Hwb Ymgyrchoedd

Gwneud newid gwirioneddol yw pwrpas ymgyrchoedd yn yr Undeb, y Brifysgol neu yn y gymuned ehangach. Gall y newid hynny fod yn fach neu’n fawr – y cwbl sydd angen yw eich bod yn angerddol am ei gyflawni. Ac rydyn ni yma i helpu.


Adnoddau:

Popeth fydd angen arnoch i lansio eich ymgyrch

Pecynnau Cymorth:


Deunydd Ymgyrchu:

Mae gennym ystod o ddeunyddiau am ddim:

  • Paent / Brwshys Paent / Hambwrdd Paent (ystod o liwiau)
  • Marcwyr Parhaol (ystod o liwiau)
  • Marcwyr Bwrdd Gwyn (ystod o liwiau)
  • Glud PVA
  • Calch Mawr
  • Megaffon
  • High Vis
  • Blw-Tac
  • Llinynnau
  • Guillotine
  • Offer Gwneud Bathodynnau

I archebu, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk  gyda’ch enw, nod eich ymgyrch a'r dyddiad/amser rydych chi eu hangen.

I gael offer technegol ee taflunydd neu dabled gellir eu llogi oddi wrth y Gwasanaethau Gwybodaeth.


Gweithdai:

Mae gennym staff cymorth penodol a all gyflwyno hyfforddiant ar ymgyrchu am ddim, bydd pob sesiwn hyd at un awr ac mae’n bosib eu cyflwyno wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.

  • Cryfhau eich llai a chreu newid: Hyfforddiant Ymgyrchu
  • Strwythurau Democrataidd a Gwneud Penderfyniadau UMAber

I archebu sesiwn, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk .


Trefnu Digwyddiadau:

Efallai yr hoffech chi gynnal digwyddiad(au) fel rhan o’ch ymgyrch, gweler ein cyngor isod.

  • Asesiad Risg (templed). Os nad ydych chi wedi cael hyfforddiant mewn cwblhau Asesiadau Risg, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk i gael rhagor o gymorth.
  • Hysbysiad Digwyddiad / Siaradwyr Gwadd (Canllaw/Ffurflen)
  • Mae rhaid i fyfyrwyr ddilyn Canllawiau UMAber  ar gyfer gwerthu bwyd  & Asesiadau Risg Gwerthu Bwyd

   

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â:

Eich Swyddogion Llawn Amser yma

Eich Swyddogion Gwirfoddol yma

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth
Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk
llaisum@aber.ac.uk 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576