Mis Hanes Pobl Dduon

 

2023

 

Oriel Lluniau 2024


Yma yn Undeb y Myfyrwyr rydym wedi bod yn gweithio gyda llyfrgell y Brifysgol i greu rhestrau darllen sy'n cysylltu â'n themâu ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon eleni. Cymerwch olwg ar ein rhestr ddarllen i ddysgu mwy am Hanes Pobl Dduon a Rhyddhau.

Mae blog ar fudiad Black Lives Matter gan ein Swyddog Lles Connor i'w gweld yma hefyd.


Hiliaeth mewn Chwaraeon

Trwy gydol hanes, mae pobl dduon wedi cael eu caethiwo, eu gwthio i lawr ac maent wedi wynebu camwahaniaethu ym mhob agwedd ar fywyd. Nid yw'r gormes hwn yn perthyn i’r gorffennol pell, ac i raddau mae'n parhau heddiw. Roedd deddfau gwahanu hiliol yn bodoli yn yr Unol Daleithiau hyd at ganol y 50au, ac roedd athletwyr croenddu’n wynebu rhwystrau dirifedi a drysau caeedig. Er gwaethaf hyn, llwyddodd yr unigolion anhygoel isod i wthio terfynau’r hyn o ran yr hyn oedd yn bosibl ym myd chwaraeon. Maent wedi ysgrifennu eu henwau mewn llyfrau hanes oherwydd eu galluoedd rhagorol a'u dyfalbarhad yn wyneb rhwystrau.


Jesse Owens 

Jesse Owens - Movie, Olympics & Quotes - Biography

  • Swydd: Athletwr Trac a Maes
  • Ganed: 12 Medi 1913
  • Bu farw: 31 Mawrth 1980
  • Llysenw: The Buckeye Bullet
  • Yn fwyaf adnabyddus am: Ennill pedair Medal Aur yng Ngemau Olympaidd 1936

Trwy gydol hanes chwaraeon mae athletwyr croenddu wedi wynebu camwahaniaethu sylweddol wrth gystadlu. Digwyddodd enghraifft benodol o hyn yng Ngemau Olympaidd 1936 yn Berlin, lle defnyddiodd Adolf Hitler y gemau fel platfform i arddangos 'rhagoriaeth' yr hil Aryan. Enillodd athletwr anhygoel o’r enw Jesse Owens bedair medal aur a gosod record a safodd am 48 mlynedd. Ar ôl cyflawniad o'r fath, ni dderbyniodd Owens wahoddiad i'r Ty Gwyn ar unrhyw achlysur (fel arfer byddai hyn yn digwydd ar ôl cyflawniad mor anhygoel) ac ni chysylltodd yr Arlywydd ag e chwaith.


Althea Gibson

Althea Gibson: The pioneering champion America forgot - BBC Sport

  • Swydd: Chwaraewr tenis
  • Ganed: 25 Awst 1927
  • Bu farw: 28 Medi 2003
  • Yn adnabyddus am: Bod y ddynes Affricanaidd-Americanaidd gyntaf i gystadlu mewn tenis menywod
  • Pencampwr Sengl UD 1957, 1958
  • Pencampwr Pâr Cymysg UD 1957
  • Pencampwr Sengl Wimbledon 1957, 1958
  • Pencampwr Pâr Wimbledon 1956, 1957, 1958
  • Pencampwr Sengl Ffrainc 1956
  • Pencampwr Pâr Ffrainc 1956
  • Pencampwr Pâr Awstralia 1957
  • Pencampwr Sengl a Phâr ar Gwrt Clai UD 1957

Roedd Althea Gibson yn adnabyddus am ei sgiliau eithriadol ym maes tenis, yn ogystal â bod y ddynes Affricanaidd-Americanaidd gyntaf i gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. O ystyried ei bod yn cymryd rhan mewn camp a oedd yn adnabyddus am wahanu hiliol yn ystod y 1950au, daeth yn un o’r athletwr benywaidd mwyaf eithriadol yn y gamp honno. Ar un adeg yn ei gyrfa roedd hi hyd yn oed wedi ystyried rhoi’r orau i’r gamp yn gyfangwbl i ymuno â byddin yr UD. Cododd llawer o’i rhwystredigaeth o’r ffaith bod y gamp i raddau helaeth yn gyfyngedig oherwydd bod y diwydiant wedi’i ddominyddol a’i reoli gan bobl groenwyn, ac o’r herwydd wedi’i wahanu ar sail hil, fel yr oedd gweddill UDA bryd hynny. Er gwaethaf hyn, aeth Gibson ymlaen i sefydlu gyrfa wyth mlynedd, gan gyflawni cryn lawer yn y blynyddoedd 1956-1958.


Tommie Smith

John Carlos

Today in sports history: Black Power salute at 1968 Summer Olympics  
  • Swydd: Athletwr Trac a Maes
  • Swydd: Athletwr Trac a Maes
  • Ganed: 6 Mehefin 1944
  • Ganed: 5 Mehefin 1945
  • Yn fwyaf adnabyddus am: Salíwt pwer croenddu yng Ngemau Olympaidd 1968
  • Yn fwyaf adnabyddus am: Salíwt pwer croenddu yng Ngemau Olympaidd 1968

 

Dyma Gemau Olympaidd 1968 ym Mecsico, ac mae tri athletwr yn sefyll ar y podiwm i dderbyn eu medalau ar ôl y ras 200m. Wrth sefyll ar y podiwm mae Smith (enillydd y fedal aur) a Carlos (enillydd y fedal efydd) yn dechrau tynnu eu hesgidiau mewn protest yn erbyn tlodi. Roeddent yn gwisgo cadwyn o fwclis a sgarff mewn protest yn erbyn crogi anghyfreithlon, a gwnaeth y ddau ostwng eu pennau, ac wrth i'r anthem genedlaethol ddechrau chwarae i ddathlu gorchestion Smith a John Carlos, mae'r ddau ohonyn nhw'n codi dwrn mewn maneg ddu mewn undod ac i herio’r drefn. Cymerodd Peter Norman, enillydd y fedal arian a oedd yn athletwr gwyn o Awstralia, ran yn y brotest trwy wisgo bathodyn OPHR. Mewn amser, daeth y llun ohonyn nhw'n un o ddelweddau mwyaf eiconig yr 20fed ganrif.


Wilma Rudolph

Moment In Time: Wilma Rudolph is first American to win trio of gold medals  at 1960 Olympics

  • Swydd: Athletwraig trac a maes
  • Ganed: 23 Mehefin 1940
  • Bu farw: 12 Tachwedd 1994
  • Llysenw: Skeeter
  • Yn adnabyddus am:

Y peth mwyaf syfrdanol am Wilma Rudolph oedd, fel plentyn dywedwyd wrthi na fyddai hi byth yn gallu cerdded oherwydd polio a’r dwymyn goch. Treuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn gwisgo haearn am ei choes. Er gwaethaf yr anfanteision hyn, aeth ymlaen i ennill tair medal aur a gosod tair record byd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1960 yn yr Eidal, gan hefyd ennill y teitl 'y ddynes gyflymaf yn y byd'. Pan ddaeth adref ar ôl ennill ei medalau aur yn Rhufain, mynnodd fod y dathliadau yn ei dinas enedigol i gael eu hintegreiddio'n hiliol, a oedd yn hollol ddigynsail ar y pryd. Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf o'i fath yn hanes y ddinas.


Serena Williams

Serena Williams | Biography, Titles, & Facts | Britannica

  • Swydd: Chwaraewr tenis
  • Ganed: 26 Medi 1981
  • Yn adnabyddus am:

Gellir dadlau bod Serena Williams yn un o'r chwaraewyr tenis benywaidd gorau erioed. Dechreuodd chwarae tenis pan oedd hi ond yn 3 oed. Mae Williams wedi cyflawni cymaint trwy gydol ei gyrfa hir, gan gynnwys record o 23 Camp Lawn, sy’n fwy na mai unrhyw ddynes neu ddyn wedi’i ennill erioed. Ar ôl ennill pob un o'r pedair cystadleuaeth fawr yn olynol, cafodd derm tenis wedi'i enwi ar ei hôl - y 'Serena slam'. Ynghyd â’i chwaer Venus, maen nhw wedi bod yn ddiguro mewn cystadlaethau Camp Lawn ar gyfer pâr o fenywod. Serena Williams hefyd oedd yr athletwr a enillodd y cyflog uchaf yn 2016 a 2017.


Muhammed Ali

Muhammad Ali, 'The Greatest of All Time,' Dead at 74

  • Swydd: Bocsiwr Pwysau Trwm
  • Ganed: 17 Ionawr 1942
  • Bu farw: 3 Mehefin 1916
  • Llysenw: The Greatest
  • Yn adnabyddus am: 

Ystyrir Muhammed Ali i fod yn un o'r bocswyr gorau erioed; roedd hefyd yn gymeriad dyngarol yn ymgyrchydd cymdeithasol. Daeth Ali i enwogrwydd yn gyflym pan enillodd le yn nhîm yr UD yng Ngemau Olympaidd 1960 yn Rhufain, ac aeth ymlaen i ennill y Fedal Aur. 4 blynedd yn ddiweddarach aeth ymlaen i fod yn bencampwr bocsio pwysau trwm y byd.

Yn wreiddiol, enw Ali oedd Cassius Clay nes iddo ymuno â'r grwp Mwslimaidd Croenddu Nation of Islam ym 1964, pan newidiodd ei enw i Muhammed Ali cyn troi at Islam uniongred yn y 1970au. Oherwydd ei gredoau crefyddol, gwrthododd ymuno â’r fyddin, a diddymwyd ei bencampwriaeth ac fe’i gwaharddwyd rhag cystadlu am dair blynedd; ar ôl hynny llwyddodd i ddychwelyd i'r cylch bocsio. Hyd yn oed ar ôl i'w yrfa broffesiynol ddod i ben, fe barhaodd i fod yn ffigwr amlwg gyda’i waith dyngarol.


Hiliaeth a Gofal Iechyd


Pam mae angen ymgyrchu gwrth-hiliol arnom ym maes gofal iechyd?

Cyflyrau’r Croen

Yn 1981 bu farw Bob Marley o Acent Lentigious Melanoma, sef math o gancr y croen sy'n cael ei fethu’n am mewn diagnosis ymysg cymunedau croenddu. Er gwaethaf y ffaith fod y cyflwr yn llai cyffredin mewn cymunedau Croenddu, mae Pobl Dduon yn fwy tebygol o farw na’u cyfoedion croenwyn.

Trothwy poen

Mae pobl groenddu ar gyfartaledd yn llai tebygol o gael presgripsiwn ar gyfer cyffuriau i leddfu poen na'u cyfoedion croenwyn, oherwydd y gred annatod bod pobl Dduon yn teimlo llai o boen na phobl wyn. Dangosodd un astudiaeth yn 2016 fod 40% o fyfyrwyr meddygol blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn yn America yn meddwl bod “croen pobl dduon [yn] fwy trwchus na chroen pobl wyn”.

Iechyd atgenhedlu

Yn hanesyddol, defnyddiwyd y brechiad atal cenhedlu Depo-Provera fel dull o gadw pwer dros fenywod Duon, oherwydd nad oedden nhw’n yn cael eu hystyried yn ddigon 'galluog' i gymryd y bilsen yn annibynnol heb reolaeth feddygol gan y gyfundrefn groenwyn.

Seiciatreg

Yn y 1970au, cafodd ymgyrchwyr hawliau sifil Affricanaidd America ddiagnosis anghywir am Sgitsoffrenia. Bathodd y seiciatryddion Walter Bromberg a Franck Simon yn Ysbyty Talaith Ionia hyd yn oed y term hynod hiliol 'seicosis protest' mewn ymgais i bardduo dynion Croenddu pwerus fel unigolion treisgar cynhenid.


Sylw i'r Athro Fonesig Elizabeth Nneka Anionwu

From school nurse assistant to inspirational educator

Fel ymwelydd iechyd daeth ar draws anemia cryman-gell, clefyd sy'n effeithio'n anghymesur ar gymunedau Affricanaidd a Charibïaidd.

Yn 1979 sefydlodd Ganolfan Gwnsela Brent ar gyfer anemia cryman-gell a thalassemia, y gwasanaeth cwnsela ar gyfer cyflwr cryman-gell cyntaf erioed yn y DU.

Sefydlodd hefyd Ganolfan Nyrsio Mary Seacole ar gyfer ymarfer Nyrsio

Mae hi bellach wedi ymddeol, ac ymhlith pethau eraill mae'n Gynghorydd Anrhydeddus i Brif Swyddog Nyrsio Grwp Cynghori Strategol ar Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Lloegr.

https://campuspress.uwl.ac.uk/uwlarchives/2020/03/31/professor-dame-elizabeth-anionwu/

https://www.england.nhs.uk/atnhs/curator-archive/professor-dame-elizabeth-nneka-anionwu/


Sylw ar Mary Beatrice Davidson Kenner

Mary Kenner - Wikipedia

Dyfeisydd Americanaidd o Ogledd Carolina a anwyd ym 1912 oedd Mary Beatrice Davidson Kenner. Enillodd le ym Mhrifysgol Howard, oedd yn dipyn o gyflawniad, ond nid oedd modd iddi aros oherwydd pwysau ariannol. Dyfeisiodd wregys 'misglwyf' addasadwy gyda phoced napcyn oedd yn gallu atal lleithder, a chafodd batent ar ei chyfer ym 1956.

Oherwydd camwahaniaethu ar sail hil, ni enillodd Mary erioed unrhyw arian o'i dyfais; daeth y patent i ben, ac unwaith i’r ddyfais gyrraedd y maes cyhoeddus, gwrthododd cwmnïau fel y Sonn-Nap-Pack ei syniadau ar ôl iddynt ddarganfod ei bod yn Americanes Affricanaidd. Ysgrifennodd “Un diwrnod, cysylltodd cwmni â mi, gan fynegi diddordeb mewn marchnata fy syniad. Roeddwn i wrth fy modd. … Mae'n ddrwg gen i ddweud, pan wnaethon nhw ddarganfod fy mod i'n groenddu, pylodd eu diddordeb."

Ni wnaeth hyn ei hatal; yn ystod ei hoes gwnaeth gais am bum patent - sy’n fwy nag unrhyw ddynes Affricanaidd-Americanaidd arall mewn hanes. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar hawliau hygyrchedd, ac roeddent yn cynnwys golchwr cefn, daliwr papur toiled a hambwrdd ar gyfer ffrâm cerdded.

https://www.vice.com/ga/article/mb5yap/mary-beatrice-davidson-kenner-sanitary-belt

https://face2faceafrica.com/article/womens-history-month-meet-mary-mildred-davidson-inventors-sanitary-belt-tissue-holder


Sylw ar OWAD a Hawliau Atgenhedlu?

Reclaiming our collective past'; meeting Amrit Wilson - Institute of Race  Relations

Sefydlwyd y Mudiad i Fenywod o Dras Asiaidd ac Affricanaidd (OWAD) ym 1978, gan Olive Morris, Gail Lewis a Stella Dadzie. Roedd yn rhoi sylw penodol i’r gorgyffyrddiad rhwng hiliaeth a rhywiaeth yn achos menywod Duon a Brown yn y DU yn y 1970au a'r 80au.

Roedd eu hymgyrch ‘Ban the Jab’ yn canolbwyntio ar y brechiad atal cenhedlu Depo-Provera oedd yn cael ei roi ar bresgripsiwn yn anghymesur i fenywod Croenddu a Brown fel dull atal cenhedlu.

Roedd sgîl-effeithiau difrifol yn perthyn i’r cyffur, gan gynnwys anffrwythlondeb a chamesgoriad yn ddiweddarach mewn bywyd, ac ym marn OWAD cafodd ei greu â'r nod o ddiffrwythloni menywod Duon. Nod eu hymgyrch oedd tanseilio'r rhagdybiaeth bod angen rheoli'r boblogaeth Groenddu ac nad oedd menywod Duon yn ddigon galluog i gymryd y bilsen yn rheolaidd heb fod y gyfundrefn feddygol groenwyn yn rheoli’r sefyllfa.

https://www.majaseducationproject.com/post/the-historical-roots-of-black-feminism-in-the-uk

https://www.bl.uk/collection-items/stella-dadzie-owaad


Menywod Croenddu Dylanwadol yn Hanes Prydain


Ivory Bangle Lady (4edd ganrif OC)

Roman Britain: the Ivory Bangle Lady / Our Migration Story

Ym 1901 daethpwyd o hyd i fedd hynafol dynes yng Nghaerefrog. Fwy na chanrif yn ddiweddarach darganfuwyd ei bod hi o dras Gogledd Affrica. Bellach, cyfeirir at y ddynes hon fel Ivory Bangle Lady, gan iddi gael ei chladdu’n gwisgo mwclis wedi'i fewnforio a wnaed o ifori ynghyd ag eitemau gwerthfawr eraill. Roedd hyn yn dangos ei bod yn byw bywyd o statws cymdeithasol uchel, rhywbeth y mae archeolegwyr yn ei ddefnyddio fel prawf y gallai'r gymdeithas yr oedd hi'n byw ynddi fod yn llawer mwy amrywiol o ran ethnigrwydd nag y mae'r rhan fwyaf o hanes prif-ffrwd yn ei awgrymu.


Phillis Wheatley (1753-1784)

Phillis Wheatley - Malachi Project

Ganed Phillis Wheatley yng Ngorllewin Affrica. Yn blentyn fe’i hanfonwyd i’r Unol Daleithiau ar long o’r enw’r Phillis; pan gyrhaeddodd fe’i gwerthwyd fel caethferch i deulu o’r enw’r Wheatleys. Dyma sut cafodd ei henwi. Dysgwyd Phillis i ddarllen ac ysgrifennu tra roedd hi'n gaethferch, a oedd yn anarferol iawn ar y pryd. Pan oedd hi'n 14 oed, ysgrifennodd ei darn cyntaf o farddoniaeth. Pan oedd hi'n 20 oed, symudodd i Loegr gyda'i mab, a chyhoeddodd ei llyfr cyntaf o fewn blwyddyn. Yn 1773 hi oedd y bardd Affricanaidd-Americanaidd cyntaf i gael ei gwaith wedi’i gyhoeddi. Profodd yr hyn roedd hi’n ei ysgrifennu y gallai menywod a oedd yn gaethweision feddu ar syniadau deallusol, a chyfrannodd y gydnabyddiaeth o’i gwaith at y mudiad gwrth-gaethwasiaeth.


Fanny Eaton (1835-1924)

PreRaphaeliteSociety on Twitter: "Jamaican-born Fanny Eaton (1835-1924) was  #BornOnThisDay. During the 1860s she modelled for many Pre-Raphaelite  paintings including those by Joanna Boyce Wells, D.G.Rossetti, Simeon  Solomon, Frederic Sandys, Rebecca ...

Symudodd Fanny Eaton o Jamaica i Lundain, a bu’n gweithio yn yr Academi Frenhinol. Bu’n fodel i rai artistiaid Cyn-Raffaelaidd adnabyddus gan gynnwys Dante Gabriel Rossetti, a oedd yn edmygu pa mor brydferth oedd Fanny. Heriodd Fanny Eaton y status quo, ac mae’n cael ei chydnabod fel ffigwr pwysig yn hanes celf, oherwydd ar yr adeg honno nid oedd menywod croenddu’n cael sylw yng nghelf y Gorllewin yn aml, heb sôn am gael eu hystyried yn brydferth.


Evelyn Dove (1902-1987)

evelyndove hashtag on Twitter

Roedd Evelyn Dove yn fyfyrwraig yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Tra roedd hi yno, fe berfformiodd gyda rhai o artistiaid croenddu gorau'r byd ac aeth ymlaen i fod yn seren yn y 1920au. Daeth Evelyn yn enwog ledled y byd, ar adeg pan oedd perfformwyr benywaidd croenddu’n brwydro i gael yr un gydnabyddiaeth â pherfformwyr gwyn oherwydd rhagfarnau hiliol.


Claudia Jones (1915 - 1964)

Claudia Jones (1915-1964)

Ganwyd Claudia Jones yn Trinidad ac fe’i magwyd yn Efrog Newydd cyn symud i Lundain. Roedd hi'n newyddiadurwraig arloesol ac yn ymgyrchydd gwleidyddol. Ym 1958, lansiodd y West Indian Gazette, papur newydd gwrth-hiliol oedd yn ymgyrchu dros gydraddoldeb cymdeithasol. Yr un flwyddyn honno, lansiodd Garnifal Notting Hill - carnifal Caribïaidd enwog, sy'n dal i ddathlu harddwch diwylliant a threftadaeth India’r Gorllewin hyd heddiw. Gwnaeth hyn mewn ymateb i derfysgoedd hiliol Notting Hill.


Joan Armatrading (1950 - heddiw)

Joan Armatrading interview: I ignored advice to change my name

Cyrhaeddodd Joan Armatrading y DU yn 7 oed, o ynys Saint Kitts yn y Caribî. Dechreuodd ysgrifennu caneuon pan oedd hi'n 14 oed a dysgodd ei hun i chwarae'r gitâr. Yn y 1970au, hi oedd y gantores-gyfansoddwr groenddu gyntaf o Brydain i fwynhau llwyddiant go iawn dramor. Joan oedd yr artist benywaidd gyntaf erioed o’r DU i gael ei henwebu ar gyfer Grammy yng nghategori cerddoriaeth y blues; hyd yma mae hi wedi cael ei henwebu tair gwaith. Yn 2007, hi oedd yr artist benywaidd cyntaf o’r DU i gyrraedd rhif 1 yn siart blues Billboard.


Diane Abbott (1953 - heddiw)

Labour in migration meltdown as Diane Abbott vows to extend freedom of  movement

Dechreuodd gyrfa Diane Abbott mewn gwleidyddiaeth ym 1982, pan gafodd ei hethol i Gyngor Dinas San Steffan. Bum mlynedd yn ddiweddarach ym 1987 fe’i hetholwyd i Dy’r Cyffredin, pan wnaeth hanes trwy ddod y ddynes groenddu gyntaf erioed i gael ei hethol i Senedd y DU. Roedd bron i ganrif ers i bobl Groenddu ac Asiaidd ennill sedd yn y Senedd, ac yn y cyfnod hwnnw, dim ond dynion oeddynt. Yn aelod o’r Blaid Lafur, bu’n Ysgrifennydd Cartref Cysgodol y blaid rhwng 2016 a 2020.


Dr Shirley Thompson (1958 - heddiw)

Distinguished composer Dr Shirley Thompson becomes a patron at Black  British Academics | Black British Academics

Dr Shirley Thompson oedd y ddynes gyntaf yn Ewrop i gyfansoddi ac arwain symffoni o fewn y 40 mlynedd diwethaf yn 2004. Enw’r darn oedd New Nation Rising, A 21st Century Symphony, ac mae'n gerddoriaeth sy'n dathlu hanes Llundain. Fe'i cyfansoddwyd ar gyfer Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002 ac fe'i perfformiwyd a'i recordio gan y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu cerddoriaeth sydd wedi'i defnyddio ar gyfer ffilmiau, teledu a pherfformiadau llwyfan. Mae hi wedi ymddangos ar Restr Bwer yr Evening Standard o 100 o Bobl Groenddu Mwyaf Dylanwadol Prydain yn flynyddol rhwng 2010 a 2016. Ac yn ddiweddar, enwyd Dr Shirley Thompson fel "un o'r menywod Croenddu Prydeinig mwyaf ysbrydoledig" gan bapur newydd Metro.


Malorie Blackman (1962 - heddiw)

Home page | Malorie Blackman ~ Author of Noughts and Crosses

Dewiswyd Malorie Blackman i ddod yn wythfed Bardd Llawryfog Plant; hi oedd y person croenddu cyntaf i ymgymryd â'r rôl yn 2013-2015. Hi yw awdur poblogaidd y gyfres Noughts & Crosses, sydd hefyd wedi'i haddasu ar gyfer teledu, ac sy'n dal i fod ar gael i'w gwylio ar BBC iPlayer.


Zadie Smith (1975 - heddiw)

Zadie Smith Reads “Now More Than Ever” | The New Yorker

Mae Zadie Smith yn awdur llwyddiannus iawn; cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf pan oedd hi’n 24 oed ac mae ei llyfrau wedi derbyn nifer o wobrau. Mae ei llyfrau, sydd wedi'u hysbrydoli gan ei phrofiad o faterion yn ymwneud â hil a sut beth yw cymdeithas, ar gael yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau, ac mae hi wedi ysgrifennu traethodau a straeon byrion hefyd. Mae Zadie bellach yn dysgu Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Efrog Newydd.



Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576