Oes gennych chi Brawf?

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 19/04/2021

Yn darfod ar: 19/04/2024

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Materion Academaidd


Crynodeb

Dylai UMAber lobïo Prifysgol Aberystwyth i gyflwyno dull hunan-ardystio yn barhaol ar gyfer ceisiadau am Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau

 

Manylion

Rhywfaint o gyd-destun - Mae Prifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd yn ceisio rhoi hwb mawr ei angen i'r broses 'amgylchiadau arbennig' gyfredol, fel yr hyn sy'n cael ei hyrwyddo gan CCAUC a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Fel rhan o'r newidiadau hyn, rwy’n cynnig y dylai UMAber ddefnyddio'r cyfle hwn i lobïo am gyflwyno hunan-ardystiad i'n prosesau cyfredol - yn y bôn, ei gwneud yn bosib i fyfyrwyr wneud cais am amgylchiadau arbennig heb dystiolaeth lle mae'n anodd ei darparu. Y Broblem Ar Hyn o Bryd - mae disgwyl i holl fyfyrwyr Aberystwyth ddarparu tystiolaeth i ategu cais am amgylchiadau arbennig neu estyniad. Ni fyddai hyn cynddrwg pe na bai'r rhestr o ddarnau derbyniol mor ... fach. Os yw myfyriwr yn colli un o’i anwyliaid? Tystysgrif marwolaeth. Wedi dioddef problem feddygol? Trawsgrifiad meddygol llawn. Wrth wynebu amgylchiadau anodd ac yn methu â pherfformio, mae myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa sy'n debyg i helfa drysor, wrth iddynt ymladd am ddogfennaeth ategol, pan ddylent fod yn canolbwyntio ar gwblhau eu gwaith hyd eithaf eu gallu wrth geisio ymdopi â sefyllfa anodd. I wneud pethau'n waeth, mae rhwystrau dirifedi y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu hwynebu i gael gafael ar y dystiolaeth hon; mae enghreifftiau’n cynnwys y ffaith fod y GIG eisoes dan straen a hefyd materion yn ymwneud â GDPR. Nid oes y fath beth ag un ateb sy’n gweddu i bawb o ran bywyd a sut y gall effeithio ar berfformiad academaidd myfyriwr, ac eto mae ein hagwedd at amgylchiadau arbennig yn ddigyfaddawd, ac yn ansensitif o ran cael gafael ar dystiolaeth. Y Syniad - Dylai Prifysgol Aberystwyth fabwysiadu arfer da prifysgolion eraill (Bangor, Caerefrog a Nottingham ymysg eraill) a chyflwyno polisi hunan-ardystio, sy’n caniatáu i fyfyrwyr wneud cais o bryd i'w gilydd am amgylchiadau arbennig heb orfod cyflwyno tystiolaeth ategol. O ganlyniad i bandemig Covid-19, treialodd ein sefydliad y dull hwn yn llwyddiannus, ac nid oes unrhyw reswm na ddylai hyn barhau fel newid parhaol. Gweithredu - Dylai UMAber lobïo Prifysgol Aberystwyth i gyflwyno dull hunan-ardystio yn barhaol ar gyfer ceisiadau am Amgylchiadau Arbennig ac Estyniadau.

Cyflwynwyd gan: Chloe Ann Wilkinson-Silk


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
Mae’r Swyddog Materion Academaidd (2023-24) yn trafod gyda’r Brifysgol nifer y myfyrwyr na all fanteisio ar amgylchiadau arbennig gan eu bod heb ddiagnosis o achos rhestrau aros hirfaith. Mae’r Gwasanaethau Myfyrwyr yn cydnabod hyn ac yn ystyried ffyrdd o gefnogi’r myfyrwyr hyn sydd heb gael tystiolaeth eto. Mae’r Brifysgol hefyd yn chwilio am ffyrdd eraill o drin amgylchiadau arbennig fel eu bod yn deg ar draws yr adrannau. Anna (Materion Academaidd 2023-24) Tachwedd 2023
Gall myfyrwyr ddefnyddio adroddiad gwasanaethau myfyrwyr fel tystiolaeth am amgylchiadau arbennig. Fodd bynnag, rydyn ni’n teimlo nad yw bob tro yn cael ei dderbyn ymhob adran. Rydyn ni’n trafod hyn gyda grwp. Mae’r Swyddogion yn siarad gyda staff allweddol ynghylch hyn yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategaethol (Ebrill 2023). Anna (Materion Academaidd 2023-24) Tachwedd 2023

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

       

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk 

Materion Academaidd

Anna Simpkins

academaiddum@aber.ac.uk  

   

       

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576