Wythnos SHAG

Cefnogir yr Ymgyrch hwn gan bolisi. Gweler yma.

Yn 2023 a 2024 enillodd Undeb Aber wobr Cydnabyddiaeth UCM Cymru am ein gwaith ar yr ymgyrch hyn.


Mae gennym 4 prif nod

  • Bod myfyrwyr yn magu hyder rhywiol ac yn deall bod gwasanaethau iechyd rhywiol ar gael pryd bynnag bo angen neu eisiau.
  • Bod myfyrwyr yn magu agwedd bositif tuag at ryw.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu ar sut i gael rhyw pleserus a diogel os ydyn nhw am gael rhyw, yn bennaf yn ymwneud â Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw.
  • Bod yr ymgyrch yn gynhwysol i bobl Draws, Anneuaidd a LDHTC+.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae Iechyd a Llesiant Rhywiol yr un mor bwysig ag iechyd meddwl a chorfforol ond oherwydd stigmâu ynghylch cywilydd a rhyw, mae’n gallu bod yn anodd defnyddio cymorth a chefnogaeth pan fod ei angen arnoch. Pan siaradais i â myfyriwr am y tro diwethaf iddynt gael prawf HDR dyma nhw’n ateb, “O, Dydw’i erioed wedi cael un. Mae’n codi embaras braidd.” Dyma’r agwedd rydyn ni am ei newid gyda’r Ymgyrch SHAG. Rydym eisiau i fyfyrwyr allu siarad am ryw heb gywilydd, bod yn hyderus yn dweud nad ydynt byth eisiau cael rhyw a’u bod yn gallu estyn a gofyn am gymorth pan fo ei angen. Dyn ni am i fyfyrwyr weld rhyw fel rhywbeth positif a hwyl eu bod nhw’n gallu ei fwynhau. Mae blaenoriaethu ac edrych ar ôl iechyd rhywiol yn gallu cael cymaint o effeithiau positif ar eich iechyd corfforol a meddwl.


Beth mae Undeb y Myfyrwyr ei gynnig?

Wyddoch chi yn ôl yr ystadegau pobl o 16-24 oed sydd y tebycaf o drosglwyddo HDR? Dyn ni eisiau i chi fwynhau eich hunain, ond dyn ni hefyd am i chi fod yn saff. Felly, beth ydyn ni’n ei gynnig?

  • Mae amrywiaeth o gondomau am ddim, gan gynnwys rhai heb latecs, profion beichiogrwydd, citiau profi HDR ac liwb, ar gael yn ein Gorsaf Lles gyferbyn â'r Swyddfa Cyfleoedd Myfyrwyr yn Undeb.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi siarad â rhywun, cysylltwch â'n Cynghorydd Myfyrwyr (undeb.cyngor@aber.ac.uk)
  • I archebu citiau HDR am ddim a’i wneud o gysur eich cartre’, ewch i Cymru Chwareus 
   

Mae’r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.


Iaith Garu

SHAG (Ymwybyddiaeth a Chyngor ar Iechyd Rhywiol) Mae'r wythnos yn fwy nag agosatrwydd corfforol yn unig, ond gall agwedd ohoni hefyd fod yn berthynas, cyfathrebu, mae'r pum iaith garu yn bum ffordd wahanol o fynegi a derbyn cariad:

  • Gweithredoedd o wasanaeth,
  • Rhoddion,
  • Cyffyrddiad corfforol,
  • Treulio amser ystyrlon,
  • Geiriau o gadarnhad.

Mae'n bwysig deall nad yw pawb yn cyfathrebu nac yn dangos cariad yn yr un ffordd.

Datblygwyd y syniad hwn gan Gary Chapman, ei theori oedd bod pobl yn naturiol yn rhoi cariad yn y ffordd y mae'n well ganddynt dderbyn cariad, gellir cyflawni gwell cyfathrebu pan all rhywun ddangos ystyriaeth o iaith garu rhywun arall.

Gweithredoedd o wasanaeth

Os mai gweithredoedd o wasanaethu yw eich iaith garu chi, efallai eich bod chi’n gwerthfawrogi’n fawr unrhyw weithredu i wneud eich bywyd yn haws gan eich partner, boed iddi fod mor syml â gwneud coffi i chi yn y bore. “Dyma iaith garu y rheini sy’n credu mai gwneud nad dweud sydd bwysicaf”

  • Sut mae cyfathrebu: Dweud pethau fel “wna’ i helpu”, maent eisiau gwybod eich bod yn gefn iddynt.
  • Camau i’w cymryd: Gwnewch weithredoedd gyda’ch gilydd. Mynd i ymdrech i wneud eu diwrnod yn haws.
Rhoddion

Os mai anrhegion yw eich iaith garu, ystyrir y byddwch yn teimlo cariad pan fydd eraill yn rhoi ‘symbolau gweledol o gariad’, nid y gwerth ariannol sydd bwysicaf yn hytrach na’r symboliaeth a’r gwerth emosiynol. “Dyma iaith garu y rheini sy’n credu y gall pethau ymgorffori teimladau”.

  • Sut mae cyfathrebu: Meddylgarwch sydd wrth wraidd, rhywbeth sy’n adlewyrchu eich amser gyda’ch gilydd neu’ch teimladau.
  • Camau i’w cymryd: arwyddion ac anrhegion ystyrlon. Mawr yw ystyr y pethau bychain. Os mai chi sy’n cael anrheg, gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos diolchgarwch.
Cyffyrddiad corfforol

Os mai cyffwrdd yw eich iaith garu, mae’n debyg eich bod yn teimlo cariad ar ei fwyaf drwy arwyddion corfforol o gariad, gall hyn gael effaith gadarnhaol a magu cysylltiad emosiynol cryf. “Dyma iaith garu y rheini sy’n gwerthfawrogi teimladau o gysur a chynhesrwydd”.

  • Sut mae cyfathrebu: heb eiriau (ond gyda chaniatâd llafar), defnyddio iaith y corff a chyffyrddiad i ddangos cariad.
  • Camau i’w cymryd: dangoswch gariad mewn ffordd gorfforol yn rheolaidd, cofiwch mai cyfathrebu a chaniatâd sydd bwysicaf.
Treulio amser ystyrlon

Os mai treulio amser ystyrlon yw eich iaith garu, efallai y byddwch chi’n teimlo cariad pan fydd eich partner yn rhoi o’u hamser i chi. Gwrando’n astud, edrych i fyw llygaid a bod yn bresennol sydd bwysicaf. “Dyma iaith garu y rheini sy’n prisio cael eu clywed uchaf”.

  • Sut mae cyfathrebu: Sgwrsio heb dorri ar draws eich gilydd. Mae amser preifat ac agos yn hollbwysig.
  • Camau i’w cymryd: Gwnewch amser i’ch gilydd, gwnewch bethau sy’n gwneud y gorau o’r amser a dreulir gyda’ch gilydd.
Geiriau o gadarnhad

Os mai geiriau o gadarnhad yw eich iaith garu, byddwch chi’n debyg o werthfawrogi cydnabyddiaeth llafar o gariad, canmoliaeth, geiriau o gadarnhad ac o anogaeth. “Dyma iaith garu y rheini y mae’r gair llafar ac ysgrifenedig yn taro tant fwyaf”.

  • Sut mae cyfathrebu: Annog, cadarnhau, gwerthfawrogi a chydymdeimlo. Mae gwrando’n astud hefyd yn bwysig.
  • Camau i’w cymryd: anfon nodyn, tecst, cerdyn annisgwyl. Sylwadau cadarnhaol ac anogaeth go iawn sydd bwysicaf.

Mwy o wybodaeth: Beth ydyw?

Cogio Condom

Dyma achos lle mae rhywun yn dweud ei fod am ddefnyddio diogelwch (hy condom) ac yna yn peidio â’i ddefnyddio neu’n ei dynnu yng nghanol rhyw. Mae hyn y torri’r gyfraith ac yn cael ei ystyried yn ymosodiad rhywiol. Dyma dorri amodau’r caniatâd a wnaed rhwng y rheini sy’n cael rhyw.

Ystyr caniatâd amodol yw cydsynio i ryw ar sail gwisgo condom er enghraifft, a phan gaiff ei dynnu yn ôl, dyna dynnu’r cydsyniad yn ôl ar yr un pryd. 

I gael cymorth, cysylltwch ag Adrodd + Cymorth neu’r Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol yn y Gwasanaethau Myfyrwyr ac mae modd cysylltu â nhw yn uniongyrchol drwy svlo@aber.ac.uk

Atal Cenhedlu a Heintiau a Drosglwyddir

Drwy Ryw

Gellir defnyddio atal cenhedlu rhag mynd yn feichiog heb ei eisiau ac atal trosglwyddo heintiau a drosglwyddir drwy ryw. Mae’r bilsen atal cenhedlu yn ffordd gyffredin iawn o osgoi beichiogi pan yn cael rhyw a ddefnyddir gan bobl sydd ag wterws. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod rhwystr arall yn cael ei ddefnyddio o achos hebddo ni fydd y bilsen yn eich atal rhag dal haint rhywiol.

Gall Heintiau a Drosglwyddir drwy Ryw fynd ar led drwy unrhyw fath o ryw. Mae’n bwysig i chi ddefnyddio rhwystr rhyngddoch chi a'ch partner/iaid ac i chi wneud prawf HDR rhwng pob partner newydd.

Mae modd i chi gael gafael ar brawf am ddim un ai trwy ein Clinig Iechyd Rhywiol lleol ar stryd Penglais neu drwy archebu un dros y we am ddim gan Iechyd Rhywiol Cymru. 

Teganau Rhyw

Mae teganau rhyw yn gallu cynnig ffordd i chi a’ch partner/iaid gael hwyl tra’n arbrofi. Boed ar eich pen eich hunain neu gydag eraill, mae’n bwysig eich bod chi’n golchi teganau rhyw rhwng eu defnyddio i atal unrhyw heintiau neu Heintiau a Drosglwyddir dry Ryw posib.

Mae Addysg Iechyd Rhywiol hefyd yn argymell defnyddio condomau neu ryw fath o rwystr i atal cenhedlu gyda theganau rhyw a ddefnyddir gydag eraill i chi ac iddynt fod yn saff.

Anrhywioldeb a Hunaniaethau Heb fod yn Rhywiol

Mae'n bwysig nodi yn ystod yr wythnos hon na fydd rhyw yn gysylltiedig â phob perthynas. Mae llawer mewn perthynas gariadus heb berthynas rywiol.

Gall hyn fod oherwydd eu bod yn uniaethu yn anrhywiol neu oherwydd nad ydynt am gael rhyw. Efallai nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny ar hyn o bryd, neu nad ydyn nhw byth eisiau gwneud hynny. Mae’n bwysig cydnabod hyn pan fyddwn yn cyfarfod â phobl newydd neu’n siarad am ryw gyda’n ffrindiau.

 


Adnoddau Allanol

Brook


Dolenni Allanol:

Ni waeth eich hunaniaeth rhyweddol neu eich cyfeiriadedd rhywiol, dylai fod gan bawb mynediad i gyngor iechyd rhywiol am ddim, i chi gael addysg ar unrhyw fath o ryw rydych chi’n dewis. Un ai’r ffordd dych chi’n cael eich profi ar gyfer HDRau, dysgu sut i gael sgyrsiau agored am ryw, sut i fod yn saff ac yn barchus, neu ddeall eich corff; dyn ni wedi dod o hyd i ychydig o adnoddau eraill a allai fod o ddefnydd.

Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch


Atgofion


Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy, e-bostiwch ...

 

 Laura Young 

Llywydd Academaidd

academaiddum@aber.ac.uk

 

 Llywydd Cyfleoedd

Francesco Lanzi 

cyfleoeddum@aber.ac.uk

  

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576