Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y Côd Ymddygiad Aelodau, y Polisi Disgyblu Aelodau, y Côd Ymddygiad Grwpiau Myfyrwyr a'r Polisi Cwynion?
Rydym yn sylweddoli y gall llywio gwahanol bolisïau a gweithdrefnau fod yn ddryslyd, felly gobeithio y bydd hyn o gymorth:
- Mae Côd Ymddygiad yr Aelodau yn nodi safonau ymddygiad a ddisgwylir gan bob aelod unigol o Undeb y Myfyrwyr, p'un a yw eich cyfranogiad yn sylweddol fel bod yn Arweinydd Grŵp Myfyrwyr a’ch bod yn mynychu digwyddiadau bob wythnos, neu hyd yn oed os nad ydych chi'n ymwneud rhyw lawer â’r Undeb. Beth bynnag, mae pob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn aelodau o Undeb y Myfyrwyr, a disgwylir iddynt gydymffurfio â'r ymddygiadau sydd wedi’u hamlinellu yn y Côd Ymddygiad.
- Mae’r Côd Ymddygiad ar gyfer Grwpiau Myfyrwyr yn ymwneud yn benodol ag ymddygiad a threfniadaeth clwb neu gymdeithas. Mae'r ddogfen hon yn nodi'r safonau a ddisgwylir gan grwpiau myfyrwyr a'r broses ar gyfer rheoli cwynion neu bryderon ynghylch eu hymddygiad.
- Mae’r Polisi Disgyblu Aelodau yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli honiadau o gamymddwyn, yn ogystal â sicrhau bod unrhyw gamau disgyblu, lle bo angen, yn cael eu gweithredu'n deg. Hynny yw, mae'r Polisi Disgyblu Aelodau yn ymwneud â'r hyn a allai ddigwydd os bydd myfyriwr yn gweithredu’n groes i'r Côd Ymddygiad.
- Fframwaith yw’r Polisi Cwynion sy'n esbonio sut rydych chi'n mynd ati i gwyno am berson, gwasanaeth neu brofiad.
Pwy all gwyno?
Mae'r polisi cwynion yn berthnasol i bob myfyriwr, aelod staff ac ymwelwyr.
Pwy allaf i gwyno amdanynt?
Os ydych chi'n cwyno i Undeb y Myfyrwyr, gallwch gwyno am unrhyw wasanaeth, digwyddiad, gweithgaredd neu benderfyniad o fewn ein cylch gwaith, yn ogystal ag unrhyw fyfyriwr os yw'r mater yn gysylltiedig â rhywbeth a ddigwyddodd (neu y gellid ei ystyried i fod wedi digwydd) yn ystod busnes Undeb y Myfyrwyr. Gallwch hefyd gwyno am staff yr UM a Swyddogion Llawn-amser, ond bydd hyn yn cael ei drin o dan brosesau cyflogeion.
Dydw i ddim yn gwybod a yw'r hyn rydw i eisiau cwyno amdano’n dod o dan gyfrifoldeb Undeb Myfyrwyr neu'r Brifysgol; beth ddylwn i ei wneud?
Siaradwch â ni; rydyn ni yma i helpu. Gweler ein tudalennau cysylltiadau ar gyfer cwynion yma.
Rwy'n cael fy ymchwilio fel rhan o gŵyn; a allaf gael cefnogaeth?
Mae cymorth ar gael i chi; gall pob myfyriwr yn Aberystwyth gael mynediad at gymorth gennym ni neu Gymorth Llesiant y Brifysgol; os ydych chi'n ansicr ble i fynd, siaradwch â'r Swyddog Ymchwilio sy'n ymdrin â'r gŵyn, ewch i'n tudalennau cysylltiadau, neu gweler dudalennau Gwasanaethau Llesiant y Brifysgol.
Os byddaf yn cyflwyno cwyn i Undeb y Myfyrwyr, a fyddwch chi’n cyfeirio'r gŵyn at y Brifysgol?
Weithiau byddwn, yn dibynnu ar natur y gŵyn. Os ystyrir bod y camymddwyn honedig yn groes i safonau ymddygiad disgwyliedig y Brifysgol, bydd yr achos yn cael ei gyfeirio atynt i'w ystyried. Bydd achosion sy'n ymwneud â chamymddwyn difrifol gan gynnwys camymddwyn rhywiol yn cael eu cyfeirio'n awtomatig at y Brifysgol. Bydd achosion a gyfeirir at y Brifysgol yn cael eu hymchwilio o dan bolisi Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol. Byddwn yn cysylltu â chi os cyfeirir eich cwyn at y Brifysgol, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y broses a fydd yn cael ei dilyn.
Cyflwynais gŵyn i Undeb y Myfyrwyr, ond fe wnaethoch chi ei chyfeirio at y Brifysgol; ydych chi’n fodlon fy nghefnogi o hyd?
Bydd Undeb y Myfyrwyr bob amser yn ymdrechu i roi'r lefelau uchaf posibl o gefnogaeth i chi. Pan gyfeirir achosion at y Brifysgol i ymchwilio iddynt ond bod Undeb y Myfyrwyr yn ymwneud â’r mater i ryw raddau – er enghraifft oherwydd cyd-destun y digwyddiad honedig, yna gall Undeb y Myfyrwyr roi’r mesurau canlynol ar waith:
- Cyfathrebu rheolaidd â'r Brifysgol i sicrhau dull cyson a chydlynol (yn enwedig lle mae angen mesurau rhagofalus).
- Cyswllt wedi’i benodi i chi fel pwynt cyswllt o fewn Undeb y Myfyrwyr.
- Asesiad o randdeiliaid perthnasol a chynllun ar gyfer cyfathrebu – er enghraifft os yw'r gŵyn / honiadau'n effeithio ar eraill o fewn Undeb y Myfyrwyr.
- Atgyfeiriad rhagweithiol at Wasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr, lle gallai fod effaith ar astudio.
A allaf adrodd am gŵyn yn ddienw?
Gall myfyrwyr wneud datgeliadau dienw o gamymddwyn trwy ein ffurflen gwyno; fodd bynnag, ni chymerir unrhyw gamau ffurfiol ynghylch unrhyw fater a adroddwyd yn ddienw oni bai ei bod hi'n bosibl gwirio'r hyn a ddigwyddodd. Gellir defnyddio gwybodaeth ddienw i nodi tueddiadau a llywio darpariaeth atal a chymorth.
Rydw i wedi gwneud cwyn, ac wedi apelio, ond dwi’n dal ddim yn hapus â'r canlyniad. A allaf i gwyno eto?
Na allwch. Mae canlyniad yr apêl yn cynrychioli cam olaf gweithdrefn gwyno Undeb y Myfyrwyr. Unwaith y bydd apêl wedi'i hystyried a phenderfyniad wedi'i gyfleu, ystyrir bod y mater wedi'i gau ac ni dderbynnir unrhyw gwynion pellach ynghylch yr un mater.
Nodwch rai enghreifftiau o gamymddwyn, ac a fyddent yn dod o dan bolisi cwynion Undeb y Myfyrwyr?
Gellir dod o hyd i enghreifftiau manwl o gamymddwyn yn ein Côd a Gweithdrefn Disgyblu Aelodau yn Atodlen 1, ond isod mae cyfres o sefyllfaoedd, ac a fyddent yn dod o dan bolisi cwynion Undeb y Myfyrwyr.
Sefyllfa 1
Mae grŵp o fyfyrwyr yn archebu lle ar gyfer digwyddiadau yn Undeb y Myfyrwyr un noson i gynnal digwyddiad i 50 o fyfyrwyr. Y bore canlynol darganfyddir bod mwy na 50 o fyfyrwyr wedi mynychu’r digwyddiad, bod yr ystafell yn llanast, a bod sawl cadair wedi torri.
Gellid ystyried hyn yn gamymddwyn a byddai Undeb y Myfyrwyr yn delio â’r sefyllfa o dan Gôd Ymddygiad Grwpiau Myfyrwyr.
Sefyllfa 2
Mae myfyriwr mewn digwyddiad UM sy'n cael ei gynnal gan grŵp o fyfyrwyr yn wynebu triniaeth anghwrtais ac ymosodol gan fyfyriwr arall sy'n troi allan i fod ar bwyllgor y grŵp myfyrwyr hwnnw. Mae'r dioddefwr yn adrodd am y digwyddiad, ond nid yw am i Undeb y Myfyrwyr ddefnyddio gweithdrefnau'r Brifysgol; fodd bynnag mae'n ceisio cael y myfyriwr wedi’i ddiarddel o'i rôl ar y pwyllgor.
Gellid ystyried hyn yn gamymddwyn o bosibl, a byddai Undeb y Myfyrwyr yn delio â’r sefyllfa o dan Gôd Ymddygiad Grwpiau Myfyrwyr.
Sefyllfa 3
Mae myfyriwr allan am noson ym Mryste ac yn dioddef ymosodiad rhywiol gan fyfyriwr arall, y mae’n hysbys ei fod yn aelod o bwyllgor grŵp myfyrwyr. Mae'r dioddefwr yn adrodd hyn i Undeb y Myfyrwyr.
Byddai hyn yn cael ei ystyried yn gamymddwyn difrifol posibl a byddai'n cael ei gyfeirio at y Brifysgol. Byddai Undeb y Myfyrwyr yn parhau i gynnig cefnogaeth i'r dioddefwr a byddai'n cynnal asesiad risg a allai arwain at gyfyngu dros-dro ar y troseddwr honedig rhag cael mynediad i holl leoliadau a gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr tra bod y Brifysgol yn cynnal ei hymchwiliad.
Sefyllfa 4
Mae myfyriwr yn cael ei ddal ar gamera cylch-cyfyng yn dwyn offer o adeilad ar y campws.
Mae hyn yn gamymddwyn posibl a byddai'r Brifysgol yn delio â’r mater, gan fod hyn yn torri eu Rheoliadau a'u Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr.
Sefyllfa 5
Mae grŵp o fyfyrwyr sy'n cynnal stondin wybodaeth yn adeilad Undeb y Myfyrwyr yn teimlo bod aelod o staff y Brifysgol wedi siarad yn anghwrtais â nhw.
Ni fyddai Undeb y Myfyrwyr yn delio â hyn gan nad yw'n gamymddwyn gan fyfyriwr/grŵp myfyrwyr/gweithiwr UM, felly dylid hysbysu’r Brifysgol ynghylch y sefyllfa hon. Byddem yn dal i gefnogi'r myfyrwyr yr effeithiwyd arnynt a'u helpu i lywio proses gwynion y Brifysgol.
Os ydw i wedi gwneud cwyn sydd wedi cael ei hymchwilio gan Undeb y Myfyrwyr ynghylch myfyriwr arall yn torri'r Côd Ymddygiad, beth yw rhai o'r cosbau posibl y gellid eu defnyddio?
Mae rhestr lawn o gosbau posibl i'w gweld yng Nghôd Disgyblu'r Aelodau, ond gall gynnwys cosbau fel:
- Rhybudd ysgrifenedig ffurfiol;
- Gofyniad i ysgrifennu llythyr ymddiheuriad;
- Gofyniad i fynychu cwrs/rhaglen arbennig;
- Gwaharddiad o weithgareddau Undeb y Myfyrwyr am gyfnod penodol o amser;
- Aelodaeth o'r UM wedi'i dileu.