Cwynion

Croeso i dudalennau Côd Ymddygiad Undeb y Myfyrwyr, Polisi a Gweithdrefn Disgyblu aelodau, a Pholisi Cwynion. Yma fe welwch wybodaeth hanfodol am sut rydym yn sicrhau amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol yn Undeb Aberystwyth, a'r rhan rydych chi fel myfyriwr yn ei chwarae wrth gynnal y gymuned hon.

Rydym yn cydnabod y gallai ymweld â'r adran hon o'r wefan ddangos bod rhywbeth wedi mynd o'i le, eich bod yn pryderu am rywbeth, neu eich bod yn wynebu rhyw fath o broblem; rydym am wneud y broses hon mor syml â phosibl i chi ac yn hawdd ei deall. Er mwyn gwneud hynny, rydym wedi rhoi gwybodaeth i chi i ddechrau arni; ond cofiwch, mae ein tîm yma i'ch cefnogi, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.

Isod fe welwch ddolen i'r dogfennau polisi a gweithdrefnau ffurfiol sy'n cynnwys:

  • Côd Ymddygiad Aelodau
  • Côd Ymddygiad Grwpiau Myfyrwyr
  • Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Aelodau
  • Polisi Cwynion

Rydym yn deall y gall defnyddio polisïau a gweithdrefnau ffurfiol fod yn frawychus, yn enwedig os ydych chi dan straen, felly rydym wedi creu canllaw syml i ddeall y polisi cwynion.

Rydym hefyd yn cydnabod y gallai fod gennych chi gwestiynau am ein Côd Ymddygiad a’r polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig, felly rydym wedi llunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin ac enghreifftiau a allai fod o gymorth i chi. Cofiwch, gallwch gysylltu â ni bob amser am fwy o gefnogaeth!


Click here to see the formal policies and procedure documents

Click here to see our easy to use guide on using the complaints procedure

Click here to see our FAQs and examples


Os oes angen i chi wneud cwyn ffurfiol, gallwch wneud hynny yma.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576