Dogfennau Polisi a Gweithdrefnau Ffurfiol
Yn Undeb Aberystwyth, rydym wedi ymrwymo i sicrhau awyrgylch cadarnhaol a chefnogol, lle mae pob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i glywed. Rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â'r polisïau hyn er mwyn deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Mae'r dudalen hon yn cynnwys pedair dogfen allweddol: Côd Ymddygiad yr Aelodau, Côd Ymddygiad Grwpiau Myfyrwyr, Polisi a Gweithdrefn Disgyblu Aelodau, a'r Polisi Cwynion.
- Mae ein Côd Ymddygiad Aelodau yn amlinellu'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan holl aelodau Undeb y Myfyrwyr.
- Mae ein Côd Ymddygiad Grwpiau Myfyrwyr yn amlinellu'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan glybiau a chymdeithasau a'r broses a ddilynwn pan fydd grwpiau'n methu â chyrraedd y disgwyliadau hyn.
- Mae’r Polisi a Gweithdrefnau Disgyblu Aelodau yn darparu fframwaith tryloyw ar gyfer rheoli honiadau o gamymddwyn, yn ogystal â sicrhau bod unrhyw gamau disgyblu, lle bo angen, yn cael eu gweithredu'n deg ac yn gyson.
- Mae ein Polisi Cwynion yn darparu fframwaith clir ar gyfer codi a datrys unrhyw bryderon neu broblemau y gallech ddod ar eu traws.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, mae ein tîm ymroddgar yma i helpu.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i lywio'r dogfennau hyn neu eu deall, gweler ein canllaw ar gyfer defnyddio'r dogfennau, ein Cwestiynau Cyffredin ac enghreifftiau, neu cysylltwch â ni am gefnogaeth.