Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 01/11/2021
Yn darfod ar: 01/11/2024
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
Crynodeb
Gwella darpariaeth y Gymraeg a’r gwasanaeth cyfieithu ar gyfer modiwlau Cymraeg.
Manylion
Fel Llywydd UMCA a Swyddog Llesiant, un o fy mlaenoriaethau eleni yw gwella Darpariaeth y Gymraeg mewn Modiwlau. Food bynnag, Nid wy’n teimlo ei fod yn rhywbeth a all gael ei ddatrys mewn blwyddyn yn unig ac felly rwy’n credu ei bod hi’n werth ei wneud yn bolisi, fel bod Llywyddion UMCA yn y dyfodol yn gallu parhau gyda’r gwaith hyn ar ôl i mi adael. Y nod yw creu a hyrwyddo system adrodd ar-lein ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd â deunydd a darlithoedd uniaith Saesneg heb eu cyfieithu. Mynd ati i dynnu sylw at fodiwlau cyfrwng Cymraeg sydd â deunydd a darlithoedd uniaith Saesneg heb eu cyfieithu. Datblygu perthynas weithredol gadarn gyda Chynrychiolwyr Academaidd Cymraeg a hyrwyddo pwrpas eu rôl i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Hefyd trefnu cyfarfodydd gyda staff prifysgol berthnasol i esbonio anawsterau myfyrwyr sy’n gorfod cyfieithu darlithoedd mewn modiwlau a hysbysebwyd fel cyrsiau cyfrwng Cymraeg.
Cyflwynwyd gan: Mared Edwards
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl
|
Dyddiad |
Mae Llywydd UMCA a’r Swyddog Diwylliant Cymru (2023-24), Elain, wedi codi hyn gyda’r Coleg Cymraeg mewn cyfarfod ac wrthi’n gweithio gyda’r staff priodol. Ar hyn o bryd, mae’n poeni y gallai’r Brifysgol leihau’r rhain wrth fynd yn ei blaen. |
Elain (Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA 2023-24) |
Tachwedd 2023 |
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.