Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 19/04/2021
Yn darfod ar: 19/04/2024
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb
Crynodeb
Dod yn rhan o Gynghrair Hil Cymru er mwyn #CymruWrthHiliaeth.
Manylion
Mae'r polisi hwn yn cynnig sicrhau bod ein Hundeb Myfyrwyr yn gwneud ymrwymiad cyhoeddus i waith gwrth-hiliol ac yn dod yn aelod o Gynghrair Hil Cymru (RAW). Mae RAW yn fenter sy'n ceisio cysylltu a chefnogi mudiadau sydd â’r nod o gyflawni cydraddoldeb hiliol yng Nghymru. Mae gan eu maniffesto 10 nod, sy'n cynnwys: · Casglu data am ethnigrwydd yn y gweithlu a gwahanol sectorau eraill, · Datblygu cynllun cydraddoldeb hiliol strategol, · Cynnwys addysg wrth-hiliol yng Nghwricwlwm Newydd Cymru, · Cynorthwyo â gwella ymateb cyfreithiol Cymru o ran mynediad at gyfiawnder a diogelwch ar gyfer unigolion o leiafrifoedd ethnig, · Buddsoddi mewn cymorth iechyd corfforol a meddyliol i bobl o leiafrifoedd ethnig. Trwy ddod yn aelod o'r mudiad hwn gallwn; gydweithredu yn eu hymgyrchoedd, trefnu deisebau, a mynychu cyfarfodydd grwp traws-bleidiol ar Hil a Chydraddoldeb a chyfarfodydd cylch polisi. Credaf y bydd dod yn rhan o'r mudiad hwn o gymorth i’n hymgyrch “Dim Esgusodion” ac yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar gymuned CALlE ein prifysgol.
Cyflwynwyd gan: Darya Koskeroglu
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Mae'r Undeb wedi ymuno â Chynghrair Hil Cymru fel rhan o'n hymrwymiad i waith gwrth-hiliol. |
|
|
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.