Bydd myfyrwyr yn teimlo’n saff wrth gerdded o gwmpas Aberystwyth gyda’r hwyr.
| |
  |
Beth yw amcanion yr ymgyrch hwn?
- Gweithio gyda myfyrwyr i drafod lle nad ydynt yn teimlo’n saff ar hyn o bryd neu fod rhywbeth anniogel wedi digwydd iddynt.
- Meithrin perthynas gryfach â’r cyngor a’r heddlu i weithio ar y cyd tuag at greu lle saffach.
- Dod â mwy o olau i lefydd yn Aberystwyth.
- Newid o feio dioddefwyr i gyflwyno cyfathrebu sy’n targedu troseddwyr.
|
|
|
Pam fod hyn yn bwysig?
Mae cael cerdded o gwmpas yn saff gyda’r nos o bwys i ryddid, cydraddoldeb, annibyniaeth, ac ansawdd bywyd. Pan na fydd pobl (yn enwedig menywod ac unigolion o rywedd amrywiol neu sy’n ymddangos yn fenywaidd) yn teimlo’n saff gyda’r hwyr, mae’n cyfyngu ar eu gallu i gael swyddi, bywyd cymdeithasol, gwneud ymarfer corff, mynd i fannau cymunedol, addysg, a mynd ar neges. Nid mater o ‘deimlo’ yn unig mo hyn, mae pryderon mesuradwy ynghylch diogelwch a’r effeithiau y mae ymddygiad yn eu cael ar fywydau pobl.
Yn ôl yr Adroddiad Diogelwch Byd-Eang, nid yw 73% o oedolion ar draws y byd yn teimlo’n saff tra’n cerdded ar eu pennau eu hunain gyda’r nos. Yn achos y Deyrnas Unedig, canfu pôl piniwn diweddar fod 88% o fenywod yn dweud nad ydynt yn teimlo’n ddiogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain gyda’r hwyr a bydd llawer yn newid eu llwybr neu ei osgoi yn llwyr oherwydd rhesymau diogelwch.
Pan fydd grwpiau mawr o bobl yn teimlo’n anniogel mewn mannau cyhoeddus liw nos, gall ddynodi materion megis:
- Golau ac Isadeiledd Gwael
- Plismona Anghyfartal a Diogelwch Cyhoeddus.
- Normau Cymdeithasol sy’n rhoi’r cyfrifoldeb am ddiogelwch ar unigolion nac ar gymunedau.
Magu cymunedau teg a chynhwysol lle nad oes rhaid i neb leihau eu bywyd oherwydd ofn yw gwneud cerdded yn y nos yn saffach i bawb yn ei hanfod.
|
  |
Camau
🗣️ Rydym wedi bod yn gwrando.
Rydyn ni wedi gwrando Mae ein tîm ymgyrchu wedi bod allan yn y gymuned trwy gydol y flwyddyn, yn siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr ac yn gwrando ar eu profiadau bywyd. Trwy gasglu straeon personol ac adborth gonest, rydyn ni’n adnabod beth sydd wrth wraidd y problemau. Un o’r problemau rydyn ni’n mynd i’r afael â hi yw nad yw myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel yn cerdded gyda’r nos. Trwy eich hanesion chi, gallem ni gael syniad o ba lefydd y mae myfyrwyr yn teimlo’n saff yn y dref ac ar y campws a lle nad ydynt yn teimlo’n saff. Dywedodd myfyrwyr wrthym fod golau gwell yn bwysig nid o ran diogelwch yn unig ond hygyrchedd hefyd. Dyna rywbeth rydyn ni’n ei flaenoriaethu yn ystod ein teithiau cerdded diogelwch wrth i ni weithio i wneud y dref yn saffach i bawb.
Mae’r lleisiau hyn o bwys a nhwthau sy’n ysgogi gweithredu go iawn ar hyn o bryd. Mae pob sgwrs yn helpu llywio’r gwaith rydyn ni’n ei gyflawni a’r newidiadau rydyn ni’n dadlau drostynt.
Ymchwilio i’r Dref
Y Gweithredu Mehefin 2il, ymunodd staff yr Undeb â Gwasanaethau’r Myfyrwyr, Cyngor y Dref a’r Sir, ac ymgyrchwyr o’r myfyrwyr am daith gerdded ddiogelwch oddeutu’r dref gyda’r hwyr. Ymwelon ni i gyd â lleoliadau pwysig a adnabuwyd yn anniogel gan fyfyrwyr, yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei newid gan gynnwys gwella golau stryd.
💡 Ardal bwysig sy’n destun adolygiad yw tir y castell. Rydyn ni’n trafod opsiynau golau cynnil a fydd yn gwarchod harddwch yr ardal tra’n ei gwneud yn saffach i bobl gerdded trwyddi yn y nos.
🤝 Pwerus oedd dod â phawb ynghyd: cryfhau partneriaethau, rhannu syniadau, ac ymrwymo i weithio ar y cyd wrth fwrw ymlaen.
🙌 Diolch o galon i bawb ymunodd â ni ac a gefnogodd y gwaith hwn. Diolch yn fawr i Shelly Childs o Gyngor y Dref, Maer Aberystwyth, Emlyn Jones, ac Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Ceredigion am fynychu ac am gymryd rhan fawr yn y trafod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymladd dros dref lle mae pawb yn teimlo wedi’u diogelu, wedi’u gweld ac wedi’u cefnogi.
Ymgynghoriad â’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
Mae Undeb Aberystwyth wedi cyflwyno ei farn i ymgynghoriad ynghylch y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ynghylch defnydd ar alcohol yn y stryd yn Aberystwyth.
Ceir gwybod mwy am yr ymgynghoriad yma.
Darllener ein hadborth yma.
Diolch am rannu’r Gorchymyn Diogelu Yfed Alcohol mewn Mannau Agored Cyhoeddus â ni ac am gynnig i Undeb y Myfyrwyr ymateb iddo.
Rydyn ni’n cytuno mai cadarnhaol a buddiol yw diben y gorchymyn hwn trwy sicrhau fod Aberystwyth yn saffach i’w holl drigolion. Rydyn ni’n croesawu’n benodol yr agwedd nad trosedd yw meddu ar alcohol ei hun, a bod y gorfodi yn rhoi sylw i fethu â chydymffurfio â chais heddwas heb esgus rhesymol. Rydyn ni’n credu mai mesur cymedrol yw hyn, gan ei fod yn lleihau’r risg o gosbi unigolion a allai fod heb wybod am y gorchymyn neu a allai fod yn agored i niwed neu’n ceisio cymorth, gan gynnig dull mwy addysgiadol ac ataliol.
Rydyn ni’n deall bod y maes penodedig yn cynnwys tref Aberystwyth yn ei chyfanrwydd, sy’n cyfrannu at fframwaith cyson a chlir â’r nod o wella diogelwch cyhoeddus.
Mae ein hunig bryder yn ymwneud â chynnwys y traeth. Rydyn ni’n gwybod bod rhai myfyrwyr yn yfed alcohol ar y traeth yn y noswaith ar brydiau, a hynny fel arfer yn ddewis mwy fforddiadwy i lefydd trwyddedig. Er ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn cefnogi busnesau lleol, mae llawer o fyfyrwyr yn wynebu rhwystrau ariannol sylweddol a’r traeth yw un o’r mannau cymdeithasol hygyrch prin y tu allan i’r cartref nad oes costau ychwanegol ynghlwm ag ef.
Byddem yn croesawu eglurhad ar sut y byddai’r gorchymyn yn cael ei weithredu yn y cyd-destun hwn. Yn benodol, ai dull cyffredinol tuag at bob math o yfed alcohol, neu a fyddai’r gorfodi yn canolbwyntio ar sefyllfeydd lle bydd ymddygiad yn tarfu neu’n aflonyddu? Er enghraifft, petasai grŵp bach o fyfyrwyr yn eistedd yn dawel ar y traeth gyda diodydd alcoholig ond heb wneud twrw, a fyddai’r heddlu yn dal i fynd atynt?
Diolch am ystyried ein hymateb. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am ganlyniadau’r cyfarfod a chael eglurhad ar y pwyntiau a godwyd uchod.
Dolenni Ychwanegol
StreetSafe
Dyma wasanaeth sy’n caniatáu i chi adrodd yn ddienw pryderon ynghylch diogelwch mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys golau gwael ar strydoedd, adeiladau amddifad, neu fandaliaeth, yn ogystal ag achosion lle rydych chi’n teimlo’n anniogel. Caiff data StreetSafe ei gyflwyno’n rheolaidd yng nghyfarfodydd CSP i gadw llygad ar dueddiadau a meysydd sy’n peri pryder.
Po fwyaf o ddata y mae’n ei gael, y cliriaf y bydd y darlun o ran lle y bydd galw am adnoddau neu ymyrraeth.