Swyddogion Gwirfoddol

Beth yw Swyddogion Gwirfoddol?

Swyddogion Gwirfoddol yw myfyrwyr sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr ar draws y brifysgol i adborthi barn y rheiny maen nhw'n eu cynrychioli i'r Undeb, y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae gan bob Swyddog Gwirfoddol gyfrifoldeb penodol, a gall rhai ohonynt gynrychioli grwpiau penodol o fyfyrwyr. Felly, dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio i'r grwpiau hynny gaiff sefyll ar gyfer y swyddi hyn. Er enghraifft dim ond myfyrwyr sy'n hunan-ddiffinio fel menywod all sefyll neu bleidleisio ar gyfer rôl Swyddog y Menywod.

Cyfansoddiad: Rolau a Chyfrifoldebau'r Swyddogion Gweithredol

Croeso i dîm newydd ar gyfer 2023/24!   

   
         

 

 

 

         
   
         
         
   
         
         
   
         

Pam dylwn i fod yn Swyddog Gwirfoddol?

Credwn fod llais myfyrwyr yn bwysig, ac rydyn ni'n gweithio i sicrhau bod barn, anghenion a phryderon myfyrwyr yn llywio eich Prifysgol, Undeb y Myfyrwyr a'r Gymuned yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Drwy fod yn Swyddog Gwirfoddol, byddwch wedi cael eich ethol gan gyd-fyfyrwyr, ac felly pwy well i gynrychioli eu barn?

Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd gennych eisoes ac yn meithrin rhai newydd, yn ogystal â gwella eich cyflogadwyedd ac yn ymuno â rhwydwaith o fyfyrwyr sydd o'r un anian â chi, sef pobl sy'n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr.

Yn ogystal â derbyn tystysgrif, bydd gennych y cyfle i gael eich enwebu ar gyfer gwobr yn ein Gwobrau Aber yn Dathlu.

Sut mae modd i mi fod yn Swyddog Gwirfoddol?

Cynhelir etholiadau yn Chwefror a Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf; cynhelir y rhain yr un adeg â'r etholiadau ar gyfer ein Cynrychiolwyr Athrofa a'n Swyddogion Llawn-amser.

Os oes swyddi gwag, cynhelir is-etholiad tua dechrau'r flwyddyn academaidd newydd (Hydref neu Dachwedd fel arfer) i lenwi'r rhain. Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio, e-bostiwch llaisum@aber.ac.uk.

Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?

Estynnir gwahoddiad i bob Swyddog Gwirfoddol fynychu hyfforddiant cyn dechrau'r tymor cyntaf ym mis Medi. Gofynnir i'r rheiny sy'n methu mynychu'r hyfforddiant hwn, neu os ydyn nhw wedi cael eu hethol yn ddiweddarach, i fynychu sesiwn a drefnir yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cymorth gan y Cydlynydd Llais Myfyrwyr; byddwch yn cwrdd â nhw'n fisol yn ystod y tymor i drafod adborth, gwrando ar unrhyw bryderon a darparu cymorth pe baech chi ei angen.

Yn yr un modd â Chynrychiolwyr Academaidd ac Athrofa, mae'n bosib y cewch chi gyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol i gwrdd â chynrychiolwyr a swyddogion o sefydliadau eraill.

 

 Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth
  ais13@aber.ac.uk  /  llaisum@aber.ac.uk 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576