn y Cyfarfod Cyffredinol Anna (Materion Academaidd 2023-24) Tachwedd 2023
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn

  

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk 

Materion Academaidd

Anna Simpkins

academaiddum@aber.ac.uk

  

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576