Helo Mislif

Mae’r ymgyrch mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (UMAber) a Phrifysgol Aberystwyth. 

 

Yma yn UMAber, rydym yn credu fod gan bawb sy’n gwaedu yr hawl i gael cynhyrchion mislif am ddim yn ôl eu hangen.

Mae’r ymgyrch hwn yn gynhwysol i bob rhywedd.

Os hoffech chi daro heibio i gael cynhyrchion am ddim, dewch i Dderbynfa yr UM a siaradwch â Molly, ein Cynghorydd, a fydd yn gallu trafod yr opsiynau sydd ar gael i chi!

Mae hwn yn ymgyrch cynhwysol i Bobl Draws ac i Bobl o Rywedd Anghydffurfiol. 

 

Mae gan Helo Misglwyf 3 nod allweddol:

  • Darparu ystod eang o gynhyrchion mislif am ddim sy’n ailddefnyddiadwy i’n holl fyfyrwyr sy’n gwaedu
  • Darparu deunyddiau addysgiadol / gweithdai ar gynhyrchion mislif, tlodi mislif, urddas mislif a’r cyflyrau iechyd cysylltiedig nad oes digon o ymchwil amdanynt ee dysmenorrhea
  • Magu amgylchedd lle mae pawb yn gallu trafod misglwyfau ar unrhyw adeg

Y cynhyrchion sydd ar gael

  • Cwpan mislif – gan gynnwys cwpan sterileiddio
  • Trôns mislif – mewn meintiau S-4XL ac ystod o opsiynau uchel / isel, gweler y catalog llawn yma
  • Padiau ailddefnyddiadwy  – gan gynnwys bag gwlyb i’w storio
  • Mae yna hefyd gynhyrchion defnydd untro ar gael am ddim yn y dderbynfa ac yng nghitiau ymgeledd bysys mini yr UM

Cyflenwir ein holl gynhyrchion gan HeyGirls, i ddysgu mwy amdanynt, ewch i’w gwefan yma.

Hen digwyddiadau:

Os hoffech chi ddysgu mwy am yr ymgyrch a ffyrdd o gymryd rhan, cysylltwch â ni:

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk 

Cynghorydd Myfyrwyr

Molly Sutton

undeb.cyngor@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576