#StefansSocks

 

Bu farw'r eira-fyrddiwr, cleddyfwr, gwisgwr sanau pinc a bachgen gwerth ei adnabod Stefan Osgood ym mis Mawrth 2016. Astudiodd Stefan Fathemateg yn Aberystwyth am bedair blynedd, gan wneud cryn argraff ar gymuned y myfyrwyr. Roedd yn aelod gwych o'i deulu, yn gyfaill, yn gariad ac yn gydweithiwr i lawer ohonom pan gollodd y frwydr, brwydr na ddylai unrhyw un orfod ei hwynebu. Rydyn ni'n eich gwahodd chi i fod yn rhan o ymgyrch #SanauStefan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth - efallai nad ydy e gyda ni yma heddiw, ond mae ein hatgofion ohono'n dal yn fyw.


Gadewch i ni siarad ynglyn â sut rydyn ni'n teimlo, a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n teimlo'n hapus ac yn iach. Gadewch i ni deimlo'n iawn a theimlo'n gyfforddus i estyn allan am yr help rydyn ni ei angen. Oherwydd #MaenIawnSiarad ac ni allwn barhau i adael i hunan-laddiad ennill y frwydr. Mae gwisgo sanau pinc yn ffordd dda o ddechrau sgwrs, felly beth am i ni i gyd wisgo sanau pinc a siarad am iechyd meddwl gyda'n gilydd.

Mae'r holl arian a godir at yr ymgyrch #SanauStefan yn cyfrannu at weithgareddau ynghylch iechyd meddwl myfyrwyr a gwaith gydag elusennau ac ymgyrchoedd iechyd meddwl lleol yn Aberystwyth.


StefansSocks (collection from SU Reception)

Cyf: P10010790

Prynwch bâr o sanau heddiw i gefnogi ein hymgyrch #SanauStefan. Gall gwisgo sanau pinc gychwyn sgwrs ardderchog, felly gadewch i ni i gyd wisgo sanau pinc a siarad am iechyd meddwl gyda'n gilydd. Mae'r holl elw yn cyfrannu at weithgareddau iechyd meddwl myfyrwyr a gwaith gydag elusennau ac ymgyrchoedd iechyd meddwl lleol yn Aberystwyth.

Buy a pair of socks today in support of our #Stefanssocks campaign. Wearing pink socks is an excellent conversation starter, so let’s all wear pink socks and talk about mental health together. All profits contributes to student mental health activity and work with local mental health charities and campaigns in Aberystwyth.


Uchafbwyntiau

 

  • Gwisgwyd sanau pinc yn Rhyngolgampau 2016 a 17 a lansiwyd yr hashnod #SanauStefan
  • Crëwyd sanau pinc wedi'u brandio a lansiwyd yr ymgyrch yn swyddogol yn Wythnos y Glas 2016/17
  • Chwaraewyd gêm rygbi elusennol er cof am Stefan ar 15 Hydref 2016 gan BSB a Llychlynwyr Abertawe
  • Cynhaliwyd parti lansio'r ymgyrch (gyda cherddoriaeth gan Pretty Visitors ac Etienne Victor, a chymorth gan ACOG, Tickled Pink a Chleddyfa) ar 15 Hydref 2016 a chodwyd dros £500 ar y diwrnod
  • Gwerthwyd 1000 a mwy o barau o #SanauStefan hyd heddiw ac mae'r holl elw'n mynd i MIND Aberystwyth
  • Dewiswyd MIND Aberystwyth yn un o elusennau'r flwyddyn UMAber ar gyfer 2016/17 a CALM yn elusen y flwyddyn 2017/18.
  • Lansiwyd tudalen we #SanauStefan
  • Ymgyrch Neges Nadoligaidd – dosbarthu negeseuon calonogol a chysurus mewn oferbethau yn ystod cyfnod yr arholiadau
  • 9 Mawrth 2017 oedd blwyddyn i'r diwrnod ers marwolaeth Stefan – Lansiad Cit y Rhyngolgampau a'r Wal Goffa
  • Bu stash Rhyngolgampau UMAber yn binc llachar ac ynddo roedd pâr o #SanauStefan
  • EiraAber wedi codi dros £12,000 yn enw Stefan ers ei farwolaeth ac mae'r cyfanswm hwn yn parhau i godi
  • Cynhaliwyd lolfa Shisha elusennol yng Ngwyl ONE 2017 at achos #SanauStefan, gan godi arian at MIND Aberystwyth

 

Gofalu amdanoch chi eich hun

 

Gall diet iach ac ymarfer corff gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl. Beth am fynd am dro ar hyd y prom neu roi cynnig ar ddosbarth ymarfer corff yng Nghanolfan Chwaraeon PA. https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/. Does dim rhaid i fwyta'n iach dorri eich cyllideb – beth am brynu ffrwyth neu lysieuyn dydych chi byth wedi rhoi cynnig arno o'r blaen a'i goginio gyda rysáit newydd? Mae digon o wefannau ar-lein yn cynnig ryseitiau rhad, hawdd ac iachus ar gyfer myfyrwyr - teipiwch ef ar beiriant chwilio et voilà! Gall pethau bychan gael yr effaith fwyaf.

Gall gwneud gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl. Gallech hefyd ganfod hobi newydd neu ailafael ar hen hobi dydych chi heb ei wneud ers sbel. Gallai fod yn rhywbeth fel chwarae camp, dysgu iaith newydd, ymuno â chlwb neu gymdeithas, neu rywbeth mor syml â gwau neu liwio (dewch i'n sesiwn grefft bob dydd Mercher yn yr Undeb!).

Dewch i adnabod sut mae eich meddwl a'ch corff yn gweithio – mae creu arfer o hunan-ofalu'n bwysig i'ch llesiant meddwl. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymlacio ar ôl diwrnod hir, ewch i'r arfer o gael bath gyda swigod neu gawod boeth. Os ydych chi'n cael trafferth cysgu, gall myfyrdod fod o fudd i chi glirio'ch meddwl a chaniatáu i chi gael noson dda o gwsg. Byddai angen llawer o brofi a methu ond byddai canfod yr arfer addas i chi sy'n eich helpu i ymlacio a thawelu eich meddwl fod o fudd mawr. (Ein harfer ni yw cael cawod boeth, gwisgo'n pyjamas mwyaf cyfforddus, goleuo cannwyll lafant a chael paned o de Earl Grey).

Mae sawl mudiad yn arbenigo mewn myfyrdod a hunan ofal. Maen nhw'n cynnig llwyth o wahanol hintiau a gwybodaeth ar iechyd a llesiant meddwl – ein ffefryn ni yw'r Blurt Foundation https://www.blurtitout.org/.

Yn olaf, mae siarad â rhywun agos atoch am sut rydych chi'n teimlo yn ffordd o wych o dawelu'ch meddwl. Cofiwch, dydych chi byth ar eich pen eich hun ac mae wastad rhywun fydd yn gwrando ac yn deall. Ac os nad ydych chi'n barod i siarad eto, gall ysgrifennu pethau mewn dyddiadur neu flog helpu.

Pa frwydr bynnag rydych chi'n ei hymladd, cofiwch eich bod chi wedi cyrraedd mor bell â hyn a'ch bod chi'n gryfach na rydych chi'n ei gredu. Parhewch i frwydro ac i wenu. Rydyn ni'n addo bydd pethau'n gwella.

 

Poeni am ffrind?

 

Os ydych chi'n poeni am iechyd meddwl ffrind, ceisiwch siarad â nhw am sut mae'n teimlo. Bydd rhoi gwybod iddyn nhw bod chi'n malio yn rhoi cysur mawr iddynt, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gyfforddus yn dweud wrthoch chi am yr hyn sy'n digwydd. Cyfeiriwch nhw at y gwasanaethau proffesiynol a restrir ar y dudalen hon ac anogwch nhw i wneud pethau bach a all wneud iddyn nhw deimlo'n well – gallech chi awgrymu mynd am dro neu bobi cacen gyda'ch gilydd. Hyd yn oed os ydych chi'n ei chael hi'n anodd deall yr hyn maen nhw'n ei wynebu, mae'n bwysig eich bod chi'n ceisio'ch gorau i wrando ac i roi cymorth iddynt.

Os ydych chi'n poeni am sut mae modd i chi helpu ffrind, neu os mae straen ei iechyd meddwl yn ormod i chi ei oddef, cofiwch fod gennym ni dîm o broffesiynwyr wedi'u hyfforddi'n llawn yng nghanolfan gymorth i fyfyrwyr y brifysgol sydd gerllaw. Maen nhw yma nid yn unig i roi cymorth i fyfyrwyr sydd mewn argyfwng – maen nhw'n fwy na bodlon rhoi cymorth a chyngor i chi ar ddelio ag iechyd ffrind. Cewch alw heibio i'r Ganolfan Groesawu Myfyrwyr ar gampws Penglais i drefnu apwyntiad neu cewch e-bostio studentwellbeing@aber.ac.uk, a byddan nhw'n ymateb i chi cyn gynted â phosib.

Os ydych chi'n meddwl bod ffrind mewn perygl uniongyrchol i'w hun, mae gan Adran Ddamweiniau ac Argyfwng Bronglais dîm o arbenigwyr wedi'u hyfforddi i ddelio ag argyfyngau hunanladd. Os ydych chi'n credu gall person achosi perygl uniongyrchol i eraill, dylech chi gysylltu â'r heddlu

 

Ble i fynd am gymorth

 

Mae canolfan gymorth i fyfyrwyr y brifysgol gerllaw i roi cymorth i chi gydag unrhyw broblem iechyd sydd gennych yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl. I drefnu apwyntiad gyda nhw, cewch alw heibio'r Ganolfan Groesawu Myfyrwyr ar gampws Penglais neu cewch e-bostio studentwellbeing@aber.ac.uk, a byddan nhw'n ymateb i chi cyn gynted â phosib.

Yma yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, mae hefyd gennym ni wasanaeth cynghori a all roi cymorth i chi drwy wrando a chyfeirio chi at y gwasanaethau iechyd meddwl perthnasol. I drefnu apwyntiad ewch i www.umaber.co.uk neu ewch i'n derbynfa wrth fynedfa'r adeilad.

Mae MIND Aberystwyth yn fudiad lleol sy'n arbenigo mewn cymorth iechyd meddwl. I gael gwybod mwy am y cymorth mae modd iddyn nhw ei gynnig i chi, ewch i http://mindaberystwyth.org/. Neu cewch ymweld â nhw yn eu swyddfeydd yn Dan Dre.

Os oes angen rhywun i wrando arnoch;

  • Mae Nawdd Nos yn wasanaeth gwrando dan arweiniad myfyrwyr sydd ar agor rhwng 8pm – 8am. Maen nhw ar gael i wrando heb feirniadu. Mae eu rhif ar bosteri o gwmpas y campws neu ar gefn eich cerdyn myfyriwr.
  • Mae amryw o wasanaethau ffôn ar gael gydol y DU sy'n cynnig cymorth i'r rheiny sydd ei angen – byddan nhw i gyd yn gwrando arnoch ac yn rhoi cymorth i chi heb feirniadu. Gall y mudiadau hyn hefyd roi cymorth i chi pan fyddwch mewn argyfwng. Mae'r mudiadau hyn a'u manylion cysylltu wedi'u rhestru isod.

Y Samariaid

Ffôn: 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)

Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando

Ffôn: 0800 132 737

Tecstiwch: help i 81066

Papyrus

Ffoniwch HopeLineUK: 0800 068 41 41

Tecst: 07786 209 697

Galw Iechyd Cymru

Ffôn: 0845 46 47 (ar gael 24 awr y dydd)

Mind Aberystwyth

Ffôn: 01970 626 225

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576