Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 01/11/2021
Yn darfod ar: 01/11/2024
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Cyfleoedd
Crynodeb
Mae ein draig annwyl angen cael newid ei enw!
Manylion
Mae ein masgot annwyl yn rhan annatod o ddiwylliant Tîm Aber a dylai gael ei ddathlu a’i ddangos i bawb a ddaw atom. Fodd bynnag, ers ei enwi, mae wedi bod yn cuddio yn ogof Aber ac mae ei ffrindiau i gyd yn gwneud hwyl am ei ben. Dydyn nhw byth yn gadael i Dragon McDragonface druan chwarae eu gemau Draig. Ond ar ryw noson lawiog yn Aber, daeth Swyddog Cyfleoedfd a dweud “mae rhaid i ni newid dy enw!”. Cymaint ag rydym yn hiraethu am meme eiconig 2016, mae’n amser am gyfnod newydd.
*yn syth i’r newid enw*
Yna roedd yr holl Ddreigiau a Thîm Aber yn ei garu gan floeddio mewn llawenydd “[rhowch enw newydd y masgot yma], bydd pawb yn dy gofio am byth!”
Cyflwynwyd gan: Rachel Barwise
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Yn ystod Ffair y Glas yn Wythnos y Croeso 2023, pleidleisiwyd gan ein cymuned o blaid newid enw ein masgot o Dragon McDragonface i Idris! |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-2025) |
Tachwedd 2023 |
Hoffech chi gael tro ar fod yn Idris? Cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd i fod yn Idris yn un o'n digwyddiadau |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-2025) |
Tachwedd 2023 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.