Bob mis Mawrth rydyn ni’n dathlu Mis Hanes Menywod yn ogystal â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 8fed Mawrth. Wrth wraidd hyn yw anrhydeddu menywod a’u holl gyfraniadau trwy gydol hanes hyd heddiw a’u dathlu.
Adennill y Nos
Rydyn ni’n cynnal gorymdaith Adennill y Nos bob blwyddyn ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Er mai grymuso menywod yw nod yr orymdaith hon mae’n drist bod rhaid i ni ei chynnal o hyd.
Mae mudiad Adennill y Nos a’i wreiddiau yn Leeds yn 1977, ac yn orymdaith sy’n galw am yr hawl i bob menyw fynd i lefydd cyhoeddus gyda’r nos a theimlo’n ddiogel. Mae wedi troi’n frwydr dros hawliau diogelwch holl fenywod a chydnabod y ffigwr 1 mewn 3.
Cymerwch gip ar ein llun Adennill y Nos dros y blynyddoedd.
2020 |
2019 |
|
|
Galeri Llun Adennill y Nos
Mae Mis Hanes Menywod hefyd yn gyfle i ddathlu popeth mae pop menyw wedi’i gyflawni trwy gydol hanes a thynnu sylw at bobl bwysig a’r gymuned anhygoel o fenywod sydd ganddom ni yma yn Aberystwyth.
|
2024
Yn dod yn fuan
2023
Cynhaliodd Undeb Aber stondin yn y Bandstand ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023. Roedd gan y stondin wybodaeth am ein hymgyrchoedd ar y pryd yn ogystal â thynnu sylw at y menywod anhygoel sy’n gweithio yn Undeb Aber. Daethom ni hefyd â rhai o’r baneri a wnaed gan fyfyrwyr ar gyfer gorymdeithiau Adennill y Nos o’r blynyddoedd diwethaf.
Yn ystod y diwrnod hwnnw, cawsom ni barti te Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd yn gyfle i ni ddathlu llwyddiannau menywod gyda chacenni a the a gwrando ar gerdd ffeministaidd gan Clare Foley a thaith arbennig ein Prif Weithredwraig anhygoel Trish McGrath.
|