Canllaw i Ddefnyddio ein Gweithdrefn Gwyno

Croeso i’n Canllaw ar gyfer Polisi Cwynion Undeb Aberystwyth.

Yn Undeb Aberystwyth, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob myfyriwr, staff ac ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pethau fynd o chwith weithiau, ac rydym yn gwerthfawrogi eich adborth i'n helpu i wella pethau. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sut i rannu eich pryderon neu gwynion mewn modd syml ac effeithiol.


Beth yw Cwyn?

Cwyn yw unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd neu bryder ynghylch rhywbeth sy'n ymwneud ag Undeb Aberystwyth, un o'n grwpiau, staff, neu aelodau. Gall hyn gynnwys:

  • Adborth: Rhannu eich pryderon heb ddisgwyl datrysiad.
  • Pryderon Anffurfiol: Codi materion ynghylch ymddygiad neu sefyllfaoedd heb ymchwiliad ffurfiol.
  • Cwynion Ffurfiol: Ynglŷn â digwyddiad, gwasanaeth, cynnyrch, grŵp myfyrwyr, neu unigolyn.

Mae gan y Brifysgol ffyrdd o gwyno hefyd; sut ydw i'n gwybod pa un i'w defnyddio?

Mae'r tabl isod yn dangos pryd i ddefnyddio polisi cwynion Undeb y Myfyrwyr, a phryd i ddefnyddio polisïau'r Brifysgol. Nid yw'r rhestr yn holl-gynhwysfawr:

Dilyn proses gwyno Undeb y Myfyrwyr

Dilyn proses y Brifysgol

Pan fydd gennych chi gŵyn am Undeb y Myfyrwyr ei hun, e.e. gwasanaeth, digwyddiad, gweithgaredd, penderfyniad neu wybodaeth.

Pan fydd gennych chi gŵyn am y Brifysgol, ei gwasanaethau, neu ei staff.

Pan fydd gennych chi gŵyn am grŵp o fyfyrwyr, fel tîm chwaraeon neu gymdeithas.

Pan fydd gennych chi gŵyn am ymddygiad annerbyniol gan aelod arall o gymuned y Brifysgol (er enghraifft myfyriwr arall).

Pan fydd gennych chi gŵyn am swyddog llawn-amser neu aelod staff.

Os oes gennych chi bryder yn ymwneud ag UNRHYW fath o gamymddwyn rhywiol neu ymddygiad troseddol ynghylch aelod o'r Brifysgol (megis myfyriwr arall) waeth pryd neu ble y digwyddodd.

Pan fydd gennych chi gŵyn am arweinydd grŵp o fyfyrwyr, fel tîm chwaraeon neu gymdeithas.

 

Gallai hyn ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd ar safle Undeb Aberystwyth, wrth ddefnyddio cyfleusterau Undeb Aberystwyth / mynychu digwyddiad Undeb Aberystwyth, neu rywbeth a gyflawnir gan aelod sy'n cynrychioli neu’n gweithredu ar ran Undeb y Myfyrwyr mewn digwyddiad, yn ystod taith, ar-lein (e.e. trwy gyfryngau cymdeithasol) neu mewn gohebiaeth.

 

I ddilyn proses Undeb y Myfyrwyr, parhewch i ddarllen y wybodaeth hon a’n gweithdrefn gwyno (dolen i is-dudalen 1) neu i ddefnyddio proses y Brifysgol, dilynwch y broses a amlinellir yma.


Rwy'n gwybod fy mod eisiau gwneud cwyn i Undeb y Myfyrwyr; sut ydw i'n gwneud hynny?

Yn gyntaf, mae'n werth ystyried a ellir datrys eich cwyn yn anffurfiol. Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus i wneud hynny, gallwch siarad â'r person mwyaf perthnasol, a allai fod yn aelod o staff Undeb Aberystwyth. Cymaint ag y bo modd gwneud hynny, rydym yn ceisio datrys pethau'n anffurfiol trwy ddulliau fel cyfryngu neu ad-daliad, ond rydym yn sylweddoli efallai na fyddwch yn fodlon â hynny. Efallai nad ydych chi’n teimlo y gellir datrys y mater yn anffurfiol (yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo'n ddiogel yn siarad â'r unigolyn dan sylw).

Os oes angen i chi wneud cwyn ffurfiol, gallwch wneud hynny yma.


Beth sy'n digwydd pan fyddaf wedi cyflwyno cwyn?

Gall yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch wedi cyflwyno cwyn ddibynnu ar beth oedd y gŵyn amdano; isod byddwn yn amlinellu'r hyn y gallwch ei ddisgwyl:

Mae fy nghwyn yn ymwneud â digwyddiad, gweithgaredd, gwasanaeth neu benderfyniad gan yr UM.

Ar ôl derbyn eich cwyn, byddwn yn cynnal asesiad risg ar unwaith, ac os yw'n briodol byddwn yn cynnal asesiad risg llawn trwy banel. Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud ynghylch lefel y risg a difrifoldeb y gŵyn, byddwn ni naill ai’n cysylltu â chi ynglŷn â datrysiad anffurfiol, neu’n cysylltu â chi i’ch hysbysu y bydd y mater yn cael ei ymchwilio fel cwyn ffurfiol.

Os yw’r mater i gael ei ymchwilio'n ffurfiol, yn dibynnu ar natur a chyd-destun eich cwyn, caiff ei dyrannu i reolwr priodol o fewn Undeb y Myfyrwyr a fydd yn ymchwilio i'r gŵyn.

Bydd y Rheolwr Ymchwilio yn penderfynu ar y ffeithiau, yn ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol ac yn penderfynu ar y canlyniad priodol. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y gŵyn, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol.

Bydd y Rheolwr Ymchwilio yn cysylltu â chi o fewn 14 diwrnod calendr i'ch cwyn i roi ymateb.

Os ydych chi'n anfodlon â'r ymateb i'ch cwyn, gallwch apelio yn erbyn y canlyniad trwy ysgrifennu at Swyddog Cwynion Undeb y Myfyrwyr yn cwynionundeb@aber.ac.uk

Bydd eich apêl yn cael ei dyrannu i aelod o'r Tîm Rheoli (nad yw wedi bod yn rhan o'ch cwyn o'r blaen). Byddant yn adolygu eich cwyn wreiddiol, yr ymchwiliad a'r ymateb, ac yna'n ateb i chi gyda chanlyniad i'ch apêl o fewn 14 diwrnod calendr o'r dyddiad y gwnaethoch chi gyflwyno'ch apêl.

Mae fy nghwyn yn ymwneud â grŵp o fyfyrwyr

Ar ôl derbyn eich cwyn, byddwn yn cynnal asesiad risg ar unwaith, ac os yw'n briodol byddwn yn cynnal asesiad risg llawn trwy banel. Unwaith y bydd lefel y risg wedi'i phennu, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â datrysiad anffurfiol, neu’n cysylltu â chi i’ch hysbysu y bydd y mater yn cael ei ymchwilio fel cwyn ffurfiol. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi fod mater wedi cael ei atgyfeirio i'r Brifysgol, yn ogystal â chael ei ymchwilio gan Undeb y Myfyrwyr.

Os yw’r mater i gael ei ymchwilio'n ffurfiol, yn dibynnu ar natur a chyd-destun eich cwyn, caiff ei dyrannu i reolwr neu aelod staff priodol o fewn tîm Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr a fydd yn ymchwilio i'r gŵyn. Rydym yn gweithredu Côd Ymddygiad ar gyfer Grwpiau Myfyrwyr, a disgwylir i bob grŵp myfyrwyr gydymffurfio â’r côd hwn.

Bydd y Swyddog Ymchwilio yn penderfynu ar y ffeithiau, yn ystyried unrhyw amgylchiadau lliniarol ac yn penderfynu ar y canlyniad priodol. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y gŵyn, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol.

Bydd y Rheolwr Ymchwilio yn cysylltu â chi o fewn 30 diwrnod calendr i'ch cwyn i ddarparu ymateb i’ch cwyn. Os yw canlyniad eich cwyn yn cynnwys camau disgyblu yn erbyn y grŵp myfyrwyr (neu unigolion), byddwch yn cael gwybodaeth gyffredinol, ond efallai na chewch fanylion penodol am y camau a gymerwyd.

Os ydych chi'n anfodlon â'r ymateb i'ch cwyn, gallwch apelio yn erbyn y canlyniad trwy ysgrifennu at Swyddog Cwynion Undeb y Myfyrwyr yn cwynionundeb@aber.ac.uk

Bydd eich apêl yn cael ei dyrannu i aelod o'r Uwch Dîm Rheoli (nad yw wedi bod yn ymwneud â'ch cwyn o'r blaen). Byddant yn adolygu eich cwyn wreiddiol, yr ymchwiliad a'r ymateb, ac yna'n ateb i chi gyda chanlyniad i'ch apêl o fewn 14 diwrnod calendr o'r dyddiad y gwnaethoch chi gyflwyno'ch apêl.

Mae fy nghwyn yn ymwneud ag unigolyn (myfyriwr, arweinydd grŵp myfyrwyr neu wirfoddolwr) mewn perthynas ag ymddygiad sy’n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr*

Ar ôl derbyn eich cwyn, byddwn yn cynnal asesiad risg ar unwaith, ac os yw'n briodol byddwn yn cynnal asesiad risg llawn trwy banel. Unwaith y bydd lefel y risg wedi'i phennu, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â datrysiad anffurfiol, neu’n cysylltu â chi i’ch hysbysu y bydd y mater yn cael ei ymchwilio fel cwyn ffurfiol. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi fod mater wedi cael ei atgyfeirio i’r Brifysgol, yn ogystal â chael ei ymchwilio gan Undeb y Myfyrwyr.

Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o’ch cwyn gan Swyddog Cwynion Undeb y Myfyrwyr, a fydd yn cadarnhau manylion y broses a’r amserlenni disgwyliedig. Byddant hefyd yn rhoi manylion i chi am y Swyddog a fydd yn ymchwilio i'r honiadau / y gŵyn.

Rydym yn gweithredu Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau, a disgwylir i bob myfyriwr ac aelod cyswllt gydymffurfio â’r côd hwn. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad aelod, bydd eich achos yn cael ei ymchwilio a'i reoli o dan y Polisi a'r Weithdrefn Disgyblu Aelodau, y gellir ei weld yma.

Bydd unrhyw gamau a gymerir o dan y gweithdrefnau hyn yn cael eu cwblhau cyn gynted â phosibl, ac fel arfer o fewn 30 diwrnod calendr o ddechrau'r ymchwiliad. Penodir Swyddog Ymchwilio i ymchwilio i'r honiad, a fydd yn rhoi crynodeb o natur yr honiad i'r person y cwynir amdano ac yn cynnal ymchwiliad fel y bo'n briodol yn eu barn nhw. Pan fydd y Swyddog Ymchwilio yn fodlon bod digon o dystiolaeth wedi'i chasglu, byddant yn ysgrifennu adroddiad a fydd yn nodi a oes achos i'w ateb, a bydd yr adroddiad yn cael ei rannu â Swyddog Cwynion Undeb y Myfyrwyr.

Bydd y Swyddog Cwynion yn adolygu adroddiad yr ymchwiliad a gall wneud sawl penderfyniad gan gynnwys:

  • Cynnal ymchwiliadau pellach;
  • Penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach;
  • Penderfynu y dylid delio â’r mater yn anffurfiol;
  • Penderfynu y dylid delio â’r mater yn ffurfiol.

Os bydd y Swyddog Cwynion yn penderfynu bod angen delio â’r mater yn ffurfiol, bydd yn cynnull panel disgyblu er mwyn cynnal gwrandawiad cyn gynted â phosibl. O fewn 14 diwrnod calendr i'r gwrandawiad, bydd y sawl y gwnaed cwyn yn ei erbyn yn derbyn y canlyniad a'r gosb a osodwyd.

Byddwch chi, fel y sawl sydd wedi cyflwyno’r gŵyn, fel arfer yn cael gwybod am y cosbau os ydynt yn cael effaith uniongyrchol arnoch chi, fel gorchymyn dim-cyswllt neu ymddiheuriad.

Gall y person y cwynir amdano apelio yn erbyn unrhyw gosb o fewn 7 diwrnod calendr i'r canlyniad gael ei osod.

Mae fy nghwyn yn ymwneud â Swyddog Llawn-amser neu Aelod o Staff

Os yw eich cwyn yn ymwneud â swyddog llawn-amser neu aelod o staff, dylech ddefnyddio'r ffurflen gwyno o hyd, ond ni fydd eich cwyn yn dilyn y prosesau hyn, ond yn hytrach caiff ei hymchwilio a'i rheoli gan ddefnyddio ein polisïau a'n protocolau ar wahân ar gyfer staff. Gellir dod o hyd i wybodaeth am hyn yma.

*Cofiwch, yn dibynnu ar y pwnc rydych chi'n cwyno amdano, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio proses y Brifysgol, fel y byddech ar gyfer unrhyw fath o gamymddwyn rhywiol.


Rwy'n teimlo bod fy nghwyn yn eithaf difrifol; beth sy'n digwydd tra bod y mater yn cael ei ymchwilio?

Pan fydd Undeb y Myfyrwyr yn derbyn unrhyw gŵyn, byddwn yn gwneud asesiad risg ar unwaith, ac os yw'n briodol byddwn yn cynnal asesiad risg llawn trwy banel a fydd yn cynnwys ystyried unrhyw fesurau rhagofalus. Gallai mesurau rhagofalus gynnwys:

  • Cyhoeddi gorchymyn dim-cyswllt i atal y sawl y gwnaed cwyn yn ei erbyn rhag dod i gysylltiad â'r sawl sydd wedi dwyn y mater i’n sylw a phobl berthnasol eraill;
  • Cyfyngiad dros-dro rhag cael mynediad i rai safleoedd o fewn Undeb y Myfyrwyr;
  • Cyfyngiad dros-dro rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol Undeb y Myfyrwyr;
  • Cyfyngiad dros-dro rhag cael mynediad i holl safleoedd a gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr;
  • Cyflwyno adroddiad i'r Brifysgol, yr heddlu neu asiantaethau diogelu.

Mae ein mesurau rhagofalus yn canolbwyntio ar y dioddefwr, gan geisio creu amgylchedd a diwylliant lle mae dioddefwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi.


Faint o fanylion sydd angen i mi eu rhoi yn fy nghwyn?

Cymaint â phosibl; ceisiwch gynnwys enghreifftiau a gwybodaeth benodol fel dyddiadau, amseroedd, unrhyw dystiolaeth fel sgrinluniau, neu e-byst, ac unrhyw dystion i'r digwyddiad. Os nad oes lefel resymol o fanylion, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymchwilio i'ch cwyn, felly bydd yn rhaid i ni ofyn i chi ailgyflwyno'ch cwyn neu ddweud wrthych nad ydym yn gallu ymchwilio iddi. Dyma enghreifftiau o gwynion na fyddem yn gallu ymchwilio iddynt:

  • “Dydyn nhw ddim yn bobl ddymunol iawn.” – Nid yw hyn yn egluro beth ddigwyddodd yn benodol, pryd, na phwy oedd yn rhan o’r hyn a ddigwyddodd, felly nid oes gennym ddigon o wybodaeth i ymchwilio i’r mater.
  • “Maen nhw’n gwneud sylwadau rhyfedd o hyd.” – Heb enghreifftiau o’r hyn a ddywedwyd, pryd, a chan bwy, ni allwn sefydlu a ddigwyddodd ymddygiad amhriodol.
  • “Mae’r staff yn anghwrtais.” – Mae hyn yn rhy gyffredinol. Mae angen i ni wybod pa aelod o staff sydd dan sylw, beth a ddywedwyd neu a wnaed, a phryd y digwyddodd hyn.
  • “Dydw i ddim yn teimlo bod croeso i mi pan ydw i'n dod i mewn.” – Er ein bod yn cymryd y teimladau hyn o ddifrif, nid yw'r datganiad yn rhoi unrhyw fanylion i ni am ddigwyddiadau penodol y gallem ymchwilio iddynt ymhellach.
  • “Fe wnaeth rhywun frifo fy nheimladau, ond dydw i ddim eisiau dweud pwy wnaeth hynny.” – Os nad ydym yn gwybod pwy sydd wedi gwneud beth, ni allwn archwilio’r mater na chymryd unrhyw gamau gweithredu.

Rwy'n nerfus ynglŷn â gwneud cwyn; oes yna unrhyw gefnogaeth i mi?

Wrth gwrs, rydym yn cymryd llesiant ein haelodau o ddifrif; bydd y swyddog ymchwilio a neilltuwyd i'ch cwyn yn gallu eich helpu i archwilio opsiynau cymorth, ac fe'ch anogir bob amser i ddefnyddio Gwasanaethau Llesiant y Brifysgol y gallwch ddod o hyd iddynt yma. Efallai y byddwn yn eich cyfeirio'n awtomatig at Wasanaethau Llesiant y Brifysgol yn dibynnu ar natur eich cwyn. Os oes angen cymorth arnoch gennym cyn gwneud cwyn, gweler ein tudalen gysylltiadau ar gyfer cwynion.


Mae rhywun wedi gwneud cwyn amdanaf; beth allaf i ei ddisgwyl, ac a allaf gael cymorth?

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi llesiant ein holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai y gwnaed cwynion yn eu herbyn, felly fe'ch anogir chi hefyd i ddefnyddio'r holl wasanaethau llesiant a grybwyllir uchod. Hyd yn oed os ydych chi'n destun unrhyw fesurau rhagofalus, rydych chi'n dal i allu cael mynediad at Wasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr, er y gallai fod angen gwneud hyn o bell. Bydd cyswllt penodol yn Undeb y Myfyrwyr yn cael ei neilltuo i chi i’ch darparu â’r wybodaeth ddiweddaraf am yr achos.


A fydd fy nghwyn yn cael ei chadw'n gyfrinachol?

Er mwyn delio â chwynion ffurfiol yn llawn ac yn deg, fel arfer bydd angen datgelu pwy yw’r achwynydd i'r rhai sy'n ymwneud â'r ymchwiliad a'r penderfyniad ynghylch y canlyniad. Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywun arall, fel arfer bydd ganddyn nhw hawl i wybod pwy sydd wedi cwyno amdanyn nhw, yn enwedig os yw'r gŵyn yn mynd ymlaen i wrandawiad disgyblu. Trwy gydol ymchwiliadau, rhaid i bawb sy'n gysylltiedig â’r achos gynnal cyfrinachedd a disgresiwn, waeth beth fo natur y digwyddiad. Dewch i siarad â ni os ydych chi'n nerfus ynglŷn â gwneud cwyn; byddwn ni'n eich cefnogi trwy'r broses gyfan.


Dydw i ddim yn 100% yn glir ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda chwyn o hyd; allwch chi ei egluro i mi mewn ffordd wahanol?

Wrth gwrs, nid yw cyflwyno cwynion yn rhan arferol o fywyd bob dydd, ac fel arfer mae hynny oherwydd bod rhywbeth wedi mynd o'i le, felly rydym yn deall yn llwyr fod angen i ni wneud y broses mor syml â phosibl. Gobeithiwn y bydd y siart-llif isod yn gwneud hyn:

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576