Ateb Cyflym

Weithiau cawn syniad sydd ag ateb hawdd a dim gwrthwynebiad.

Er enghraifft:

  • Syniadau heb unrhyw oblygiadau gwleidyddol nac ariannol mawr.
  • Ceisiadau i newid y ffordd rydyn ni’n cyflwyno gwybodaeth benodol, neu i sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael e.e. adnoddau ar ein gwefan
  • Cais syml i wneud newid bach yn yr adeilad e.e. arwyddion
  • Cais sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol ag UMAber, ond gallwn ni godi'r mater mewn pwyllgorau perthnasol gyda'r Brifysgol e.e. newidiadau mewn gwasanaethau masnachol.

Cysylltu â’r Brifysgol i osod mwy o feinciau ar draws y campws.

Crynodeb

A ddylai’r Brifysgol osod mwy o feinciau ar draws y campws?

Manylion

Pan cerdded o gwmpas y campws, does dim digon o feinciau wedi’u dosbarthu’n gyfartal. Gan fod Aberystwyth yn gampws bryniog, does dim digon o lefydd i fyfyrwyr anabl/wedi’u hanafu gael hoe. Rheswm arall dros gynnwys meinciau yw eu bod at ddefnydd pawb ac nid un grwp yn unig, byddai’n ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr ôl-raddedig wrth iddynt barhau i astudio dros yr haf. Byddai’n ateb rhad i’r Brifysgol wneud y campws yn fwy hygyrch ac yn brofiad gwell i bawb.

Gweithredu

 


Addasiadau i’r amserlen

Crynodeb

Rhowch ganiatâd i ni ychwanegu ein digwyddiadau ein hunain at ein hamserlenni i'n helpu ni i drefnu pa waith rydyn ni'n ei wneud a phryd.

Manylion

Byddai'n dda pe gallem ychwanegu apwyntiadau at ein hamserlenni. Byddai hyn yn caniatáu i ni drefnu adolygu’n fwy effeithiol, gan arwain at gynhyrchiant uwch.

Cyflwynwyd gan: Joshua Mann

Gweithredu

Mae'r Swyddog Materion Academaidd wedi cyfarfod â Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid y Gwasanaethau Gwybodaeth (GG), i drafod unrhyw rwystrau technegol posibl sy'n atal addasiadau i'r amserlen. Cadarnhawyd ar yr adeg hon y byddai'r gweithredu hyn yn dibynnu ar ba mor effeithlon y gellir cydamseru cofnodion myfyrwyr ac outlook i arddangos newidiadau ar yr amserlen, oherwydd mae'n bosibl y byddai addasiadau ar gael yn annibynnol yn unig o'r naill neu'r llall. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth wedi cael cyfarwyddyd i ymchwilio i'r materion technegol hyn ac i adrodd yn ôl i'r Swyddog Materion Academaidd.


 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576